Teithiau car Ffordd Cymru

Mae gan Ffordd Cymru dri llwybr gwahanol - Ffordd y Gogledd, Ffordd Cambria a Ffordd yr Arfordir. I werthfawrogi'r golygfeydd i’r eithaf, bydd arnoch angen diwrnod ar ei hyd, fan lleiaf, er mwyn gyrru’r llwybrau hyn ledled Cymru. Yn well fyth, dilynwch y teithiau yr ydyn ni’n eu hawgrymu, a chofiwch ganiatáu amser i ymweld â rhai o’r atyniadau niferus ar hyd y ffordd.

Mae taith chwe diwrnod ar hyd Ffordd y Gogledd yn dilyn arfordir Gwynedd a Chlwyd, yn llawn cestyll, mynyddoedd a hanes o’ch cwmpas ym mhobman. Mae taith saith diwrnod ar hyd Ffordd Cambria yn daith lawn o’r gogledd i’r de trwy eangderau gwyrdd, ar hyd asgwrn cefn mynyddig Cymru. Ac mae’r daith olaf, wythnos yn teithio ar hyd Ffordd yr Arfordir, yn dilyn arfordir y gorllewin, gan deithio o un pen Bae Ceredigion i’r llall ac ymlwybro rhwng y moroedd glas a'r mynyddoedd mawr. 

Mae llu o deithiau byrrach y gallwch eu dilyn oddi ar y prif ffyrdd, a llond gwlad o olygfeydd trawiadol i'w mwynhau. Rydym wedi caglu rhai awgrymiadau isod er mwyn rhoi ysbrydoliaeth i chi ar gyfer eich anturiaethau ar y ffyrdd.

Teithiau ar ffyrdd Gogledd Cymru

Porth yr A5

Fel porth amgen i Ogledd Cymru, mae ffordd yr A5 yn un braf i’w dilyn. Mae’r daith hon yng Ngogledd Cymru yn dilyn y llwybr hanesyddol i Gaergybi gan groesi’r ffin ger Castell y Waun, troi am i fyny wedyn i Langollen (dilynwch y ffordd i Fwlch yr Oernant am fwy fyth o olygfeydd trawiadol), ac ymlaen am Eryri. Mae’r ffordd sy'n ymestyn o Gapel Curig drwy Ddyffryn Ogwen yn un o’n ffyrdd gorau ar gyfer golygfeydd dramatig, rhwng y Carneddau a’r Glyderau, gan gynnwys creigiau miniog Tryfan, hoff gopa nifer o ddringwyr.

Dyffryn gwyrdd llydan gyda mynyddoedd yn y cefndir.

Capel Curig

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Gan ddechrau ychydig bellter o’r arfordir ym Mhrestatyn, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ymestyn i'r de cyn belled â Mynyddoedd y Berwyn. Mae yma gadwyn o gopaon dan orchudd o rug, â bryngaerau, ac yn eu plith ambell dref ganoloesol megis Rhuddlan, Rhuthun a Dinbych.

Tro o amgylch yr Wyddfa

Os hoffech fynd ar daith o amgylch copaon uchaf Eryri, mae yna gylchdaith arbennig 50 milltir (80km) o Fangor i Gapel Curig, draw i Feddgelert, i fyny am Gaernarfon ac yn ôl i Fangor. Mae’r ardal yn cael ei rhannu’n ddwy gan Fwlch Llanberis, lle mae maes parcio Pen-y-Pass yn adnabyddus fel y man cychwyn mwyaf poblogaidd ar gyfer taith gerdded i fyny’r Wyddfa.

Ffordd droellog mewn dyffryn dwfn yn arwain i fyny bwlch.

Pen y Pass, Eryri

Y Fenai

Gallwch groesi dros gampwaith gwreiddiol Thomas Telford o 1826, sef Pont Menai neu Bont y Borth, neu’r dewis arall yw Pont Britannia, sydd ychydig yn fwy modern. Mae Pont Britannia yn gyflymach, ac mae ganddi olygfeydd trawiadol o Bont Menai (ac o drobwll Pwll Ceris islaw). Y naill ffordd neu’r llall, mae’n werth dargyfeirio ar hyd y Fenai i ymweld â pherlau megis Castell Biwmares ac Ynys Llanddwyn

Pont Menai, Ynys Môn

Pont Menai, Ynys Môn

Gyrru o gwmpas Ynys Môn

Mae’r gylchdaith o amgylch ein hynys fwyaf yn ymestyn dros tua 75 milltir (120km) ar hyd y prif ffyrdd. Byddai’n cymryd hyd at ddwy awr i yrru o amgylch yr ynys gyfan – taith braf i'w gwneud os oes gennych hanner diwrnod yn rhydd. Os cerddwch ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn, byddai'n cymryd tua 12 diwrnod i gwmpasu'r 130 milltir (200km). Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Gwarchodfa Clogwyni Ynys Lawd yr RSPB, pâr o fwâu naturiol trawiadol a gerfiwyd o'r clogwyni yn Rhoscolyn, twyni Aberffraw, a Gwarchodfa Natur Traeth Cemlyn. Gyda 125 milltir o arfordir ysblennydd, mae yna lu o draethau i ddewis o’u plith. Y traeth mwyaf poblogaidd ar yr ynys, a chanddo statws y Faner Las, yw Benllech.

