I gychwyn...

Ble gallwch chi weld yr awyr dywyll ar ei orau?

Wel, rydych chi wedi'ch difetha am ddewis yma yng Nghymru - ewch allan ar noson hydrefol glir a mwynhewch brofiad hudolus.

Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi ar gyfer eich anturPeidiwch ag anghofio mynd â fflach lamp pen gyda chi i allu gweld ble rydych chi'n mynd a beth rydych chi'n ei wneud. Mae’n bwysig o ran diogelwch gan fydd angen dwy law rhydd arnoch. 

Os yw'r olygfa rydych chi'n ceisio tynnu llun ohono’n rhy dywyll, gallwch hefyd ddefnyddio fflach lamp pen i oleuo’r ardal gan obeithio rhoi mwy o fanylion ym mlaen y llun. 

Dyn â barf yn gwisgo fflachlamp pen sy'n goleuo ei wyneb.

Alyn Wallace yn Nghwm Elan

Ffotograffiaeth ffôn

Os hoffech chi geisio tynnu llun o’r sêr er nad oes gennych gamera, gallwch ddechrau gan ddefnyddio’ch ffôn.

Byddwch yn synnu ar yr hyn y gall ffôn ei wneud y dyddiau hyn. Mae llawer ohonynt yn dod gyda gosodiad nos, sy'n eich galluogi i dynnu llun amlygiad hir. Bydd eich ffôn yn casglu golau am 10, efallai 20 eiliad i helpu i greu delwedd fwy disglair pan fyddwch chi mewn ardal dywyll.

Mae'n helpu cael trybedd (tripod) ar gyfer eich ffôn neu gallwch ei orffwys yn rhywle fel ei fod yn berffaith lonydd trwy gydol yr amlygiad hir.

I gael mwy o tips astroffotograffiaeth ffôn, gallwch edrych ar fy sianel YouTube lle mae fideo am yr holl apiau defnyddiol y gallwch eu defnyddio.

Dyn yn dal trybedd camera i fyny gyda awyr machlud pinc a phorffor yn gefndir.

Alyn Wallace yn paratoi i dynnu lluniau yng Ngwm Elan 

Camerâu a lensys

Yn well byth, ar gyfer ffotograffwyr mwy profiadol, bydd camera â lens cyfnewidiol fel Destler neu gamera heb ddrych yn rhoi lluniau gwych i chi.

Golygfa ochr o ddyn yn yr awyr agored mewn golau isel yn edrych i lawr ar gefn camera.

Alyn Wallace yng Ngwm Elan

Rydych chi'n mynd i fod yn gwneud amlygiadau hir o 10, 15, 20, efallai 30 eiliad. Felly mae'n help i gael trybedd dda, gadarn i ddal eich camera yn llonydd.

Y lensys gorau yw'r rhai sy'n agor hyd at f2.8, sy'n golygu bod yr agoriad y tu mewn i'r lens yn llydan iawn fel bod llawer o olau yn pasio trwy'r lens i mewn i’r camera.

Rhywbeth arall mae'n rhaid i chi ystyried yw'r ISO. Disgwyliwch i fod yn saethu ar tua 1600, efallai 3200 ISO.

Byddwn yn argymell cychwyn gyda llun 10 i 15 eiliad, ar f2.8 ac ISO 1600. Byddwch yn synnu beth all y camera ei weld.

Am fwy o awgrymiadau ac ysbrydoliaeth ewch i sianel YouTube Alyn.

Straeon cysylltiedig