Conwy
Mae bwyty'r cogydd adnabyddus Bryn Williams, Porth Eirias ar y traeth i bob pwrpas, gyda ffenestri gwydr o’r llawr i’r nenfwd sy’n gwneud yn fawr o olygfeydd panoramig dros Fae Colwyn. Bydd yn rhaid i chi dynnu eich llygad oddi ar y tonnau godidog i lafoerio dros y fwydlen, sy’n rhoi pwyslais ar bopeth lleol, fel pysgod a bwyd môr newydd eu dal, ynghyd â ffrwythau a llysiau a dyfir yng ngardd y gegin. Gellir yfed cwrw o fragdy lleol Pen y Gogarth, ynghyd â dewis o goctels i dynnu dŵr o’r dannedd. Gallwch archebu ‘te prynhawn ar lan y môr’ hefyd.
Ymhellach i’r tir, ychydig y tu allan i Landudno, mae Neuadd Bodysgallen yn cynnig profiad plasty gwledig gwirioneddol gain. Wedi’i hamgylchynu gan erddi hardd a golygfeydd tawel, dyma le i ymlacio mewn moethusrwydd cynnil, tra’n mwynhau bwyd cain eithriadol sy’n rhoi blas arbennig ar arhosiad yng ngogledd Cymru. Mae Conwy hefyd yn hafan i gariadon bwyd, gyda lleoedd fel The Jackdaw, sydd wedi’i gynnwys yng Nghanllaw Michelin ac sy’n enwog am ei bwydlen flasu Gymreig.
Abermaw
Wedi’i anrhydeddu â 3 Roset AA ac enw yn y Canllaw Michelin, mae bwyta yn The Fanny Talbot yn brofiad sy’n cyfuno cainwaith â naturioldeb.
O dan arweiniad y prif gogydd Owen Vaughan, caiff prydau tymhorol sy’n canolbwyntio ar gynhwysion eu creu gyda chreadigrwydd a manylder, tra bo’r awyrgylch yn aros yn groesawgar ac yn hamddenol.
Yma, daw rhagoriaeth heb ffugio na ffwdan — gan eich galluogi i fwynhau bwyd o safon wobrwyedig mewn lleoliad anffurfiol ond cofiadwy yng nghalon Bermo.
Aberdyfi a Tywyn
Mae Seabreeze yn Aberdyfi yn cynnig gwledd o gynnyrch lleol tymhorol, gyda’u bwydlenni’n newid drwy’r flwyddyn i adlewyrchu’r hyn sydd ar gael ar y pryd.
Mae Proper Gander yn bwyty teuluol yn Nhywyn, lle gallwch fwynhau dysglau Cymreig ffres a bwyd môr mewn awyrgylch hamddenol sy’n croesawu cŵn. Ac mi allwch chi ddim mynd i Aberdyfi neu Dywyn heb gael hufen iâ blasus o'r Pink Cow.
Bwytai Dylan’s, Cricieth, Porthaethwy, Llandudno a Bermo
Pe baech chi’n mynd ati i gerdded Llwybr Arfordir Cymru o gwmpas y gogledd, byddech chi’n pasio tair cangen ragorol o fwyty Dylan’s, un ym Mhen Llŷn yng Nghricieth, un ym Môn ym Mhorthaethwy, un ym lleoliad rhagorol yn Llandudno a’r gangen fwyaf diweddar yn Bermo. Mae’r bwydlenni yr un mor addas ar gyfer noswaith ramantus i ddau neu ginio cymdeithasol gyda’r teulu, a gweinir ystod eang o seigiau ‘o’r môr’ ynghyd â phitsa a byrgyrs blasus.
Peidiwch â cholli: Arbenigedd y lle, cregyn gleision gorau Menai, mor ffres a lleol ag y gallant fod, wedi’u tyfu’n lleol iawn. Gallwch eu bwyta yn arddull Ffrengig ‘Marinière’, neu yn y dull Cymreig, naill ai’n ‘feddw’ (wedi’u coginio mewn seidr) neu ‘ddraig’ (â phuprod coch a garlleg o Gymru).
Aberystwyth
Mae'r Glengower wedi’i leoli ar bromenâd Aberystwyth. Yn ogystal â bar poblogaidd, maen nhw’n gweini bwydlen flasus wedi’i pharatoi’n ffres saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys cinio Sul traddodiadol.
