Mae pawb yn breuddwydio am gael dianc o brysurdeb bywyd, treulio amser yn yr awyr agored, mynd ar wyliau, mynd ar antur, mwynhau profiadau newydd. Gallwch ddod â’r freuddwyd ychydig yn nes trwy roi taleb i gael profiad unigryw yng Nghymru yn rhodd i ffrindiau neu deulu y Nadolig hwn.
Mae llawer o fusnesau twristiaeth a lletygarwch yn cynnig talebau hyblyg sy’n ddilys am gyfnod hir – gan roi digon o amser i gynllunio ar gyfer antur. Mae hyn hefyd yn darparu cefnogaeth allweddol i fusnesau, ac yn rhoi rhywbeth i edrych ymlaen ato i’ch cynnal dros fisoedd hir y gaeaf. Gellir prynu pob un ar-lein neu dros y ffôn o gysur eich cartref.
Rydym wedi darparu rhai syniadau am brofiadau yng Nghymru i’ch ysbrydoli wrth i chi wneud eich siopa Nadolig eleni. Cysylltwch â'r atyniad, gwesty neu fwyty yn uniongyrchol i archebu ymweliadau a thalebau.
Anturiaethau anhygoel
Rhowch brofiad anturus yn rhodd i rai sy’n mwynhau ychydig o gyffro! Mae Gogledd Cymru yn adnabyddus fel prif-ddinas antur Ewrop – teitl haeddiannol o ystyried yr ystod eang o weithgareddau llawn antur sydd ar gael, sy’n sicr o godi’r curiad calon. Rhowch gynnig ar y llinell sip hiraf yn Ewrop yn Zip World, neu daith ar gwch cyflym gyda RibRide, neu syrffio’r don yn Adventure Parc Snowdonia. Prynwch brofiad antur gwerth ei gofio yng Nghymru eleni.

I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!
Wedi llwyddiant ysgubol y rhaglen boblogaidd yn ei chartref newydd llynedd, mae’r enwogion yn dychwelyd am gyfres arall yng nghastell Gwrych ger Abergele eleni. Beth am gynnig cyfle i ddilynwyr brwd y rhaglen ail-fyw ychydig o’r hyn a gafodd ei brofi gan yr enwogion? Gallwch drefnu profiadau unigryw fel gwersylla ar ochr clogwyn gyda Gaia Adventures, dringo ac abseilio yn Eryri, neu arhosiad mewn castell (yn ymyl, sy’n gynnes a moethus) – Castell Bodelwyddan.

Gwyliau sba a lles
Ar ddiwedd blwyddyn, mae’n debyg y buasai’r rhan fwyaf ohonom yn elwa o ymlacio mewn sba mewn gwesty moethus. Gellir mwynhau rhai o olygfeydd gorau Prydain a thu hwnt o bwll nofio ar do gwesty St Brides, Saundersfoot, ac mae’r gwlâu dŵr yng ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd yn rhoi cyfle i westeion ymlacio yn llwyr. Mae golygfeydd syfrdanol o Fôn ac Eryri i’w gweld o Neuadd Bodysgallen ger Llandudno, ac mae’r ystafell therapi fwd yng ngwesty Llyn Efyrnwy yn y Canolbarth yn siŵr o helpu’r enaid.


Penwythnos mewn dinas
Mae gan Gymru sawl tref neu ddinas ddifyr i ymweld â nhw sy’n cynnig profiadau unigryw gan gynnwys cestyll mawreddog, amgueddfeydd cenedlaethol, siopau unigryw a llefydd bwyta bendigedig. Blaswch rai o drefi a dinasoedd Cymru dros y flwyddyn sydd i ddod.

Penwythnosau gwahanol
I'r rhai sy'n chwilio am anrheg ychydig yn wahanol eleni, beth am fynd am benwythnos i rywle unigryw? Iwrt? Tipi? Pentref Eidalaidd? Mae gan Gymru ddewis eang ac amrywiol. Mae’r pentref Eidalaidd byd-enwog Portmeirion wedi denu gwesteion byd-enwog, yn amrywio o H.G. Wells i’r Beatles, roedd y Frenhines Fictoria wedi ei syfrdanu gan Ynyshir – sydd bellach yn gartref i fwyty seren Michelin, ac mae sôn bod Neuadd Llangoed ysblennydd, a oedd unwaith yn eiddo i Syr Bernard Ashley, gŵr y dylunydd Laura Ashley, yn sefyll ar safle senedd gyntaf Cymru yn 560 OC.

Teithiau blasu gwin, gwirodydd, cwrw a seidr
Beth yw eich hoff ddiod? Gwin, cwrw, seidr, jin, wisgi? Beth am drefnu i fynd ar daith o amgylch un o winllannoedd, distyllfeydd neu fragdai Cymru fel anrheg i rywun arbennig eleni? Mae distyllfa wisgi Penderyn yn y Bannau Brycheiniog yn hynod boblogaidd, yn ogystal ag Aber Falls, ger Rhaeadr Fawr, Abergwyngregyn. Mae gwinllan hardd Llannerch yn cynnig cyfle i aros yn y gwesty moethus ar y safle, yn ogystal â theithiau blasu. Ewch y tu ôl i'r llen i ddarganfod sut mae cwrw Cymreig yn cael ei gynhyrchu, neu i fwynhau profiad blasu gwin, a'i gyfuno gyda phenwythnos o wyliau o bosib?


Teithiau beicio
Mae Cymru yn gartref i lwybrau beicio a beicio mynydd epig ac mae cyfleusterau gwych i feicwyr ledled y wlad. Ydych chi’n adnabod rhywun sydd am gael hobi newydd yn 2022? Mae BikePark Cymru ger Merthyr yn gartref i lwybr beicio mynydd ar gyfer dechreuwyr hiraf a mwyaf cyffrous Prydain, yn ogystal â llwybrau anoddach i feicwyr mwy profiadol. Yn y gogledd, mae Antur ’Stiniog yn rhoi profiad gwefreiddiol i feicwyr mynydd o bob safon. Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, Casnewydd yn un o’r unig bum felodrom dan do sydd ym Mhrydain, a gellir prynu Profiad Beicio Trac 3 awr fel anrheg i rywun sy’n awyddus i gael profiad o feicio dan do o'r radd flaenaf. Rhowch anrheg arbennig i unrhyw un sy’n mwynhau beicio – neu awydd trio rhywbeth newydd eleni.

Felly os ydych chi’n pendroni dros beth i roi yn anrheg eleni – ystyriwch roi profiad neu wyliau yng Nghymru. Buan y bydd rhywun yn anghofio am bâr o ’sanau, ond gall edrych ymlaen at fynd ar wyliau, neu at brofiad unigryw yng Nghymru fod yn hwb i rywun dros fisoedd tywyll y gaeaf, yn ogystal â bod yn gymorth allweddol i atyniadau, llety, lletygarwch a darparwyr gweithgareddau yma yng Nghymru.