Dwylo i fyny’r rheiny sy’n edrych ’mlaen i sawru’r gorau o Gymru dros fisoedd yr haf eleni? Allai’m aros i ddechrau cynllunio gweld ffrindiau unwaith eto, gan rannu golygfeydd godidog  - neu fachu diwrnod i ffwrdd i fynd i grwydro ar fy liwt fy hun. Fy niléit mawr wrth fapio gwibdaith yw dethol y llefydd gorau i fwyta, ac fel awdur teithlyfrau bwyd mae gen i atgofion blasus ledled Cymru.

Cyn Covid, ni allwn ddychmygu yrru trwy Harlech heb oedi am hufen iâ o Hufenfa’r Castell, cyn galw am granc yn Lobster Pot y Bermo, a sawru Negroni a golygfa o Gader Idris ym Mwyty Mawddach. Yna pan ar gyrion Abertawe, Joe’s neu Verdi’s fyddai’n fy nenu, cyn dilyn fy nhrwyn ar hyd lonydd Penrhyn Gŵyr i’m harwain at Beach House Oxwich. Ac os feddylia i am fae Ceredigion, wel, cyrchfannau bwyd yw cerrig milltir fy atgofion... o sgod a ’sglods The Shed Porthgain a llymaid yn Harbourmaster Aberaeron, i foctel o Dylan’s Cricieth, glasied o Viognier ym Mhortmeirion, a bynsen eisin o Fecws Islyn Aberdaron!

Cwch bysgota a thŷ bach gwyn ym Mhorthgain
Platiad o bysgodyn a sglodion
Byrddau gyda chadachau bwrdd wedi'u gwirio coch a gwyn, nenfwd gwyn gyda thrawstiau pren

The Shed, Porthgain

Ond wyddoch chi beth sydd wir yn fy nghyffroi i eleni - o bosib am y tro cyntaf ers yn blentyn? Y syniad o deithio Cymru a chreu atgofion unigryw dros bicnic yn yr awyr iach. Diolch i’r dewis o olygfeydd, a’r myrdd o gynnyrch bwyd Cymreig, ry’ ni’n siŵr o gael amser da boed law neu hindda. Dychmygwch y fath benrhyddid wedi sawl cyfnod clo! Cewch gynllunio gwledd o flaen llaw wrth wario ar y we, neu brynu tameidiau o siopau a delis ar hap ar hyd eich teithiau. A ph’run ai ydych chi’n nes at Kate Roberts a’i ‘the yn y grug’ nag anuriaethwraig mynydd Everest Jan Morris, dwi’n addo i chi, mae 'na bicnic i siwtio pob personoliaeth. Felly estynnwch fasged, cot law, esgidiau cerdded, bwced a rhaw, a siwt nofio (jest rhag ofn!) am ddiwrnod i’r brenin.

Lluniaeth a llawenydd Llŷn

Pe bawn i am gychwyn ar bererindod o bicnicau Cymreig, fe ddechreuwn yng ngrug ac eithin Uwchmynydd. O’r fan honno ar Benrhyn Llŷn, sawrwn yr olyfa at Ynys Enlli dros fflasg o de neu goffi Dwyfor, a brechdan fara – neu deisen frau siap cragen, fel y pererinion gynt – o Fecws Islyn. Rhwng traeth Nefyn a’r Eifl, bachwn gwrw IPA Porth Neigwl neu Frenin Enlli gan Gwrw Llŷn. Ac ar y Maes ym Mhwllheli, byddai’n rhaid galw yn siop Pysgod Llŷn am baté macrell ffres wedi’i fygu, neu wystrys a chimwch i swper a photel o siop Gwin Llŷn drws nesa.

