Mae sawl peth i’w gwneud ar hyd arfordir ac yng nghefn gwlad Cymru i unrhyw un sy'n chwilio am weithgareddau hygyrch, llawn antur.
Profiadau antur addasol llawn adrenalin
Gall ymwelwyr ag anghenion hygyrchedd fwynhau anturiaethau egni uchel yn Zip World. Mae’r cwmni’n cydnabod Cerdyn Mynediad Anabledd Nimbus ac yn cynnig profiadau â chymorth ar draws ei safleoedd yng Nghymru. Gellir addasu gweithgareddau megis rhafflinau a llwybrau coedwig i ddiwallu anghenion unigol. Mae’r cymorth ar gael yn cynnwys cofrestru â blaenoriaeth, cymorth gyda chiwio ac arweiniad gan staff hyfforddedig.
Mae toiledau hygyrch a mannau parcio i bobl anabl ar gael, a gall deiliaid cardiau cymwys ofyn am docynnau ar gyfer cydymaith hanfodol. Gall staff hefyd helpu i gynllunio’r llwybr mwyaf addas drwy bob safle, gan roi mwy o hyder i ymwelwyr fwynhau’r profiadau.
Zip World Chwarel Penrhyn a Zip World Tower yw’r safleoedd mwyaf hygyrch, gan fod y rhan fwyaf o’r tir yn gymharol wastad. Mae Zip World Llechwedd yn rhannol hygyrch uwchben y ddaear, ond oherwydd natur y tir yn Zip World Betws-y-Coed, nid yw pob antur yn hygyrch yno.
Os oes gennych ofynion meddygol neu anghenion mynediad penodol, ac i sicrhau bod staff yn gallu eich cefnogi’n briodol a’ch cynghori ar y gweithgareddau mwyaf addas, cysylltwch â thîm Zip World cyn archebu.
Hwylio hygyrch
Gall ymwelwyr sy’n treulio amser ar hyd Culfor Menai yng ngogledd Cymru ymuno â sesiynau chwaraeon dŵr cynhwysol gyda SEAS Sailability, a ddarperir mewn partneriaeth â Conway Centre ar Ynys Môn. Mae’r sesiynau’n cynnwys hwylio addasol, padlfyrddio sefyll i fyny a theithio mewn cychod pŵer.
Mae offer cefnogol, megis seddau hygyrch a Wheelyboats, yn helpu pobl anabl, teuluoedd a gofalwyr i fwynhau’r dŵr gyda’i gilydd mewn amgylchedd diogel, croesawgar a chefnogol.
Beicio a mwy...
Ceir cyfleoedd gwych ar gyfer beicio cynhwysol ym Mae Abertawe yng ngorllewin Cymru, gyda chefnogaeth BikeAbility Wales – elusen sydd wedi’i lleoli yng Nghlwb Rygbi Dunvant. Mae’r safle’n cynnig amgylchedd di-draffig diogel, ynghyd â mynediad at lwybrau cyfagos megis llwybr beicio Dyffryn Clydach. Gyda dewis eang o feiciau safonol ac arbenigol, gan gynnwys tryciau, tandemau ochr yn ochr, beiciau llaw a beiciau cludiant cadair olwyn, gall ymwelwyr roi cynnig ar gymaint o feiciau ag y dymunant mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae staff cyfeillgar wrth law i helpu ymwelwyr i ddewis yr offer mwyaf addas ac i fagu hyder, ac mae gwersi ar gael ar gyfer oedolion a phlant fel ei gilydd.
Mae beicio hygyrch hefyd ar gael ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alyn, Wrecsam, gyda Pedal Power Cycling 4 All – gwasanaeth llogi beiciau i bawb, waeth beth fo’u gallu. Mae’r fflyd yn cynnwys beiciau safonol ac arbenigol, megis tryciau, beiciau llaw, beiciau cadair olwyn a beiciau ochr yn ochr, i’w defnyddio ar y llwybrau beicio o amgylch y parc. Ceir hefyd lwybr beicio hawdd, di-draffig o amgylch y parc, gan alluogi ymwelwyr i fwynhau manteision beicio mewn amgylchedd diogel a saff. Mae beiciau safonol a beiciau plant ar gael i’w llogi hefyd.
Ym Mharc Gwledig Pen-bre ger Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, trwy’r cynllun Beicio i Bawb, gall ymwelwyr logi beiciau addasol yn y ganolfan sgïo a gweithgareddau er mwyn archwilio llwybrau beicio di-draffig y parc. Yn ogystal â llogi beiciau, mae yna hefyd staff ymroddedig wrth law i helpu beicwyr o bob gallu i fwynhau eu hamser.
‘Mae Cymru’n enwog am fod yn gyrchfan gwyliau gweithgareddau lle gallwch fwynhau’r awyr agored,’ meddai Zoe o Barc Gwledig Pen-bre. ‘Yr hyn rydym yn ei wneud yma yw sicrhau bod yr awyr agored yn rhywbeth all bawb ei fwynhau. Mae unrhyw un sydd eisiau ychydig o antur yn gallu cymryd rhan.’
Mae modd llogi beiciau addasol o lefydd eraill yng Nghymru hefyd:
Dim ond un elfen o’r anturiaethau hygyrch sydd ar gael ym Mharc Gwledig Pen-bre yw’r beicio. Gall ymwelwyr logi cadeiriau olwyn traeth hefyd i fentro ar dywod traeth Cefn Sidan neu wibio’n gyflym i lawr llethr sgïo sych y parc. Mae Ski 4 All Cymru yn cynnal sesiynau wythnosol ym Mhen-bre sy’n rhoi cyfle i bobl o bob gallu sy’n hoff chwaraeon eithafol i fwynhau rhywfaint o weithgareddau lawr-allt.
Gydag offer a hyfforddiant sy’n addas ar gyfer sgïwyr sydd ag ystod eang o anghenion, mae Ski 4 All Cymru’n troi sgïo, sy’n gallu codi ofn ar rywun, yn rhywbeth hwyl sy’n agored i bawb. ‘Roedden ni eisiau i’r llethrau fod mor hygyrch â phosib, ac rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau ein bod o safon uchel,’ meddai Bethan Drinkall o Ski 4 All Cymru. ‘Mae gennym rhai sgïwyr sydd ddim yn siarad, ond mae eu rhieni’n dweud eu bod yn dechrau cynhyrfu cyn gynted ag y maent yn cerdded trwy’r giatiau, ac maent yn gallu ymlacio a chysgu’n well ar ôl gadael y sesiwn. Mae cael bod tu allan yn yr awyr iach yn atgyfnerthol.’
Dim ond wedi crafu wyneb yr hyn sydd ar gael yma yng Nghymru ar gyfer ymwelwyr ag anghenion ychwanegol sy'n chwilio am antur ydyn ni mewn gwirionedd. Am fwy o wybodaeth am bethau hygyrch i’w gwneud ledled y wlad, dilynwch y dolenni isod.
- Atyniadau hygyrch De Cymru
- Atyniadau hygyrch Canolbarth Cymru
- Atyniadau hygyrch Gorllewin Cymru
- Atyniadau hygyrch Gogledd Cymru
Ble bynnag y byddwch yn dewis mynd, byddwch yn teimlo’n gartrefol ac yn dod o hyd i nifer helaeth o bethau i’w profi. ‘Mae Cymru’n agored iawn ac yn derbyn pobl sydd ag anghenion ychwanegol,’ meddai Ben Clifford o Surfability UK. ‘Mae llawer o weithgareddau anhygoel y gall bobl gymryd rhan ynddynt.’