I lawer ohonom ni Gymry, mae’r A470 yn rhan o fywyd. Boed ni’n byw un pen i’r wlad a’n teulu neu ein ffrindiau’r pen arall, yn teithio at ddibenion gwaith, neu’n crwydro i fwynhau gwyliau mewn ardal arall o Gymru; mae’r lôn hon yn llinell gyswllt hanfodol i ni gyd rhwng y gogledd a’r de.
Ces i gyfle i feicio ar hyd yr A470 o Gaernarfon yr holl ffordd i Gaerdydd flynyddoedd yn ôl gyda chriw o gydweithwyr i godi arian, a heb os mae’r ffordd yn dal atgofion gwahanol i mi ers hynny. Mae sawl tro ac allt yn sbarduno hanesion am yr hwyl a’r heriau a gawsom!
Ond dewch i ni fod yn onest; hawdd hefyd yw syrffedu arni. A ninnau’n ei hadnabod fel cefn ein llaw, neu’n teithio ar ei hyd yn amlach nac y dymunwn, digon dealladwy yw mynd i deimlo’n rhwystredig wrth lyncu’r milltiroedd. Ac eto, efallai bod modd rhoi gogwydd newydd ar yr hen lôn…
Yn ddau gan milltir namyn pedair milltir ar ddeg, mae’r ffordd hiraf yng Nghymru yn ymlwybro o Gaerdydd i fyny at dref Llandudno ar arfordir y gogledd. Yn naturiol felly, mae degau ar ddegau o leoliadau a llecynnau diddorol yn britho’r daith, ac os ydych chi’n euog o roi pen i lawr a cheisio cyrraedd terfyn y siwrne cyn gynted â phosib, efallai ei bod yn amser ail ystyried, cymryd hoe ar y ffordd, a darganfod ambell i hoff le newydd ar hyd y lôn.
Cofiwch bod modd teithio mewn bws neu drên hefyd wrth gwrs – mae’r holl wybodaeth angenrheidiol i drefnu eich taith ar gael ar wefan Traveline Cymru. Ac os ydych chi’n teithio mewn car trydan gallwch ddod o hyd i nifer o bwyntiau gwefru ar hyd y ffordd. Ond heb fod angen beic, tocyn bws, dafn o betrol na’r un wefr o drydan, dewch gyda mi ar hyd yr A470.
O'r Bae i'r Bannau
Efallai bod awydd paned arnoch chi cyn cychwyn: â’r ffordd yn dechrau’r swyddogol ym Mae Caerdydd, beth am fachu coffi o safon a thamaid melys o’r Quantum Coffee Roasters ar Stryd Bute? Rŵan, a’n boliau’n llawn a gyda Chaerdydd tu cefn i ni, trown ein trwynau tua’r gogledd.
Os oes gennych chi bobl bach yn eich criw, mae’n bosib iawn y byddwch angen stop yn gynt na’r disgwyl! Gwta ddeunaw milltir allan o Gaerdydd, dilynwch y troad oddi ar y lôn cyn cyrraedd Merthyr ac fe ddewch i Barc Coetir Gethin, cartref Bikepark Cymru. Dyma le gwych i gael tro bach yng nghanol byd natur, mynd i’r lle chwech, mynd am baned i’r caffi, neu hyd yn oed roi cynnig ar feicio mynydd! Fe ffilmiwyd un o benodau Doctor Who yma, ar y safle sydd dros 850 hectar.