Lighthouse Llanddwyn Island, Anglesey

Ynys Llanddwyn, Ynys Môn

Cylch y Bala: O Drawsfynydd i Lyn Tegid

Anelwch i’r dwyrain o Drawsfynydd ac mae’r ffordd yn ystumio heibio i’r Arenig (sydd wedi denu llu o artistiaid) tua Llyn Tegid. Dyma’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, gyda’i rywogaeth unigryw ei hun o bysgod, sef y Gwyniad. Mae hefyd yn fan poblogaidd i hwylfyrddwyr, cychod hwylio a physgotwyr. Mae’r Bala ei hun wastad wedi chwarae rhan fawr yn niwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Ychydig filltiroedd i'r gogledd, adeiladwyd argae ar draws afon Tryweryn yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr i gyflenwi gofynion Lerpwl, gan foddi pentref Capel Celyn. Mae’r gri 'Cofiwch Dryweryn' yn dal i gael ei chlywed (a’i gweld ar ffurf graffiti) hyd heddiw.

Y ffordd o'r Bala i Drawsfynydd

Y Bala i Drawsfynydd

Llwybrau gyrru Ffordd Cambria

Mae Ffordd Cambria yn daith ragorol - gwyliwch y fideo i brofi'r daith...

Mynyddoedd Cambria - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru

Ffordd Gul y Mynydd

Mae pobl leol yn tueddu i dorri'r daith rhwng Machynlleth a Llanidloes trwy fynd heibio i Lyn Clywedog ar hyd ffordd gul y mynydd. Mae rhan helaeth o'r ffordd yn droellog a serth, ond yn ddigon llydan i ganiatáu traffig y ddwy ffordd, dim ond i bawb gymryd gofal. Mae’r golygfeydd gorau tua’r gogledd: bydd yn rhaid i chi oedi wrth gofeb Wynford Vaughan-Thomas i weld yr olygfa orau oll. Y panorama eang hwn o Eryri oedd hoff olygfa'r darlledwr.

Llyn mawr gyda gwyrddni.

Llyn Clywedog, Canolbarth Cymru

Llynnoedd Cymru

Roedd teithwyr Oes Fictoria yn galw Mynyddoedd Cambria yn ‘ddiffeithwch gwyrdd Cymru’: ehangder aruthrol, a dim pobl. Dyma’r ardal a chanddi’r dwysedd poblogaeth isaf hyd heddiw, er bod digonedd o fywyd gwyllt yma: nhw sy’n rheoli’r dirwedd eang hon. Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yw’r lle gorau i ddechrau ar daith yn y car sy’n dilyn ffordd fynyddig, llawn golygfeydd. Mae’r daith yn mynd â chi ar hyd rhwydwaith o argaeau a chronfeydd dŵr gyda golygfeydd o’r rhostiroedd a’r coetiroedd o’u cwmpas.

Argae sy'n dal dŵr y gronfa a bryniau amlwg yn y cefndir.

Cwm Elan, Rhaeadr Gwy

Gyrru trwy Fannau Brycheiniog

Mae’r A470 yn torri trwy fwlch dramatig ym mynyddoedd Bannau Brycheiniog yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ond, mae’n werth archwilio mynyddoedd eraill yr ardal. I'r gorllewin, mae'r Mynydd Du, â Sir Gaerfyrddin y tu draw iddo, yn mynd â chi hyd at Landeilo bron. I’r dwyrain, mae’r Mynyddoedd Duon yn ymestyn hyd at y ffin â Lloegr (mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cael ei chynnal yn yr ardal hon, yng Nghrucywel). Ac i'r de, Bro'r Sgydau sydd â'r casgliad gorau o raeadrau a cheunentydd ym Mhrydain.

Car yn gyrru ar hyd ffordd gul anghysbell.

Ffordd ger Llyn y Fan Fach, Sir Gâr

Llwybrau gyrru oddi ar Ffordd yr Arfordir yng Nghymru

Y llwybrau i’w gyrru drwy Benrhyn Llŷn

Cyn cychwyn o Abersoch, gallech yn rhwydd dreulio ychydig oriau (neu ddyddiau) yn gyrru o amgylch Pen Llŷn i archwilio’r arfordir gogleddol gwyllt. Ewch heibio i draeth Porth Neigwl, sy'n bedair milltir (7km) o hyd, i gyfeiriad Aberdaron, yna i fyny’r arfordir. Byddwch yn mynd heibio i draeth Porthor (lle mae'r tywod yn gwichian wrth gerdded arno), Clwb Golff Nefyn (sy'n gwrs golff godidog ar benrhyn), tafarn hyfryd Tŷ Coch ar draeth Porthdinllaen, a phentref chwarelyddol sydd wedi dod yn ganolfan Gymraeg o bwys yn Nant Gwrtheyrn.