Goreuon Gwynedd

Ymlaen tuag at Eifionydd, a hufen iâ Cadwalader’s i’w sglaffio ar draeth Cricieth, cyn prynu sawsiau a chatwadau siop bwyty Dylan’s, a’u picalili penigamp. Byddai’r fasged yn llawn sgons wedi’u taenu a chynnyrch Welsh Lady, y Ffôr, ac anghofier mai yn Chwilog y mae Hufenfa De Arfon, a chawsiau godidog Dragon. Fy newis i fyddai’r cheddar a aeddfedir yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd – perffaith gyda brechdan a ‘llonydd gorffenedig’ y Lôn Goed.

Yna ar ymweliad â Dyffryn Nantlle, byddai’n rhaid galw yng ngwinllan a pherllan Pant Du. Byddai’r Sudd Afal Pefriog a’r Seidr Riwbob yn siwr o blesio tra’n sawru’r olygfa o’r Wyddfa o Lyn Nantlle. Ac nac anghofier Bragdy Lleu, ym Mhenygroes, am ddiodydd i dorri syched ar draeth Dinas Dinlle. Mae Bragdy Lleu yn cynnig detholiad sy’n deyrnged i gymeriadau’r Mabinogi – gymera i gwrw euraidd Blodeuwedd, diolch yn fawr!

Melysion Môn

Wrth groesi Pont Menai i Ynys Môn, anelwn yn syth am Frynsiencyn, i bigo mefus a phrynu hufen o siop fferm Hooton’s a photel o jin mefus a grawn pupur Distyllfa Llanfairpwllgwyngyll. Yna, yn nes at lannau’r Fenai, byddai’n rhaid galw yn siop Halen Môn, gan oedi i edmygu tirlun trawiadol Eryri. Yn fy masged? Mwstard mêl myglyd, sôs coch Mari Waedlyd, a phaced o greision Halen Môn gan Jones o Gymru, cyn bwrw ’mlaen ar fy nhaith i gyfeiriad pentre Niwbwrch, am dro – a ‘nof’ nefolaidd – ar Ynys Llanddwyn. Neu os am bicnic yr un mor hyfryd ar Ynys Môn, awn ar fy union i Felin Llynon; patisserie ysblennydd y cogydd Richard Holt, sy’n cynnig profiad go arbennig ‘cake-away’.

Siop Halen Môn yn gwerthu cynnyrch amrywiol
Halen Môn - Cynnyrch halen ar y traeth

Halen Môn

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Yn ôl i’r tir mawr a phrif gyrchfan pob bolgi yn Nyffryn Clwyd yw delicatessen Blas ar Fwyd. Fe welwch chi’r cynnyrch ar werth ar-lein ac mewn siopau ledled Cymru erbyn hyn, ond talwch wrogaeth i’r sylfaenydd Deiniol ap Dafydd i drefnu picnic eich breuddwydion yn Llanrwst! Gallech archebu hamperi picnic parod, neu ddethol o ddanteithion y delicatessen eich hun; fy mlaenoriaethau i fyddai potyn côlslô, salad tatws a chennin syfi, a photyn o dreiffl... neu dri! Cofiwch hefyd i fachu iogwrt Llaeth y Llan a chacenau cwmni Siwgwr a Sbeis. Mae cigydd Edward’s yng Nghonwy yn gweini byrgers a rholiau selsig – a syniadau lu am bartion barbeciw di-ri. Yna, ym mhen pella’r A55 ym Mhenarlâg, ystyriwch alw yn siop fferm ystad Hawarden. Wedi ymweliad y llynedd, dychwelwn i’r farchnad hon ar unwaith, am gacen sinsir Jacky’s o’r Bala am chwa o egni tra’n crwydro Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Yn y Bala ei hun, cyn oedi am bicnig ger Llyn Tegid, mae siop Stori Beers yn gweini dewis da o gwrw di-alcohol o Gymru. Yn eu plith mae cwrw golau Yuzu gan Drop Bear Beer o Abertawe, a Clwb Tropicana gan Tiny Rebel o Gasnewydd.