Yn ôl ar y lôn, ac os yw eich bol yn dechrau swnian beth am stopio am damaid yn Hills, Aberhonddu, ychydig funudau oddi ar yr A470? Dyma fwyty sy’n cael ei redeg gan deulu ifanc, a byrgrys sy’n llenwi’r fwydlen. Mae mynediad i gadeiriau olwyn, bwydlen i blant, opsiynau llysieuol a figan a chroeso i gŵn hefyd, felly mae’r bwyty annibynnol hwn yn saff o blesio pawb. Mae’n le poblogaidd felly archebwch eich bwrdd ar y ffordd yno i osgoi cael eich siomi!
Mae galw mewn gorsaf betrol yn Llanfair-ym-Muallt yn draddodiad oes i lawer un sy’n teithio ar hyd yr A470 yn gyson, ond wir mae gan y dref farchnad hon lawer mwy i’w gynnig. Y tro nesaf y byddwch yn pasio heibio, beth am alw mewn yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Wyeside ar lannau’r afon Gwy? Yma, yn y sefydliad nid-er-elw sydd wrth galon y dref mae sinema a theatr, oriel gelf, man cyfarfod a bar. Gyda rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau mae digon i’w wneud yno, ac os byddwch yn digwydd pasio ar ddydd Gwener rhwng 9 a 2 cofiwch alw mewn i’r farchnad cynnyrch lleol.



Y Canolbarth
Yn ein blaenau, ac wrth lithro rhwng afonydd Gwy ac Ithon, fe ddowch i bentref Pontnewydd-ar-Wy. Yma mae’r llew yn aros amdanoch – tafarn y Golden Lion. Gyda chroeso cynnes bob amser (i bobl a chŵn), mae prydau bwyd blasus ar y fwydlen bob nos Wener a nos Sadwrn, yn ogystal â chinio Sul tangamp. I’r rhai ohonoch sy’n dilyn chwaraeon, mae Sky Sports ac TNT Sport yma hefyd!
Lawr y ffordd wedyn mae Rhaeadr Gwy yn le gwych i oedi os oes unrhyw un angen mynd i’r tŷ bach, neu’n ysu am sglodion – does dim lle gwell na Evans Plaice! Ond am brofiad arbennig, beth am ymweld â Fferm Gigrin? Mewn ymdrech i warchod Barcudiaid Cochion, dechreuodd y ffermwr yma eu bwydo gydol y gaeaf. Gydag anogaeth a chefnogaeth yr RSPB trodd yr arferiad yn fusnes, a bellach mae Barcudiaid Cochion yn cael eu bwydo yma yn eu cannoedd yn ddyddiol. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw, a chofiwch edrych ar y wefan i weld faint o’r gloch mae’r sesiynau bwydo. Mae’n brofiad a hanner gwylio’r adar gosgeiddig yn plymio o’r awyr am eu bwyd! Mae caffi a siop ar y safle hefyd.
Sôn am lefydd i dorri syched… ewch yn eich blaenau eto ac fe ddewch at bentref Llanidloes, cartref cwmni y seidr Cymreig, Welsh Mountain Cider. Cwpwl o’r enw Chava a Bill sy’n gyfrifol am y fenter hon. Ers pedair blynedd ar ddeg mae’r ddau wedi ehangu a datblygu perllannau niferus, a pherffeithio’r grefft o wneud seidr naturiol. Galwch yno i gael taith o amgylch y berllan a blas o’r diod euraidd.
Os mai cynnyrch cartref sy’n mynd â’ch bryd mae’n bosib eich bod wedi paratoi picnic i’w fwyta ar eich taith. Ac os felly, rydych chi’n haeddu golygfa tra’n bwyta! Wrth droi oddi ar yr A470 ger Llanidloes, a dilyn yr B4518 am Lanbrynmair, fe ddewch at Lyn Clywedog. Parciwch y car a dewch i eistedd wrth un o’r byrddau picnic er mwyn mwynhau eich cinio a golygfeydd mawreddog ar draws canolbarth Cymru. Codwyd yr argae enfawr yn y 60au, ac mae dau lwybr cerdded wedi eu marcio ger llaw. Mae’r ardal bellach yn gyfoeth o adar felly cofiwch bacio eich 'sbienddrych!