Mae’r lolfa far yn lle perffaith ar gyfer pob tymor; gyda’i ddodrefn cynnes a chyfforddus, mae’n fan delfrydol i fwynhau diod neu rhywbeth i fwyta. Dros fisoedd yr haf, mae’r Glengower ymhlith y mannau mwyaf poblogaidd yn Aberystwyth gan ei fod yn dal yr haul drwy’r prynhawn a’r noswaith. Y lle perffaith i wylio’r machlud dros y gorwel.
Ychydig fyny'r stryd o'r Royal Pier mae Ultracomida yn far tapas a deli a'i prif ffocws yw ar gawsiau a chigyddiaeth o Sbaen, Ffrainc a Chymru. Os ydech awydd fynd am dro ar hyd y promenâd, mae’r Hut yn lle rhaid galw yn enwog am ei pastries ffres, baninis a’i goffis blasus.
Sir Benfro
Yn Llanusyllt fe welwch Lan y Môr, bwyty sy’n dod â Hywel Griffith, y dyn y tu ôl i’r Beach House ser Michelin yn y Gŵyr, ynghyd â Gerwyn Jones, cyn Ghef Prifath y Grove o Arberth sy’n ennill gwobrau. Mae Lan y Môr mewn lleoliad arfordirol anhygoel ac yn cynnig bwydlen drawiadol, gyda physgod ffres yn chwarae’r brif ran. Fe’i canmolir yn eang fel un o’r llefydd gorau i fwyta yng Nghymru.
Am bysgod a bwyd môr sydd mor ffres ag y gall fod, ewch i’r Griffin Inn, mewn tafarn hanesyddol ag estyniad modern deniadol, sy’n edrych allan dros harbwr hen-ffasiwn o bert. Mae gan y bwyty nodwedd unigryw, sef ei bysgotwr ei hun, Mark. Bydd yn hwylio yn y ‘Griffin Girl’ bob dydd i ddal popeth o fecryll i leden, a weinir ar y fwydlen gyda thatws newydd Sir Benfro. Mae gan Mark dros 100 o botiau cimychiaid - a’r cwestiwn y bydd angen i chi ei holi fydd: hanner cimwch ynteu un cyfan?
Bae Oxwich
Agorodd y Prif Gogydd Hywel Griffith ddrysau’r The Beach House yn 2016, gan roi bywyd newydd i’r hen gwt glo hwn ar lannau Traeth Oxwich. Ers iddo agor, mae’r bwyty wedi dod yn gyrchfan bwyd da ar y Gŵyr. Mae ei waliau cerrig garw a’i ddodrefn hardd yn adlewyrchu ei leoliad glan mor eiconig gyda thwyni tywod anferth Oxwich, crib Cefn Bryn a Bae Three Cliffs yn y cefndir.
Mae bwyd Hywel yn arddangos blas llawn ein cynnyrch o ledled Cymru yma ar ein stepen drws ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae’r bwyty wedi ennill sawl gwobr am ansawdd y bwyd, gan gynnwys 3 Rosette AA, ac mae ganddo Seren Michelin ers 2020.
Penarth
Mae Hickmans, gastropub bywiog yng nghanol y dref, yn lle gwych i ymlacio a mwynhau bwyd a diod mewn awyrgylch croesawgar. Ar ôl cinio neu swper, ewch i’r teras to i fwynhau diod wrth edrych dros y dref.
Ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, mae The Touring Club gan Bryn Williams yn dathlu cynnyrch lleol gyda brecwastau a chinio blasus. Wrth i’r nos ddisgyn, mae’r teras yn lle perffaith i flasu platiau bach a choctels wedi’u crefftio’n ofalus.
Er ei bod yn dref lan môr gymharol fach, mae Penarth yn llawn lleoedd gwych i fwyta ac yfed. Ar ôl crwydro’r strydoedd ac anadlu awyr y môr ar y pier Fictoraidd godidog a’r pafiliwn Art Deco sydd wedi’i adfer yn llwyr, ewch i Bar 44 am brofiad tapas llawn blas ac awyrgylch.
Wrth ymyl Morglawdd trawiadol Bae Caerdydd mae The Custom House, sy’n gartref i ddau fwyty poblogaidd, La Marina ac El Puerto. Yma, mae’r fwydlen yn newid yn rheolaidd i adlewyrchu’r tymhorau, gan arddangos cynhwysion ffres o ffynonellau lleol mewn amrywiaeth o seigiau creadigol a blasus.