Y lleoliad – man mynyddig hudolus

Fe ddowch o hyd i’r Dyn Gwyrdd yn cuddio ar ystâd Glanusk ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yma cewch fwynhau rhai o olygfeydd gorau Cymru - mae holl brofiad yr ŵyl wedi’i blethu'n gelfyd i’r tir a’r lleoliad.

Olwyn fawr wedi'i goleuo mewn gwahanol liwiau yn ystod y nos
A crowd of people sitting on the grass at the festival

Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2021

Ymgollwch yn eich amgylchfyd wrth i chi eistedd yn yr amffitheatr naturiol sy’n wynebu y Mountain Stage - o'ch blaen mae Crug Hywel, a’i siâp nodedig fel bwrdd, ac o'ch cwmpas mae gwyrddni rhyfeddol i bob cyfeiriad. Mae Ystâd Glanusk yn enwog am ei choed, sy’n cynnwys dros 200 rhywogaeth wahanol, felly cofiwch ystyried mawredd y coed sydd ar y safle hefyd - ac efallai rhoi cwtsh i ambell un?

Dyn yn chwarae gitâr ar y llwyfan

Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Y gerddoriaeth - indi, pop a phopeth yn y canol

Er mai gwreiddiau gwerinol sydd i'r Dyn Gwyrdd, mae'r ŵyl bellach wedi tyfu i gynnwys pob math o gerddoriaeth. Mae deg ardal yn y Dyn Gwyrdd, a phob un yn nodedig ynddo’i hun. Mae dau brif leoliad: Mountain's Foot, ble gwelwch chi’r enwau mawr o flaen y Mountain Stage a Far Out (y babell fawr las ble bydd y parti'n parhau tan oriau man y bore). Dros y blynyddoedd dwi wedi mwynhau perfformiadau gan Flaming Lips, PJ Harvey, Caribou, Four Tet, Goldfrapp, Hot Chip, St Vincent, High Contrast, a John Grant, a llawer iawn mwy ar y prif lwyfannau hyn.

Ond i fi, mae goreuon yr arlwy gerddorol i'w clywed yn lleoliadau llai y Dyn Gwyrdd. Ffefrynnau personol: Round the Twist (ble mae partïon hwyr-y-nos gorau’r ŵyl), Chai Wallah, a’r Walled Garden (ble bydd bandiau ac artistiaid llai, a lle cewch ddawnsio i Charlotte Church's Late Night Pop Dungeon).

Torf tu mewn i un o'r pebyll yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd
A bar covered with posters

Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r ŵyl wedi lansio cystadleuaeth i ddarganfod doniau i roi llwyfan i rai o leisiau newydd a mwyaf addawol y sin. Mae cystadlu brwd iawn yn nigwyddiad Green Man Rising, gyda chyfle i glywed yr artist neu fand buddugol ar lwyfan yr ŵyl.

Mae'r ŵyl hefyd yn cynnig llwyfan i gerddoriaeth Cymraeg gan gyflwyno'r iaith i gynulleidfaoedd newydd. Mae nifer o fandiau'r sin wedi perfformio dros y blynyddoedd gan gynnwys Adwaith, The Gentle Good a HMS Morris. 

Croeso i'r rhai bychain

Os oes gennych chi blant, mae llawer o resymau dros ystyried y Dyn Gwyrdd fel gŵyl i’r teulu. Mae’n safle glos ble gallwch gerdded o un pen i’r llall mewn 15 munud, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell iawn o’r babell os oes angen hoe ar rywun (y rhai mawr neu'r rhai bach!) Mae gan ardal y plant, Little Folk, rywbeth i bawb gyda adloniant sy'n addas i’r babis lleiaf hyd at blant 12 oed. Gall rhai rhwng 13-17 oed fwynhau gweithgareddau fel y gweithdai DJ, sioeau tân, creu ffilmiau a dylunio crysau-T yn Somewhere (ardal yr arddegwyr). Mae ardal wersylla arbennig ar gyfer teuluoedd hefyd, ac mae gostyngiad ym mhris tocynnau ar gyfer pobl dan 17 oed, neu am ddim ar gyfer y rhai lleiaf.

Grŵp o oedolion a phlant yn eistedd ar y glaswellt yn gwenu

Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Sinema a syrcas

Mae llu o weithdai a digwyddiadau creadigol ar faes yr ŵyl. Gwrandewch ar y llefaru a chomedi yn Babbling Tongues neu cadwch lygad am berfformiadau theatr ac acrobateg ledled y safle. Mae dangosiadau o ffilmiau cwlt clasurol a chreadigaethau newydd yn y Cinedrome, sy’n lleoliad dan-do – perffaith felly ar gyfer dianc rhag gwres parhaus yr haul neu ambell gawod law anorfod. Gallwch hefyd fwynhau arddangosfeydd celf weledol yn y coed a bandiau o berfformwyr crwydrol ar daith, gan ychwanegu at yr awyrgylch ar draws y safle.

