Cwm Elan

Cawn gychwyn yng Nghwm Elan a'r mynyddoedd Cambria lle mae’r awyr yn arbennig o dywyll. Mae teimlad anghysbell iawn a gwyllt yma a byddwch yn teimlo’n un â natur.

Mae Cwm Elan yn cael ei gydnabod yn Barc Awyr Dywyll Ryngwladol ac mae gan Fynyddoedd Cambria lawer o safleoedd darganfod awyr dywyll â mynediad hawdd iddynt lle gallwch syllu ar y sêr. Mae chwech o’r safleoedd darganfod awyr tywyll hynny wedi'u cysylltu gan lwybr twristiaeth asteroid, sy'n creu antur wirioneddol wych.

Y Llwybr Llaethog yn ffurfio bwa yn awyr y nos dros Gwm Elan

Cwm Elan

Eryri

Eryri yw'r lle i fynd am dirwedd ddramatig o dan y sêr. 

Allwch chi ddim curo’r safle mynyddig epig sy'n ymestyn fyny fry neu'r olygfa o'r Llwybr Llaethog yn adlewyrchu yn y llynnoedd islaw.

Gall Eryri fod yn lle peryglus os nad oes gennych y sgiliau neu'r gallu angenrheidiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu ag un o'r tywyswyr mynydd lleol yno i'ch helpu. Ond wedi dweud hynny, mae yna fannau parcio o gwmpas lle gallwch hefyd fynd i fwynhau’r sêr.

Copaon mynyddoedd Eryri yn erbyn awyr dywyll gyda sêr a golau oren machlud haul ar y gorwel.

Awyr dywyll Eryri

Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn un o'r llefydd gorau yng Nghymru i weld Goleuni'r Gogledd dros fisoedd y gaeaf.

Ac efallai y byddwch hefyd yn ddigon ffodus i weld plancton bio-ymoleuol. Mae yna hefyd nifer o oleudai hardd ar Ynys Môn, a phan mae goleudy’n agos... mae'n debyg eich bod mewn lle tywyll. Cewch olygfa o Fôr Iwerddon heb lygredd golau, a chewch weld awyr rhyfeddol o dywyll.

Y golau'n tywynnu'n llachar o oleudy Ynys Lawd gyda'r machlud yn goleuo cymylau yn yr awyr dywyll.

Ynys Lawd, Ynys Môn

Bannau Brycheiniog

Mae Gwarchodfa Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog yn agos iawn at fy nghalon oherwydd dyma lle syrthiais mewn cariad ag awyr y nos a magu diddordeb mewn astroffotograffiaeth a seryddiaeth. Mae’r tirwedd mor amrywiol gyda mynyddoedd, bryniau a dyffrynnoedd, rhaeadrau, afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr. Mae yna rywbeth i bawb. 

Mae rhai lleoliadau sy’n hawdd eu cyrraedd yn cynnwys Llyn Syfaddan, Cronfa Ddŵr Wysg a Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Rwyf hyd yn oed wedi bod yn ddigon ffodus i weld Goleuni'r Gogledd o gyn belled i'r de a’r Bannau Brycheiniog.

Awyr dywyll yn llawn sêr uwchben tirwedd fynyddig Bannau Brycheiniog gyda golau'r haul yn machlud ar y gorwel.

Awyr dywyll Bannau Brycheiniog

Arfordir Gŵyr 

Mae gan Arfordir Gŵyr rai o'r traethau gorau yn y byd, ac mae clogwyni calchfaen llawn cymeriad yn eu hamgylchynu.

Mae'r olygfa tuag at Môr Hafren yn olygfa dilygredd golau ac mae'n un o'r llefydd gorau yng Nghymru i syllu i graidd ein galaeth, y Llwybr Llaethog.

Os ydych chi'n lwcus, mae'n lle da arall i weld y plancton bio-ymoleuol. Mae gweld y tonnau'n cael eu goleuo'n las trydanol yn un o'r pethau mwyaf hudolus y gallech ei brofi. 

A dyna ni, fy mhum lle gorau ar gyfer mwynhau’r awyr dywyll yng Nghymru - cymysgedd anhygoel o dirweddau amrywiol, rhanbarthau arfordirol a rhanbarthau mynyddig. Mae gennym bopeth yma yng Nghymru.

Y Llwybr Llaethog yn awyr y nos yn tynnu sylw at Fae'r Tri Chlogwyn, Gŵyr

Y Llwybr Llaethog dros Fae'r Tri Chlogwyn

Straeon cysylltiedig