Crefftau a chadeiriau
Os nad ydych chi wedi gwyro oddi ar y ffordd i weld Llyn Clywedog ac wedi aros ar yr A470, cyn hir fe ddewch chi at bentref Caersws. Ar y chwith, jest cyn i chi groesi cledrau’r trên, mae Celf Canol Cymru – Canolfan Gelfyddydau ar gyfer canolbarth Cymru. Dyma leoliad creadigol, llawn awyrgylch sy’n cynnwys orielau celf niferus, llwybr cerfluniau, gwely a brecwast yn ogystal â chaffi. Lleoliad perffaith i gael hoe ar ganol siwrne i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y celfyddydau.
A chithau bellach dros hanner ffordd, beth am stopio i brynu cynnyrch i greu pryd ar ôl cyrraedd pen eich taith? Ar ôl bod trwy bentref Comins Coch, bydd yr A470 yn eich harwain tua’r gogledd ar hyd ffordd Cemaes, ble mae Tŷ Cemaes yn aros amdanoch. Yn fwyty ac yn siop, mae’n werth galw mewn am damaid i’w fwyta neu i lenwi basged â chynnyrch amrywiol. O ffrwythau i gawsiau, siocled a llysiau, mae digon yma i dynnu dŵr o ddannedd.
Os oes rhai o’r teithwyr yn ysu am gael dod allan o’r cerbyd erbyn hyn, mae digon o ddewis i ddod. Mae’r Penrhos Arms ar y lôn yn cynnig prydau blasus o gynnyrch lleol a thymhorol. Ar agor rhwng dydd Mercher a dydd Sul, mae bwydlen i blant, croeso i gŵn, a chinio rhost ar gael rhwng 12 a 2 bob dydd Sul. Ar gyrion Dolgellau wedyn mae’r Cross Foxes ar agor bob diwrnod ac yn cynnig bwyd a diod o safon, yn ogystal â stafelloedd i aros.
Ar ôl llenwi’ch bol, beth am dreulio awr neu ddwy mewn lleoliad arwyddocaol llawn hanes? Oddi ar yr A470 yn Nhrawsfynydd mae Yr Ysgwrn yn swatio. Dyma gartref Hedd Wyn, y bardd a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymunwch â thaith dywys, dilynwch un o’r llwybrau o amgylch y ffridd, cyn ymweld â’r amgueddfa ryngweithiol a’r caffi. Nid oes angen archebu lle, ac mae’r ymweliad yn saff o wneud argraff.



Gorffen y daith mewn steil
A chithau bellach â thrwch y wlad tu cefn i chi, mae toreth eto o lefydd a lleoliadau sy’n werth ymweld â nhw. Wrth i’r Moelwynion eich croesawu i Flaenau Ffestiniog, beth am bicio allan i weld murluniau lliwgar yr arlunydd Lleucu Gwenllian sy’n adrodd hanes a chwedlau’r ardal mewn lliw a llun? Os oes amser piciwch mewn i siop lyfrau’r Hen Bost hefyd; mae trysorau’n aros amdanoch lond y silffoedd. Yn eich blaen wedyn heibio Betws-y-Coed ac fe ddewch i bentref bach Trefriw. Dyma gartref Melin Wlân Trefriw, sydd ar agor gydol yr wythnos ac eithrio dydd Sul. Mae’n werth galw yma i gael gweld yr olwyn ddŵr, y sied wehyddu a’r fframiau gwau traddodiadol, cyn pori trwy’r nwyddau cartref chwaethus sydd lond y siop.


Os ydych chi wedi cychwyn ben bore, a bod digon o’r dydd ar ôl, beth am ymweld â Gardd Bodnant ger Conwy? Dyma ardd fyd enwog, sy’n gartref i ardd hanesyddol restredig, gardd goed, gardd Fictorianaidd ac ardal chwarae naturiol i’r plant. Lle gwych i unrhyw un sy’n mwynhau bod allan ym myd natur, ac i losgi tipyn ar egni’r plant cyn clwydo!
A dyna ni wedi teithio pob cam ar hyd yr A470 o Gaerdydd i Landudno. Mae’n dra thebygol eich bod yn barod am egwyl, felly i orffen y daith mewn steil, be well na nôl pitsa mawr poeth o fwyty Johnny Doughs yn Llandudno, a mynd i ben y Gogarth i’w fwynhau wrth wylio’r dydd yn dirwyn i ben.

