Bwyd môr y Gogledd

Licence to Grill, Porth Dafarch, Bae Trearddur 

Ger traeth cysgodol Porth Dafarch ar Ynys Môn, mae lori Licence to Grill yn gweini bwyd môr dafliad carreg o’r tywod. Mae’r dewisiadau yn newid o ddydd i ddydd, ond gallwch ddisgwyl gweld cimwch, cranc a chregyn gleision, gan amlaf gyda thomen o fenyn garlleg.

Dyma un o hoff lefydd bwyd môr yr ysgrifennwr bwyd Llio Angharad. Ei chyngor yw mynd yno’n llwglyd, archebu amrywiaeth o fwyd môr i’w rannu, a’i fwyta ar y traeth.

Conwy Mussels, Conwy Quay

Mae gan Conwy Mussels, sydd wedi ei leoli ar Gei Conwy o flaen y castell, gysylltiad agos â’r aber ble caiff y cregyn gleision statws gwarchodedig eu casglu’n gynaliadwy gyda chribau pren traddodiadol. Gallwch ddisgwyl wystrys, cranc wedi’i baratoi, a physgod ffres. Mae Nicky Batchelor, crëwr cynnwys bwyd o Gaerdydd, yn ei argymell fel rhywle i brynu bwyd môr ffres yn agos i’r ffynhonnell.

Bryn Williams ym Mhorth Eirias

Ym Mhorth Eirias ar lannau Bae Colwyn, mae Bryn Williams yn cynnig bwydlen dymhorol sy’n cynnwys pei pysgod, corgimychiaid, caws pob â chranc a physgodyn y dydd. Mae’r bwyty’n manteisio ar leoliad ger y traeth gyda ffenestri mawr o’r nenfwd i’r llawr.

Y tu mewn i fwyty sy'n mwynhau golygfeydd godidog dros y môr.

Bryn Williams yn Porth Eirias, Bae Colwyn 

The Potted Lobster, Abersoch

Mae The Potted Lobster ym Mhen Llŷn yn arbenigo mewn pysgod a physgod cregyn, gan gynnwys prydau cimwch enwog. Gerllaw, mae Nwdl yn cyfuno cynhwysion Cymreig â blasau Asiaidd gyda bwyd môr mewn bwydlen wedi ei greu i rannu. Hefyd yn lleol mae Bwyty Gwesty Porth Tocyn, sydd wedi ennill sawl gwobr am weini bwyd môr uwchben Bae Ceredigion.

Dylan’s, Porthaethwy

Mae cynnyrch lleol wrth galon bwydlenni Dylan's, sy’n edrych dros Afon Menai, gyda bwyd môr, cig a phrydau llysieuol yn eu plith.

Tri aelod o staff yn gwisgo ffedogau du Dylan’s Restaurant yn sefyll mewn cegin fasnachol, gydag offer dur di-staen, silffoedd a goleuadau crog yn y cefndir.
Pasta bwyd môr gyda chregyn gleision, corgimychiaid a phupur coch, wedi'i weini mewn powlen wen ar fwrdd pren, gyda chyllyll a ffyrc a gwydraid o ddŵr wrth ei ochr.

Dylan's Porthaethwy, Ynys Môn 

Yr Iard Café, Trefor, Gwynedd

Ar Lwybr Arfordir Llŷn, mae Yr Iard yn gwerthu rholiau cimwch drwy’r haf o hen gynhwysydd cludo. Yn rhan o Bert’s Kitchen, mae’n syml ac yn canolbwyntio ar bysgod cregyn lleol. Lle perffaith i orffwys wrth ddilyn yr arfordir.

Catch 22, Y Fali, Ynys Môn

Mae bwyty teuluol Catch 22 yn y Fali, Ynys Môn, yn adnabyddus am ei ymrwymiad i gynhyrchwyr lleol. Mae ei blatiad bwyd môr i ddau yn ddewis poblogaidd ac yn cynnwys cranc, wystrys a physgodyn wedi ei fygu ynghyd â chynhwysion lleol fel Halen Môn, Menai Oysters a Llefrith Cybi. Y nod yw dathlu blasau lleol Môn.