Y Canolbarth

Dros y Berwyn i Sir Drefaldwyn, ystyriwch fyrbryd gwahanol tra’n crwydro ar hyd camlas Trefaldwyn; ‘Jerky’ cig eidion gan Trailhead Fine Foods o Dal-y Bont – hynod flasus gyda photel o gwrw blodeuog Sunshine Monty’s. Tua’r gorllewin, yn nes at Gaersws, mae Radnor Preserves yn llawn haeddu pob gwobr am gatwadau gyda’r gorau yng Nghymru. Profwch y catwad blas seidr a chennin gyda’ch brechdan gaws neu ham... neu farmaled ‘Smoky Campfire’ i danio’r awen.

Medd a mwy…

Tua’r de, i Geredigion, a ble mae dechrau am gynigion? Ceir lleoliadau di-ri am bicnic o fri, o Ynyslas i Gors Caron ac Aberaeron. Beth am gosyn o gaws Hafod, Perl Wen o Genarth, a Halloumi neu flas danadl poethion Caws Teifi? A throwch at glasur picnicaidd i dorri eich syched - Cwrw Sinsir Llanllyr Source ger Llanbedr Pont Steffan. Ac am lymaid hafaidd a chynhenid, ystyriwch Medd Afon Mêl ger Ceinewydd i’w osod yn eich basged. Neu beth am botel o fedd ysgafn (5.5% ABV) blas ceirios a rhiwbob gan gwmni Shire Mead o Benrhyncoch? Mae’r picnics gorau yn cyfuno’r hen a’r newydd!

Sir Benfro i Bannau Brycheiniog

Wedi concro Carn Ingli tra’n crwydro’r Preseli, cadwch becyn o ‘Biltong’ cig eidion Sir Benfro wrth law gan gwmni From our Farm yn Arberth. Golchwch y cyfan i lawr ger Pentre Ifan neu Draeth Mawr gyda chwrw ysgawen Bluestone o Gilgwyn. Yna, ymlaen i Sir Gaerfyrddin – i draeth Cefn Sidan neu Gastell Carreg Cennen – a blaenoriaethwch siop Danteithion Wrights, p’run ai’n prynu ar-lein neu yn Llanarthne. Yno ceir dewis da o gynnych Sir Gâr, o fêl Gwenyn Gruffudd a Jin Talog, ac o’r fan honno, croeswch y Mynydd Du i Fannau Brycheiniog.

 

Tu fewn i siop Wright's Food Emporium

Wright's Food Emporium

P’run ai ger Llyn y Fan Fach neu Pen y Fan, carwn blatiad o gig Trealy Farm ar gracyrs Cradocs! Yna’n nes at Grughywel neu’r Blorens yn Sir Fynwy, sawrwn win Ancre Hill adeg machlud haul, neu botel o seidr Apple Country. Erbyn iddi nosi, cynigwn lwnc destun dros wisgi Penderyn, a blas o siocledi’r Mallow Tailor. Byddwn hefyd wedi cofio dod â sach gysgu gyda mi i gael sawru’r holl sêr yn y nen. Dyfarnwyd statws rhynglwadol Gwarchofda Awyr Dywyll i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – felly rhaid ystyried yn ofalus pa ddiod poeth i’ch cynnal a’ch cynhesu ar hyd y nos. Beth am Siocled Poeth Pendragon Drinks neu Crwst, Aberteifi?

Yna ar doriad gwawr, cymerwn anadl fawr, cyn paratoi paned o goffi. O Coaltown i Poblado a Heartland i Welsh Coffee Co. mae’r dewis Cymreig yn ddigon i’ch ysbrydoli. Yr unig benderfyniad mawr fydd troi am adref neu barhau â’r antur. Dwi’n gwybod beth fyddai fy newis i - a hwnnw’n un go flasus!

Cofiwch ddilyn Lowri ar Instagram am fwy o wybodaeth ac ysbrydoliaeth am gwmnïau bwyd a diod o Gymru.

Straeon cysylltiedig