Y Gogarth

Ac yntau dros 200 metr uwch lefel y môr, mae’r Gogarth yn dirnod arfordirol arbennig. Gelwir y penrhyn calchfaen yn Saesneg yn The Great Orme, sy’n golygu bwystfil y môr, ac mae’n safle hynafiaethol sydd wedi ei ddiogelu gyda statws fel gwarchodfa natur. Cerddwch ar daith dywys i’r copa, anelwch at y brig ar y Dramffordd, chwiliwch am anifeiliaid (allwch chi ddim methu’r geifr!) neu ehangwch eich gwybodaeth yn y ganolfan ymwelwyr.

Golygfa o Landudno o'r Gogarth
Golygfa o Landudno o'r Gogarth
Golygfa ar hyd Pier Llandudno yn edrych allan i'r môr.

Tramffordd y Gogarth, golygfa o'r Gogarth, a Phier Llandudno

Traeth Pen Morfa

Mae ehangder garw tywodlyd Traeth Pen Morfa yn llawer tawelach na Thraeth y Gogledd yn Llandudno, a gyda hynny daw cyfleoedd gwych i syrffio barcud, padlfyrddio wrth sefyll a phadlo mewn dŵr bas. Mae’n wynebu Bae Conwy ac Eryri ac mae Castell Conwy gerllaw. Dewch â phicnic gyda chi a mwynhewch y llonyddwch.

Oriel MOSTYN

Gellir dadlau mai Oriel MOSTYN yw’r oriel harddaf ym Mhrydain, wedi ei lleoli mewn adeilad cain gyda ffasâd terracotta o 1901. Mae’n cynnal arddangosfeydd celf gyfoes trwy gydol y flwyddyn, o arddangosfeydd gan artistiaid enwog i weithiau gan artistiaid newydd sy’n prysur ennill enw da.

Llethr Sgïo Llandudno

Ar gyfer y rheiny sy’n hoff o gyflymu curiad y galon a’r rhai sy’n ysu i symud, mae llethr sgïo sych Canolfan Chwaraeon Eira Llandudno yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bwmpio’r adrenalin, gan gynnwys sgïo, eirafyrddio, tobogan a thiwbiau eira.

Ogof yr Eliffant

Mae dros 40 o ogofâu o amgylch Llandudno, nifer ohonynt yn fach neu wedi eu llenwi â dŵr. Yr enwocaf yw Ogof yr Eliffant, i’r gorllewin o Erddi hardd Haulfre. Os ydych chi’n ddringwr profiadol, mae nifer o lwybrau y gallwch eu dringo er mwyn cael blas ar ryfeddodau’r penrhyn.

Camera Obscura

Wedi ei adeiladu ym 1859, mae Camera Obscura Llandudno yn dal i fod yn dipyn o ryfeddod. Fe saif ar frig y Fach ar y Gogarth, man delfrydol sy’n eich galluogi i weld golygfa banoramig 360°. Ar ddiwrnodau clir, gallwch weld yr holl ffordd draw i Fôn ac i Fae Lerpwl.

Castell Conwy

Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, cafodd Castell Conwy ei adeiladu ar gyfer Edward I ar ddiwedd y 13eg ganrif. Tua 700 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n dal i ryfeddu. Ewch ar daith dywys er mwyn cael y darlun cyflawn, lle cewch sylwi ar gorneli a chilfachau hawdd eu methu a chlywed chwedlau am hanesion Canoloesol sydd wedi eu cloi rhwng y waliau.

Llun o Gastell Conwy a'r môr
Llun o'r awyr o'r bont ger y castell
Golygfa o'r bont yn edrych tuag at y castell

Castell Conwy.

Y Sw Fynydd Gymreig

Cewch weld morloi, mwncïod, teigrod, eirth, adar hardd a chreaduriaid egsotig yn y Sw Fynydd Gymreig. Dyma ganolfan gadwraeth ag arddangosfeydd newidiol a rhaglen o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn. Byddwch yn ofalus o’r pengwiniaid a’r hebogiaid; pan maen nhw’n dod allan i chwarae, maen nhw’n gallu bod yn gyfeillgar iawn!

Gwarchodfa Natur Bryn Euryn

Dringwch i frig y warchodfa natur hon sy’n sefyll ar fryn o galchfaen er mwyn gweld golygfa banoramig o’r ardal sy’n ei hamgylchynu, gan edrych dros Llandrillo-yn-Rhos. Mae rhwydwaith o lwybrau cerdded ym Mryn Euryn sy'n troelli drwy goetir ac ar draws bryniau gwelltog, gan arwain at olion Llys Euryn – tŷ hanesyddol o’r 15fed ganrif a bryngaer o’r 6ed ganrif

Pier Llandudno

Croeswch ar draws prif draeth Llandudno ac anelu am y pier Fictoraidd clasurol. Yno fe gewch ddewis o nwyddau Cymreig traddodiadol, stondinau Punch a Judy, arcêd ceiniogau a siopau hen ffasiwn. Cafodd y tirnod hwn ei adeiladu’n wreiddiol ym 1876, ac mae’n dal i fod yn lle braf i fwynhau hufen iâ tra’n gwylio’r byd yn mynd heibio ar yr arfordir.

Venue Cymru

O ffilmiau blocbuster a bandiau mawr i theatr gyfoes a chomedi, mae Venue Cymru yn glamp o adeilad modern yn Llandudno. Mae cynyrchiadau mawr sy’n teithio yn tueddu i alw heibio yma, fel ag y mae Opera Cenedlaethol Cymru. Mae golygfeydd dramatig o’r môr hefyd i’w gweld o’r bwyty sydd ar y safle.

Gwarchofda Natur RSPB Conwy

Ble arall allwch chi weld cornchwiglod a chywion gwyddau yn erbyn cefndir o fynyddoedd Eryri a chastell Canoloesol Conwy? Mae RSPB Conwy yn ganolfan gwlyptir 47 erw sy’n gartref i rywogaethau prin o ffawna a phlanhigion, a thirlun gwyllt. Mae toiledau, caffi a siop yn y ganolfan ymwelwyr lle mae hefyd modd llogi sbienddrych.

Golygfa o Landudno o'r pier

Pier Llandudno

Straeon cysylltiedig