Allwch chi ddim â methu’r cestyll (yn llythrennol: maen nhw’n anferth). Ac ni ddylech chi fethu nifer o uchafbwyntiau diwylliannol a gwledig eraill chwaith. Dyma rai o’r prif bethau i’w gwneud ar hyd Ffordd y Gogledd wrth deithio o’r dwyrain i’r gorllewin.

Mynd i weld drama yn Theatr Clwyd

Wedi ei lleoli yn yr Wyddgrug, mae Theatr Clwyd yn ganolfan gelfyddydau ranbarthol effeithiol. Mewn canolfan fawreddog o frics o’r 1970au a gwydr, mae’n cynnwys dwy theatr, sinema a gofod stiwdio ac yn cynnig bob math o berfformiadau. Ceir ffilmiau, perfformiadau dawns, arddangosfeydd celf a cherddoriaeth fyw yma, ond y theatr yw’r prif atyniad. Mae’n gartref i un o brif gwmnïau drama Cymru sy’n llwyfannu cynyrchiadau drwy gydol y flwyddyn.

Cynhyrchiad llwyfan â llun agos o ddynes mewn gwisg o’r 1920au.

Perfformiad yn Theatr Clwyd

Dysgwch am gadwraeth yn Sŵ Fynydd Gymreig Bae Colwyn

Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn sefyll yn uchel uwch Bae Colwyn, â golygfeydd panoramig arbennig, gerddi hardd a digon o gyfle i weld rhai o rywogaethau mwyaf anarferol a than risg y byd. Ymlaciwch wrth ichi gael dod yn nes at fywyd gwyllt, gyda sioeau adar dyddiol, sesiynau bwydo anifeiliaid a sgyrsiau.

Anelu am dref Llandudno

Mae cyrchfan glan môr hyfryd Fictorianaidd Llandudno yn cynnig llawer i’w wneud a nifer o lefydd gwych i aros a bwyta hefyd. Crwydrwch ar hyd y pier hanesyddol, neidiwch ar y tram steil San Fran i fyny’r Gogarth, mwynhewch gelf modern yn Oriel MOSTYN neu brofwch beth o wisgi Cymreig yn Nistyllfa Penderyn. Os oes gennych chi amser, edrychwch beth sydd ymlaen yn Venue Cymru – mae’n un o’r theatrau gorau yng ngogledd Cymru ac yn cynnig perfformiadau gan Opera Cenedlaethol Cymru a llawer mwy.

Golygfa o lwyfan ar draws pennau cynulleidfa o bobl sy’n gwylio cyngerdd pop.
Person mewn cadair olwyn a ffrind yn edrych ar gelf mewn oriel

Venue Cymru ac Oriel Mostyn, Llandudno

Dringwch y tyrrau yng Nghastell Conwy

I’w weld filltiroedd i ffwrdd wrth ichi anelu am Gonwy, mae Castell Conwy o’r 13eg ganrif yn un o nifer o grefftweithiau pensaer Edward I, James o St George. Mae’r castell yn dal i dra-arglwyddiaethu dros y dref, sydd â chanddi furiau tref ymhlith y gorau yn Ewrop. Mae’r golygfeydd o ben y tyrrau dros yr aber heb eu hail. Mae gwerth ymweld â’r dref ei hun hefyd sydd â nifer o siopau a bwytai annibynnol.

Merch mewn côt oren llachar â’i chefn tuag at y camera yn edrych dros dyrrau castell

Castell Conwy, Conwy

Darganfod Tirwedd Llechi UNESCO

Rydych chi ar ymylon safle anhygoel treftadaeth byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yma. Mae sawl ffordd wahanol o grwydro, ond efallai mai’r ffordd orau yw ar droed. Gallwch chi gerdded rhan gyntaf Llwybr Llechi Eryri o Fangor i Fethesda i gael golygfeydd anhygoel o’r mynyddoedd ac o’r gwaith cloddio llechi sydd wedi ei gerfio i ochr y bryn. Mae Adran Un yn tua chwe milltir (10km) un ffordd a gallwch chi ddal bws yn ôl.

Darllen mwy: Chwe ardal Llechi Cymru

Llun o'r awyr o ardal chwareddyol Bethesda a Phenrhyn. Mae nifer o gaeau a choed gwyrdd rhwng ardal boblog o dai a thirwedd fynyddig y chwareli.

Chwarel Bethesda a Phenrhyn

Ewch yn agos at bontydd y Fenai

Mae’n amhosibl methu’r ddwy bont ysblennydd sy’n croesi Afon Menai – cafodd pont grog Thomas Telford ei chodi yn 1826, a daeth Pont Britannia a ddylunwyd gan Robert Stephenson yn 1840. Gallwch chi ddysgu mwy am hanes y Fenai yng nghanolfan Treftadaeth Menai, yna gael golwg nes â’ch llygaid eich hun drwy gerdded glan yr afon neu drefnu taith ar gwch RIB cyflym!

Pont Britannia o’r gwaelod, ar Afon Menai.
Llun o'r bont grog gyda choed a thai yn y cefndir a chwch ar Afon Menai

Pontydd crog Britannia a Menai, Ynys Môn

Castell Biwmares

Er mai dyma’r olaf o gaerau Edward I yn y gadwyn, mae hefyd y berffeithiaf yn dechnegol, ac iddi ddyluniad eithriadol o glyfar o ‘waliau o fewn waliau’. Ni orffennodd Edward erioed godi Castell Biwmares (cafodd ei sylw ei dynnu gan yr Albanwyr). Er hynny, mae UNESCO yn gosod Castell Biwmares yn un o’r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol yn Ewrop, ac ynghyd â chestyll eraill Edward yng Nghymru, mae’n rhan o Safle Treftadaeth Byd.

Darllen mwy: Dilynwch lwybr o gestyll mawreddog Gogledd Cymru

Llun o'r awyr o Gastell Biwmares
Pont fynedfa yn mynd i mewn i gastell.
Golygfa o’r awyr o furiau castell a’r môr tu draw.

Castell Biwmares, Ynys Môn

Plasty a Gerddi Plas Newydd

Tŷ a Gardd Plas Newydd ar lannau Afon Menai yw plas Marcwis Môn, ac yno mae’r casgliad mwyaf o waith yr arlunydd Rex Whistler, amgueddfa filwrol, a gardd wanwynol dlos. Arweiniodd y Marcwis cyntaf y marchoglu ym Mrwydr Waterloo, gan golli coes yn sgil taniad canon. Caiff ei goes bren ei harddangos yma (neu i fod yn fanwl gywir, ei goes ‘gerdded’; roedd ganddo goesau eraill ar gyfer marchogaeth a dawnsio!).

Country estate manor on the edge of the water
Plas Newydd mansion as seen from the water.

Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn

Gweld bywyd gwyllt anhygoel yn Ynys Lawd

Pan adeiladwyd Goleudy Ynys Lawd yn 1809, roedd yn rhaid i ymwelwyr groesi yno mewn basged wedi ei dal gan raff; heddiw mae pont gul o Ynys Gybi, y mae modd ei chyrraedd drwy ddilyn y 400 o risiau i lawr y clogwyni. Mae’n werth yr ymdrech: mae Gwarchodfa Natur Ynys Lawd yn gartref i filoedd o adar môr sy’n bridio gan gynnwys gwylogod, gweilch y penwaig a phalod, tra bo morloi, dolffiniaid a llamhidyddion i’w gweld yn aml yn y dyfroedd cyfagos.

Golygfa o'r goleudy ar y graig o'r dŵr

Goleudy Ynys Lawd, Ynys Môn

Straeon cysylltiedig