Ar wyliau teuluol mae atgofion i'w trysori yn cael eu creu; ar hyd llwybrau arfordirol, ar dywod traethau tawel ac yn sgwrsio o amgylch tanau coed clyd. 

Mae Cymru yn wledd i'ch synhwyrau. 

Dechreuwch y diwrnod gan fynd am dro i’r coetir hynafol o amgylch Lawrenni a moryd Cleddau cyn mynd i Freshwater West ar gyfer profiad unigryw yn coginio bwyd arfordirol wedi’i fforio. Pan ddaw’r nos, edmygwch awyr dywyll anhygoel Cymru o gysur eich encil glampio clyd.

Cysylltu â natur yng nghoedwig hynafol Sir Benfro

Dechreuwch eich antur yn crwydro ardaloedd gwyllt Sir Benfro. Mae Coedwigoedd tawel Cleddau yn eistedd wrth ochr morfa heli eang a chilfachau llanw, gan wneud hon yn ardal amrywiol ond heddychlon i'w harchwilio. Edrychwch yn fanwl ac fe welwch fod llawer o bethau annisgwyl i'w darganfod ymhlith y dail, o adar hirgoes ac adar hela i'r coed derw hynafol a chadarn.

Dyn a bachgen yn fforio, gyda'r bachgen yn blasu deilen.
Dyn a bachgen ifanc yn fforio ar lan afon gyda basged lalwn dail.

Fforio ar lannau'r Afon Cleddau

Ar ystâd Little Retreat sydd hefyd yn gartref i'r Big Retreat Festival, mae Garry Thomas yn helpu teuluoedd i greu cysylltiadau dwfn newydd â'r byd naturiol wrth iddynt ddysgu cyfrinachau'r planhigion a'r blodau unigryw sy'n byw wrth ochr glannau moryd Cleddau.

Dysgwch fwy am Lawrenni a dyfrffordd gudd Sir Benfro, Afon Cleddau a moryd Daugleddau.

Crwydrwch lannau Afon Cleddau

Efallai fod Sir Benfro'n enwog am ei thraethau, ond mae gan lannau moryd Cleddau eu hatyniad unigryw eu hunain, sy'n gyforiog o hanes a thraddodiadau. Yma ymhlith yr adar yn trydar a’r dyfrffyrdd cudd fe welwch Gastell Caeriw, rhyfeddod pensaernïol ynddo'i hun sydd hefyd yn eistedd wrth ochr yr unig felin lanw sydd wedi’i hadfer yng Nghymru. Yma gallwch weld y peiriannau gwreiddiol yn ogystal â mwynhau arddangosfeydd wedi’u creu i deuluoedd sy'n archwilio sut mae dŵr wedi cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell gynaliadwy o ynni drwy'r oesoedd.

Mae’n eithaf posibl mai Cymru yw prif wlad cestyll y byd, ac felly mae digon o gestyll gwych i'w gweld ledled Cymru.

Dyn a bachgen yn edrych yn edrych ar gastell Caeriw ger aber Cleddau.
Tri oedolyn a phlentyn yn cerdded trwy gae yn edrych dros y Cleddau

Castell Caeriw, a chrwydro caeau Lawrenni yn edrych dros y Cleddau

Antur egnïol ar draeth yn y prynhawn

Prin yw'r golygfeydd sy'n gallu curo harddwch garw arfordir Cymru. Diolch i Harry Potter, mae Freshwater West wedi dod yn un o draethau mwyaf poblogaidd Cymru. Ond os dewch chi i ymweld ar brynhawn gaeafol ffres, fe welwch mai dyma'r lleoliad perffaith i fynd am dro iachusol arfordirol gyda darnau helaeth o dywod i chi eich hun.

Yma byddwch yn cwrdd â fforwyr arfordirol arbenigol, fel Matt Powell, a adawodd gegin â sêr Michelin i sefydlu ei gegin ei hun yn Sir Benfro sy’n cynnig gweithgaredd fforio a phrofiad bwyta cain. Dyma'r lleoliad perffaith i ddysgu sut i gasglu cregyn bylchog, cocos, a llyrlys y gellir ei fwyta o blith y cildraethau a'r pyllau creigiau. Yn well fyth, gallwch orffen drwy fwynhau cinio arfordirol ffres ar y traeth.

Rhieni gyda bachgen ifanc yn fforio gydag arbenigwr. Mae'r arbenigwr yn dangos gwymon i'r bachgen.
Dyn yn dal basged mewn un llaw a gwymon yn y llall, yn sefyll yn y môr.
Bwyd môr wedi'i ffrio gan gynnwys cimwch yn cael ei goginio ar bbq.

Chwilota am fwyd môr gydag arweinydd fforio ar draeth Freshwater West, Sir Benfro

Er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau, ewch gydag arweinydd arbenigol a fydd yn gwybod yn union beth i fforio neu beidio.

Profi’r awyr dywyll i ddod â'r diwrnod i ben

Mae awyr dywyll Cymru'n dod yn fyw yn yr hydref a'r gaeaf, a gan mai Cymru yw un o gyrchfannau awyr dywyll gorau'r DU, lle gwell i deuluoedd fwynhau cwtsh gyda'i gilydd o amgylch y tân gan ryfeddu ar y sêr?

Ledled Cymru fe welwch lawer o leoedd anarferol i aros, gan gynnwys Dragon Fly Camping yn Llawrenni, lle gallwch edmygu'r sêr o gysur eich iwrt, eich caban neu'ch cwt bugail eich hun.

Tad a mad yn eistedd o amgylch y tan wrth i'r haul fachlud.
Tad a mab yn gwylio ser yn y nos. Mae Dad yn dal ffôn symudol i fyny i weld ap ser gyda'i fab yn edrych i fyny i'r awyr gyda than gwersyll a thelesgop yn y cefndir.

Syllu ar y sêr ar ddiwedd diwrnod anturus o grwydro

Os ydych chi awydd treulio noson neu ddwy o dan y sêr, edrychwch ar rai o ddewisiadau gwyliau glampio, darganfyddwch gyrchfannau awyr dywyll rhyfeddol Cymru neu ddarllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer tynnu lluniau awyr y nos.

Straeon cysylltiedig