Yn swatio’n glyd ym mryniau Cwm Prysor, mae fferm fynydd Yr Ysgwrn. Unwaith yn gartref annwyl, ac erbyn hyn yn un o’r cartrefi enwocaf yng Nghymru, profodd deulu'r Ysgwrn loes erchyll yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan laddwyd mab hynaf y teulu, Ellis.

Ellis Humphrey Evans oedd enw bedydd y Prifardd Hedd Wyn, a ddaeth i enwogrwydd cenedlaethol a rhyngwladol pan enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1917, prin bum wythnos wedi’i farwolaeth ar faes Brwydr Passchendaele, Fflandrys. Ar foment y cyhoeddiad ei fod wedi ennill y gadair, daeth Hedd Wyn yn symbol cenedlaethol i’r Cymry o golled cenhedlaeth gyfan yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Arwydd leched gydag 'Yr Ysgwrn cartref Hedd Wyn' wedi ei ysgrifennu arno.

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

'Cadw'r drws yn agored'

Mae miloedd o bererinion yn cyrchu tua’r Ysgwrn bob blwyddyn, i dalu teyrnged i Hedd Wyn ac ymgolli yn ei gynefin. Am ddegawdau, estynnwyd croeso cynnes i’r pererinion hyn gan rieni, brodyr a neiaint Hedd Wyn. “Cadw’r drws yn agored” oedd y genhadaeth ac yn 2012, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn i berchennog newydd Yr Ysgwrn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ers marwolaeth Hedd Wyn, ychydig iawn a newidiodd yn Yr Ysgwrn. Mae’r gegin yn adrodd hanes y teulu a fu’n byw yn Yr Ysgwrn er 1830 – cloc taid a brynwyd ar achlysur priodas rhieni Hedd Wyn; offer llaethdy sy’n cyfleu ffordd o fyw hunangynhaliol; haenau trwchus o bapur wal lliwgar sy’n gwarchod trysorau straeon y teulu; a chadeiriau barddol a gadwyd yn ofalus, yn destament i falchder teulu yng nghampau gwych y mab a’r brawd a laddwyd. Drwy brosiect helaeth i warchod a datblygu’r Ysgwrn, gwarchodwyd y cyfan mewn modd sensitif, sy’n cydbwyso’r ddyletswydd i warchod y dreftadaeth fregus a’r angen i uwchraddio cyfleusterau er mwyn creu profiad ymwelwyr o safon rhyngwladol. Enillodd y gwaith cadwraethol o safon uchel hwn gyfres o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Gwobr Dreftadaeth Ewropeaidd Europa Nostra.

Cadair bren eisteddfodol. Mae drws gwyrdd yn lled agored i ddangos y gadair mewn ystafell.
Arddangosfa lluniau o deulu Hedd Wyn mewn neuadd wal gerrig yn Yr Ysgwrn.

Y gadair ddu ac un o arddangosfeydd Yr Ysgwrn 

Gwaddol o obaith, cariad a chyrraedd uchelgais ydi gwaddol Hedd Wyn ac mae profi’r wefr hon am y tro cyntaf yn un bythgofiadwy."

Croeso cynnes

Heddiw, mae’r Ysgwrn yn ganolfan ddiwylliannol fywiog a lliwgar. Mae’r ffermdy rhestredig gradd II* wedi’i diogelu, a’r beudai cyfagos bellach wedi eu hatgyweirio yn ofodau clyd i groesawu ymwelwyr. Mae’r cyfan yn hygyrch i bawb, gan gynnwys yr adeiladau hanesyddol, teithiau ffermdy, llwybrau fferm, arddangosfeydd, siop goffi a siop yr amgueddfa. Gweinir coffi da wedi’i rostio’n lleol, cynnyrch wedi’i bobi a danteithion sawrus gan gynhyrchwyr lleol, a’r cyfan ar gael i'w fwynhau tra'n edrych ar olygfeydd ysblennydd o gopaon Eryri a bryniau Cwm Prysor.

Bwrdd a chadeiriau pren gyda meinciau pren o'i amgylch. Mae clustogau carthen Gymreig liwgar ar y meinciau.
Arwyddion du gydag ysgrifen wen mewn siop goffi. Mae coffi a the ar y fwydlen 'Beudy Llwyd' ac ar y bwrdd arall mae rhestr brisiau tocynnau i ymweld â'r Ysgwrn.

Siop goffi Yr Ysgwrn

Cewch yma le i enaid gael llonydd, ond digonedd hefyd i ddeffro’r synhwyrau ac ysgogi’r meddwl: o waith celf a gosodiadau dehongli a ysbrydolwyd gan stori ac amgylchedd Yr Ysgwrn, i raglen weithgareddau a digwyddiadau apelgar. Mae teithiau cerdded, nosweithiau cerddorol, arddangosfeydd, sgyrsiau, ysgol goedwig, clwb garddio a phob math o gyfleoedd eraill ar gael yn y lleoliad hudolus hwn fu'n ddylanwad aruthrol ar y bardd.

Chwiliwch am Yr Ysgwrn arlein a bydd sawl adolygiad a neges yn cyfeirio at y croeso gwych, gwybodaeth gyfoethog a ffordd agos-atoch y staff a’r gwirfoddolwyr. Mi fydd pawb yn falch iawn o gael rhannu eu stori am eu cysylltiad â’r Ysgwrn efo chi. Mae’r Ysgwrn yn dod yn rhan o fod pawb sy’n ymwneud â’r lle, ac mae’r profiad o ymweld yn un teimladwy.

Gwaddol o obaith, cariad a chyrraedd uchelgais ydi gwaddol Hedd Wyn, ac mae profi’r wefr hon am y tro cyntaf yn un bythgofiadwy. Dewch yn ôl i ymdrochi yn awyrgylch unigryw Yr Ysgwrn, i gael profi’r croeso cynnes a mwynhau gwahanol agweddau o fwynderau’r safle dro ar ôl tro.

Tair dreser bren gyda nwyddau mewn siop. Mae fframiau lluniau, clustogau a chanhwyllau ar werth. Ger y dreser mae sil yn llawn llyfrau. Mae wal gerrig yn gefn i'r siop.

Siop Yr Ysgwrn

Ymweld â'r Ysgwrn

Mae’r Ysgwrn ar agor i’r cyhoedd o’r Pasg tan ddiwedd hanner tymor yr Hydref, a thros y gaeaf i grwpiau drwy drefniant ymlaen llaw. Gweler y wefan ar gyfer amseroedd agor. Ceir cynigion arbennig ar gyfer ymweliadau grŵp.

Ystafell mewn beudy cerrig gyda ffilm yn cael ei ddangos ar y wal. Mae cadeiriau pres gyda blancedi lliwgar drostynt.

Yr Ysgwrn

Straeon cysylltiedig