Goleuni'r Gaeaf, Caerdydd

25 Tachwedd 2022 - 11 Chwefror 2023.  Mae Goleuni'r Gaeaf yn osodiad celf am ddim yng Ngardd Sant Ioan yng nghanol Caerdydd. Ar agor bob dydd rhwng 8yb a 9yh, gwahoddir teuluoedd i ymgolli yn y goleuni ymatebol a'r seinwedd – sy'n cynnwys fersiwn o'r gân werin Gymraeg Ar Lan y Môr, a recordiwyd gan Gôr Sant Ioan. Mae'n cael ei fwynhau orau wrth iddi nosi ac ar ôl iddi dywyllu. 

Arddangosfa His Dark Materials - Creu Bydoedd yng Nghymru, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

01 Rhagfyr 2022 - 30 April 2023. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, mewn partneriaeth â Bad Wolf, yn cynnal arddangosfa hir-ddisgwyliedig His Dark Materials sy'n dathlu'r gyfres eiconig a sut cafodd byd Philip Pullman ei ail-greu yng Nghymru. Mae'r arddangosfa am ddim ac yn cynnwys gwisgoedd a phropiau allweddol o bob un o'r tri thymor. Mae yna hefyd luniau celf ac effeithiau gweledol cysyniadol.

Gŵyl Gomedi y Mynydd Du, Powys

03 - 04 Chwefror 2023. Cynhelir Gŵyl Gomedi y Mynydd Du, yng Nghrughywel. Mwynhewch chwerthin gyda Kiri Pritchard McClean, Gary Delaney, Ross Smith, Celya Ab, Chris Kent, Priya Hall ac eraill.

Rygbi Chwe Gwlad Guinness, Caerdydd

04 a 25 Chwefror 2023. Mae gemau cartref Chwe Gwlad Guinness yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality yng nghanol Caerdydd. Mae'r gystadleuaeth flynyddol rygbi undeb yn cael ei herio gan dimau cenedlaethol Cymru, Lloegr, yr Alban, Ffrainc, Iwerddon a'r Eidal.

Torfeydd rygbi yng Nghaerdydd ger Stadiwm Principality.

Rygbi Chwe Gwlad, Stadiwm Principality, Caerdydd

Penwythnos Pren a Chrefftau yr Ardd Fotaneg Genedlaethol - Sir Gaerfyrddin

4 & 5 Chwefror. Mwynhewch benwythnos o arddangosfeydd, arddangosiadau a stondinau gan bobl sy'n troi coed, cerfwyr, pyrograffeg, celf gwydr, crefftau a ffotograffiaeth yn Nhŷ Gwydr Mawr eiconig yr Ardd Fotaneg.

Dydd Miwsig Cymru

10 Chwefror 2023. Dathlwch gerddoriaeth Cymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru. Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, edrychwch ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Ymunwch â'r sgwrs hefyd gan ddefnyddio'r hashnodau #DyddMiwsigCymru#Miwsig.

Digwyddiadau Sant Ffolant Cadw, Caerdydd a Chaerffili

11 Chwefror 2023.  Mae Sant Ffolant Fictoraidd iawn yn digwydd yng Nghastell Coch. Dysgwch am iaith gyfrinachol y blodau, clywed cerddoriaeth Fictoraidd a stori gariad. Gallwch hefyd wneud cerdyn San Ffolant eich hun.

12 Chwefror 2023. Mwynhewch daith gydag arweinydd o amgylch Castell Caerffili a mwynhewch sgyrsiau am Sant Ffolant. Mae yma hefyd weithgareddau crefft a chyfle i wneud cardiau.

Dydd Sant Ffolant

14 Chwefror. Mwynhewch brofiad rhamantus, penwythnos i ffwrdd neu pryd o fwyd o safon mewn bwyty. Fel arall, cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau ar gyfer dathlu Dydd San Ffolant o'ch cegin eich hun.

Gŵyl Gerdd Bangor, Gwynedd

17 a 18 Chwefror 2023. Cerddoriaeth newydd a phrofiadau newydd!  Mwynhewch gerddoriaeth cyfoes yng Ngogledd Cymru yng Ngŵyl Gerdd Bangor.

Gwyliau Hanner Tymor

20 - 24 Chwefror 2023. Dyma rai awgrymiadau am weithgareddau hanner tymor mis Chwefror yng Nghymru. 

Dydd Gŵyl Dewi - Digwyddiadau Cadw, Caerffili a Chaerdydd

25 Chwefror 2023.  Cyn Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth y 1af, ewch i fwynhau taith dan arweiniad ceidwad o amgylch Castell Caerffili a sgyrsiau am Dewi Sant. Mae yna hefyd weithgareddau crefft a gwneud cardiau. Neu dathlwch ein diwrnod cenedlaethol yng Nghastell Coch, gyda hanes Dewi Sant a cherddoriaeth werin Gymreig fyw. Mae digon i ddiddanu aelodau iau o'r teulu, gyda phaentio wynebau, digwyddiadau crefft a thaflen gwest.

Straeon cysylltiedig