Cerdded yn ôl troed Glyndŵr 

Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (217km) o hyd yw Llwybr Glyndŵr sy’n mynd ar daith anuniongyrchol - ond hardd - rhwng y Trallwng a Thref-y-clawdd. Dyma dro hamddenol drwy rostir, tir amaethyddol, coedwigoedd a fforestydd ar draws Canolbarth Cymru. Gallwch gerdded o un pen i’r llall mewn naw niwrnod, neu daclo tameidiau byrrach ar y tro. Mae Owain Glyndŵr ei hun yn arwr cenedlaethol hyd heddiw, a byddwch yn siŵr o weld ei faner frenhinol goch a melyn yn cyhwfan ar bolion ledled y wlad. Ef oedd y Cymro brodorol olaf i fod yn Dywysog Cymru, a bu bron i’w wrthryfel yn y 1400au lwyddo, cyn iddo ddiflannu’n ddirgel. 

Exterior of Owain Glyndwr Centre.
Owain Glyndŵr Centre sign, with the Owain Glyndŵr flag waving in the background.

Canolfan Owain Glyndŵr

Ar ddwy olwyn, drwy'r mwd

Mae beicio mynydd yn beth mawr yng Nghymru - mae yma ddigon o fryniau a mynydoedd, wedi'r cyfan… Cewch ganllaw trylwyr yn Beicio Mynydd Cymru, sy'n cynnwys gwybodaeth am ein saith prif Ganolfan - sef cyfleusterau â adeiladwyd yn bwrpasol; Lleoliadau beicio mynydd - sef ardaloedd sy’n gyforiog o lwybrau wedi’u mapio; a Llwybrau - gwahanol deithiau i'w dilyn. Mae nifer o'r rhain yn sgrialu ar draws Ffordd Cambria, a chwarae teg i’r criw a ddyfeisiodd eu Llwybr Traws Cambria eu hunain oddi ar y ffordd fawr rhwng Tref-y-clawdd ac Aberdyfi.

Llun o ddau berson yn beicio mynydd yn y gwyll yng Ngheredigion.

Beicio mynydd drwy'r Canolbarth

Ar ddwy olwyn, ar yr heol

Eisiau her? Mae Lôn Las Cymru’n rhedeg fwy na 250 milltir (400km) ar hyd Cymru o Gaergybi i Gas-gwent neu Gaerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’r lôn yn dilyn ffyrdd bach tawel neu lwybrau seiclo, sy’n mynd â chi dros dri chasgliad o fynyddoedd a dau Barc Cenedlaethol. Gorau oll, mae’r Lôn Las yn cysylltu â phob un o’r llwybrau Sustrans eraill a geir yn ei rwydwaith 1,200 milltir (1,930km) yng Nghymru.

Ar hyd rheilffyrdd gwledig

Torrir yn dwt ar draws Ffordd Cambria gan y rhwydwaith reilffyrdd cenedlaethol - yn y pen, y canol a’r gwaelod. Ond Rheilffordd Calon Cymru sy'n mynd at… wel, galon Cymru, gan ymlwybro rhwng Llanelli ac Amwythig, a thorri llwybr drwy ddrysfa’r Canolbarth ir. Prin iawn yw tir gwastad yn yr ardal hon, felly rhaid dibynnu ar sawl traphont a thwnnel ar y ffordd. Caewyd y rhan fwyaf o’r is-reilffyrdd gwledig hyn yn y 1960au, ond llwyddodd hon i oroesi ac mae’n werth ei gwarchod.

Yn y cyfrwy, yng nghefn gwlad

Yn yr ucheldir, bu merlod a chobiau Cymreig yn rhan hanfodol o fywyd beunyddiol bob amser. Bydd rhai ffermwyr yn dal i ddefnyddio merlod i fynd i fannau sy’n ormod o her i’r beic pedair olwyn. Fe welwch chi ddigonedd o ganolfannau marchogaeth a merlota ar hyd Ffordd Cambria, sy’n cynnig popeth o deithiau hanner diwrnod i daith epig Llwybr Traws Cymru, taith wythnos o hyd o’r Mynyddoedd Duon i Fôr Iwerddon, ar draws Cymru gyfan.

Golygfa o Lyn Clywedog rhwng bryniau'r Canolbarth.

Llyn Clywedog ger Llanidloes, Powys

Straeon cysylltiedig