Menyw ar raff tynn
Menyw yn troelli mewn cylch metel gyda'r dorf yn gwylio

Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Llesiant

Os yw yoga ar doriad gwawr yn apelio, neu fath gong neu smŵddi gwirioneddol iachus, yna mae’n debyg mai eich cartref ysbrydol chi yw’r cae Nature Nurture. Mae’n lle gwych i ddod i fwynhau egni mwy hamddenol, i gael eich tylino, ac i ymgolli go iawn ym mhrofiad yr ŵyl. I wneud y gorau o’r ymlacio, archebwch dwba twym a gynhesir gan dân coed – profiad bendigedig pan fydd yr haul yn dechrau machlud.

Dyn Gwyrdd, gwyrdd

Nod y Dyn Gwyrdd erioed fu cynaliadwyedd, ac ni werthwyd yr un gwelltyn plastig yno erioed (gan arbed 500,000 gwelltyn rhag mynd i safleoedd tirlenwi). Dyma’r ŵyl gyntaf yn y DU i weini diodydd mewn cwpanau stacio wedi’u hailgylchu ac mae’r rhaglenni a’r llinynnau gwddf wedi’u gwneud o ddeunyddiau a ailgylchwyd a bambŵ hefyd. Mae toiledau compostio o gwmpas y safle, a bydd pob offer gwersylla a adewir ar y safle ar ôl i’r ŵyl ddod i ben yn cael eu hailgylchu neu’u rhoi i sefydliadau sy’n gofalu am ffoaduriaid.

Gwledd a gŵyl gwrw

Er bod croeso i wersyllwyr ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain, y peth gwych am y Dyn Gwyrdd yw’r cyfoeth o ddewisiadau gwych sydd o gwmpas y safle. O ran bwyd mae digonedd i lysieuwyr a figaniaid (rydw i wrth fy modd hefo'r sushi figan).

A phan ddaw hi’n fater o yfed, os ydych chi’n cymryd eich cwrw o ddifri, byddwch chi wrth eich bodd yn cael cyfle i brofi o blith y cannoedd o fragwyr annibynnol o Gymru sy’n cael lle yma bob blwyddyn. Mynnwch gopi o’r rhaglen pan gyrhaeddwch chi, a defnyddiwch y canllaw cwrw sydd ynddo i wneud nodiadau a chreu rhestr o'r cwrw rydych chi am eu blasu.

Hefyd, gwnewch yn siŵr o fachu peint o Growler, sef cwrw’r Dyn Gwyrdd ei hun. Os hoffech gael blas ymlaen llaw, byddwch chi’n falch o glywed fod modd archebu’n syth i’ch cartref erbyn hyn! Mae Green Man Growler IPA bellach ar gael o siop yr ŵyl.

Rhywun yn dal peint o gwrw i fyny ar lwyfan yr wyl wedi'i amgylchynu gan bobl

Peint o Green Man Growler IPA

Gwyliau estynedig i grwydro'r ardal

Os yw pedwar diwrnod yn y baradwys werdd hon ddim yn ddigon, gallwch ymestyn eich amser yma drwy ddod yn gynt ar gyfer wythnos Settlers y Dyn Gwyrdd. Mae’r gwersyll yn agor ar y dydd Llun cyn y brif ŵyl, gan gynnig rhaglen estynedig sy’n cynnwys barbeciws cynnyrch lleol, cwis tafarn, a chyfle i fwynhau cerddoriaeth fyw, gweithdai, antur awyr-agored a gweithgareddau i’r teulu.

Mae hefyd yn gyfle i fynychwyr yr ŵyl i ddarganfod yr ardal gyda gostyngiadau arbennig ar safleoedd treftadaeth, orielau, rhaeadrau, gerddi a chestyll. Os am fynd 300 troedfedd dan ddaear gyda glöwr go iawn, gallwch ymweld â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a dysgu am orffennol diwydiannol Cymru, neu beth am dreulio prynhawn yn crwydro adfeilion hardd eglwys Priordy Llanddewi Nant Hodni yn Nyffryn Ewias, sy’n dyddio o’r 13eg ganrif. Dim ond 12 milltir o safle'r Dyn Gwyrdd yw Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, neu os ydych am fwy o hanes lleol, mae Castell Crughywel o fewn 3 milltir o safle'r ŵyl.

Bydd tocynnau Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2025 ar werth 28 Medi 2024.

Llwyfan mewn gŵyl mewn cae.

Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Straeon cysylltiedig