Golygfa o'r awyr o gwrs golff Nefyn ar benrhyn yn ymestyn tua'r tonnau.

Clwb Golff Nefyn a'r Cylch, Pen Llŷn

Bwlch Talyllyn

Yn hytrach na dilyn Aber Mawddach i'r môr, ewch i gyfeiriad Dolgellau, cyn dilyn yr A470 tua'r de, a chymryd yr A487 am Finffordd. Mae'r ffordd hon wedyn yn arwain at y bwlch mwyaf trawiadol yng Nghymru, o bosib, sef Bwlch Talyllyn, gyda Chader Idris yn uchel uwch eich pen i'r dde. Mae'r bryniau'n aml yn llawn gwylwyr awyrennau: dyma Lŵp Mach lle mae peilotiaid jet o'r Awyrlu Brenhinol (a sawl awyrlu arall) yn ymarfer eu sgiliau hedfan isel, gan ddisgyn yn aml i 250 troedfedd (75m). 

Mae’r arwyddion i Dywyn yn mynd â chi’n ôl tua'r arfordir drwy gefn gwlad hardd, gan fynd heibio i Reilffordd Talyllyn. Neu ewch ymhellach i Ddyffryn Dysynni ac archwilio adfeilion anghysbell Castell y Bere.

Y cymoedd o amgylch Aberystwyth

Mae Cwm Ystwyth yn daith gylchol ddramatig sy’n mynd â chi i ochr orllewinol Pumlumon, ac ar draws argae trawiadol cronfa ddŵr Nant-y-moch. O Aberystwyth, cymerwch yr A487 i gyfeiriad Bow Street, ac ymlaen â chi wedyn am Dal-y-bont. Trowch i'r dde ger y patshyn gwyrdd yn y pentref a dilyn yr arwyddion am Nant-y-moch. Ar ôl croesi'r argae, ewch ymlaen i Bonterwyd a'r A44. Wrth i chi fynd yn ôl am Aberystwyth, byddwch yn mynd heibio i Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, uwchlaw dyffryn dramatig â golygfeydd trawiadol o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Mae’r ganolfan yn adnabyddus am y ffaith eu bod yn bwydo cannoedd o farcutiaid coch bob dydd. Y barcud coch yw Aderyn Ysglyfaethus Cenedlaethol Cymru, felly mae’n werth galw heibio i’w gweld!

Llynnoedd Teifi – Llynnoedd yn yr ucheldir yw Llyn Egnant, Llyn Hir a Llyn Teifi, pob un ohonynt yn agos at ei gilydd ac mewn lleoliad hyfryd, ym mhen draw ffordd fynyddig anghysbell, tua phum milltir o bentref Ffair Rhos, ychydig oddi ar y ffordd fawr o Bont-rhyd-y-groes i Bontrhydfendigaid. Mae'r daith yn mynd â chi drwy rai o ardaloedd mwyaf anial y Canolbarth, yn llawn golygfeydd arbennig sy'n nodweddiadol o lwyfandir ucheldirol Pumlumon.

Llwybr troed o amgylch y llyn.

Llyn Egnant, Canolbarth Cymru

Cwm Gwaun

Gwrthododd Cwm Gwaun ymuno â'r calendr Gregoraidd newydd ym 1752, felly maent yn parhau i ddathlu'r Flwyddyn Newydd ar Ionawr 13 gyda pheint yn y Dyffryn Arms, neu Dafarn Bessie i’r trigolion lleol, lle mae’r landlord poblogaidd wedi bod yn gweini jygiau o Bass o'r gasgen ers 60 mlynedd a mwy. Mae mynyddoedd y Preseli yn llawn henebion cynhanesyddol megis Pentre Ifan a bryngaer Carningli (‘mynydd yr angylion’). Naddwyd cerrig gleision Côr y Cewri o’r bryniau hyn. Does neb yn gwybod yn iawn sut y cyrhaeddon nhw Wiltshire (dyna un peth i gnoi cil drosto wrth yfed cwrw lleol Bluestone!)

Siambr gladdu mewn cae.

Siambr Gladdu Pentre Ifan yn Nhrefdraeth, Sir Benfro

Llwybr Arfordir Sir Benfro

Mae Ffordd yr Arfordir yn dod i ben yn Nhyddewi, ond mae’n werth croesi ffin ieithyddol hanesyddol y Landsker rhwng de a gogledd y sir. Ni allwch weld y llinell, ond gallwch ei chlywed: mae'r acenion lleol yn newid yn llwyr wrth i chi fynd ar hyd Bae Sain Ffraid. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn dilyn arfordir anhygoel y sir, ac mae'n amhosib inni ddewis ein hoff le gan fod cynifer ohonynt! Druidston, Marloes, Ynys Sgomer, Barafundle, Maenorbŷr… ac mae hynny oll cyn ichi gyrraedd tref harbwr hardd Dinbych-y-pysgod

Golygfa o Ddinbych-y-pysgod o'r awyr yn dangos traethau, tref ac ynys.

Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Straeon cysylltiedig