Bwyd môr Canolbarth Cymru

Gwen, Machynlleth

Mae Gwen ym Machynlleth yn cynnig profiad Cymreig personol o’i ystafell fwyta fach. Mae’r fwydlen flasu yn blaenoriaethu cynhwysion tymhorol a’n cynnwys pysgod, pysgod cregyn a phrydau wedi’u dylanwadu gan flasau dramor. Mae byrddau yn gyfunedig felly mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw. Dyma un o hoff brydau bwyd môr yr ysgrifennwr bwyd Nicky Batchelor eleni.

Harbourmaster, Aberaeron

Mae adeiladau lliwgar harbwr Aberaeron yn gartref i sawl lle bwyta, gan gynnwys Harbourmaster, ble mae’r fwydlen yn cynnwys cynnyrch o’r arfordir a chefn gwlad gyfagos. Mae’n le perffaith i gael cinio cyn crwydro’r dref.

Bwyd môr y Gorllewin

The Stone Crab, Saundersfoot

Ger harbwr Saundersfoot, mae The Stone Crab yn arbenigo mewn pysgod a physgod cregyn lleol mewn bwyty hamddenol. Mae’r fwydlen yn ddibynnol ar argaeledd, felly disgwyliwch weld cranc, cimwch, cregyn gleision a physgodyn y dydd.

The Ferry Inn, Llandudoch

Wedi ei leoli ar lannau’r afon, mae’r dafarn a bwyty hwn yn cynnig pysgod a physgod cregyn lleol ar ei fwydlen yn aml. Mae basgedi bwyd môr, pasta pysgod cregyn a draenog y môr ymhlith y ffefrynnau. Lle perffaith am damaid i’w fwyta ar ôl crwydro’r pentref, Traeth Poppit neu’r llwybr arfordir.

Gower Seafood Hut, Y Mwmbwls

On the Mumbles promenade, Gower Seafood Hut serves seafood from a horsebox, with dishes including chilli prawns, plaice goujons, whitebait, calamari, cockles and dressed crab. It’s seafood served outdoors, with Swansea Bay beside you.

The Shed, Marina Abertawe

Mae The Shed ym Marina Abertawe yn gweini bwyd môr ffres â chynnyrch Cymreig tymhorol. Mae’r prif gogydd Jonathan Woolway yn newid y fwydlen er mwyn adlewyrchu cynnyrch y dydd o Benrhyn Gŵyr a Gorllewin Cymru. Mae wystrys a physgod wedi’u serio mewn padell yn ymddangos yn aml.

Mae’r crëwr cynnwys Cassie Robson yn hoff o’i “croquettes cocos llawn nostalgia a digonedd o finegr” a’r dewis o bysgod wedi’u dal yn lleol. Mae hi’n dweud bod ei leoliad ger y dŵr ac adeilad syml yn rhoi naws arbennig heb fod yn rhy ffurfiol.

Bwyd môr De Cymru

The Old Custom House, Penarth

Mae The Old Custom House ar Farina Penarth yn gartref i ddau fwyty sef La Marina, sydd â physgod ffres wrth galon ei fwydlen, ac El Puerto, sy’n cynnig prydau â dylanwad Sbaenaidd. Mae gan y ddau ddewis eang o fwyd môr ynghyd a chownter pysgod ffres yn llawn dewisiadau’r dydd.

Teras bwyty awyr agored deniadol gyda byrddau a chadeiriau wrth ymyl adeilad carreg hanesyddol llawn cymeriad.
Pysgod a bwyd môr ffres ar wely o rew wrth stondin farchnad, gyda labeli prisiau'n arddangos cynnyrch y dydd.

The Custom House, Penarth, De Cymru.

Rock & Scallop, Abertawe a Marchnad Casnewydd

Mae busnes teuluol Rock & Scallop yn gweini bwyd môr ffres o ddyfroedd Cymru a Chernyw gyda phwyslais ar gynnyrch ffres ansawdd uchel. Mae’n adnabyddus am ei blatiau bwyd môr enfawr, sydd fel arfer yn cynnwys cranc heglog, cregyn bylchog a chorgimychiaid mewn menyn garlleg.

Archwilio mwy o fwyd arfordirol

Am ragor o syniadau, ewch i’n canllaw o fwytai arfordirol Cymru.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig