Dyma restr o rai o'n hoff fwydydd ar hyd Ffordd Cambria - o Gaerdydd i Landudno. Gallwch chi ddilyn rhan o’r llwybr neu ddilyn y llwybr cyfan, ym mha bynnag drefn sy'n gweddu'r daith. 

Home, Penarth

Mae Home ym Mhenarth yn gartref i’r cogydd lleol James Sommerin a’i ferch Georgina. Mae gan y bwyty seren Michelin ac nid yw hynny’n syndod - mae eu blasau yn cael eu cydbwyso’n berffaith a’r ansawdd i’r bwyd yn ddwys a diddorol. Rhowch gynnig ar y fwydlen blasu 8 cwrs neu gwyliwch nhw’n coginio’r bwyd cyn i chi ei fwyta mewn noson goginio. Mae’n hanfodol bwcio ymlaen llaw.

Darllen mwy: Sêr Michelin sîn bwyd a diod Cymru

Dyn a dynes yn sefyll mewn cegin broffesiynol.
Dau blisgyn wy wedi'u llenwi â saws, mewn powlen wedi'i llenwi â gwellt.

Tad a merch, James a Georgia Sommerin, Home, Penarth

Gwerth mynd allan o’ch ffordd: Mae Distyllfa Penderyn rhyw awr i’r gorllewin oddi ar Ffordd Cambria. Ewch ar daith dywys i ddysgu sut mae’r wisgi enwog yn cael ei wneud a sut mae’n aeddfedu. Yna cewch brofi peth. Mae poteli bychain ar gael er mwyn i yrwyr gael blasu’r ddiod nes ymlaen. Mae distyllfa lai gan Benderyn yn Llandudno ben gogleddol Ffordd Cambria hefyd.

Hills Burgers, Aberhonddu

Mae pobl yn dod o filltiroedd i ffwrdd i flasu prydau mawreddog Hills Burgers ar gyrion Aberhonddu. Daw’r cig gan gynhyrchwyr lleol ac mae cymaint o ddewis nes ei bod hi’n anodd penderfynu beth i’w archebu. Mae dewis llysieuol hefyd.

Radnor Preserves, Y Drenewydd

Os cymerwch chi gam bach oddi ar Ffordd Cambria i’r Drenewydd, fe ddewch chi o hyd i Radnor Preserves. Awydd 'chydig o farmalêd mwg tân? Neu beth am gatwad mwyar duon a phupur du? Os ydych chi’n paratoi picnic, mae siytni cwrw Cymreig neu jam tshili yn mynd yn berffaith mewn brechdan!

Gwerth mynd allan o’ch ffordd: Yn Nistyllfa Dyfi i’r gorllewin o Ffordd Cambria ger Machynlleth, mae’r teulu Cameron yn creu eu gin anhygoel gan ddefnyddio’r cynhwysion botanegol mwyaf persawrus wedi eu casglu o lwyni yn ardal Dyfi. Gallwch chi weld sut maen nhw’n mynd ati, a gallwch chi flasu peth hefyd. Mae’n wirioneddol hyfryd.

Dyn yn ysgrifennu'r dyddiad distyllu ar botel o gin.
Llond llaw o aeron wedi'u fforio a dail.
Gŵr bonheddig yn hel aeron i wneud gin.

Cynaeafu cynhwysion botanegol a labelu’r gin yn nistyllfa Dyfi, ger Machynlleth

Brigand’s Inn, Mallwyd

Awydd stopio am bryd bwyd tafarn? Rhowch gynnig ar y Brigand’s Inn am fwyd blasus wedi ei baratoi gan ddefnyddio cynhwysion tymhorol lleol. Mae prydau ysgafn fel brechdanau a the prynhawn hefyd ar gael. Mae yma ystafelloedd hefyd, felly mae modd i chi aros dros nos a phrofi’r brecwast enwog sydd wedi ennill gwobrau.

Darllen mwy: Tafarndai hen a hynod

Cross Foxes Inn, Dolgellau

Tafarn leol arbennig arall yw’r Cross Foxes, ac fe ddewch chi o hyd i hon ger Dolgellau. Caiff prydau bwyd tafarn o safon eu gweini yma. Caiff llawer o’r prydau eu paratoi gan ddefnyddio cynhwysion lleol ac mae’r cyfan yn fwyd da sy’n cynhesu’r galon, yn cynnwys stêcs hyfryd a physgod anhygoel. Gallwch chi aros y noson yma hefyd.

Darllen mwy: Darganfod Dolgellau

Blas ar Fwyd, Llanrwst

Mae Blas ar Fwyd yn nhref farchnad gyfeillgar Llanrwst yn lle da am fwyd lleol a gwinoedd Cymreig. Ar frig y rhestr siopa mae biltong a phasteiod, pates a chawsiau enwog Cenarth – i gyd wedi eu creu yng Nghymru. Gallwch chi brynu gwirodydd anarferol yn ogystal â gwin – awydd blas o rym gwymon sbeislyd o Sir Benfro?

Bwyd Cymru Bodnant

Yn agos at erddi anhygoel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Modnant fe ddewch chi o hyd i Ganolfan Bwyd Cymru. Mae’r siop fferm yn gwerthu pob math o ddanteithion lleol, ac mae caffi gwych yno hefyd. Ond i’r rhai sydd o ddifri am eu bwyd, y dynfa yw dod yma ar gyfer y dosbarthiadau coginio. Mae rhai o’r dosbarthiadau diweddaraf yn cynnwys Blasau o Wlad Thai, Dosbarth Meistr ar Wneud Pasta a Dosbarth Pobi i Blant. Mae’n hanfodol eich bod yn bwcio ymlaen llaw gan fod y dosbarthiadau, yn amlwg, yn boblogaidd!

Dylan's, Llandudno

Mae yna sawl bwyty safonol yn Llandudno, ond mae Dylan's yn lle arbennig. Mae’r lleoliad mewn pafiliwn Art Deco wedi ei adnewyddu ar y promenâd ac mae’n hynod o atmosfferig. Mae’r bwyd yno yr un mor atyniadol – dim gormod o ffws a chynhwysion lleol, â digon o ddewis i gadw’r plant yn fodlon hefyd. Gan eich bod chi ger y môr, y dewis amlwg yw mynd am y bwyd môr ffres sydd ar gael.

Golygfa fewnol o fwyty gyda byrddau a chadeiriau a'r bar.

Tu mewn i fwyty hardd Dylans yn Llandudno

Straeon cysylltiedig