Dwn i ddim amdanoch chi, ond mae di dod yn arfer gen i i estyn am fy ffôn bob tro wela i gornel o Gymru ar sgrîn. Nid i decstio na ffonio i rannu nghynnwrf yn benodol, ond er mwyn gŵglo’r union leoliad, fel ditectif preifat! Yn ddiweddar fe’m sbardunwyd i i chwilota gan gynyrchiadau poblogaidd Men Up a Mr Bates vs The Post Office a ffilmiau fel Gwledd ac Y Sŵn, a ffilmiwyd mewn lleoliadau mor amrywiol â Nant Gwynant yn Eryri, Llanbister yn Sir Faesyfed a Chlwb Rygbi Senghennydd, Caerffili.
Mae ambell leoliad yn datblygu’n gymeriad ynddo’i hun, gan ddwyn drama deledu neu ffilm dan drwynau’r sêr mawr. Ac i nifer o bobol, mae gweld Cymru yn serennu yn ddigon i sbarduno gwibdaith neu wyliau haf. Efallai eich bod chi eisoes yn gyfarwydd ag enghreifftiau o rannau ‘cameo’ Cymru mewn hanes, fel yn achos cyfres The Prisoner (1966-68) ym Mhortmeirion, a ffilmiau The Vikings yng Nghaernarfon (1958) a The Inn of the Sixth Happiness ym Meddgelert (1958). Ond beth am gael cip ar enghreifftiau mwy cyfoes o Gymru’n serennu ar sgrîn?
Lleoliadau Ffilmio Gogledd Cymru
Yn ogystal â thre Porthaethwy yn Rownd a Rownd, ac ymddangosiad Ynys Llanddwyn yn House of the Dragon (i'w ryddhau eleni), mae sawl cyrchfan arall ar Ynys Môn wedi serennu mewn cynyrchiadau o bob math. Yn eu plith, Ynys Lawd yn y ffilm Bolan’s Shoes, Ynys y Castell yn nrama ditectif Craith (S4C/ BBC Cymru) a Phont y Borth yng nghomedi ffantasïol Dolittle, gyda Robert Downey Jr (2020). Dros y blynyddoedd hefyd gwelwyd Llŷn ac Eifionydd yn creu argraff arbennig mewn sawl ffilm Gymraeg; tre glan môr Cricieth oedd prif leoliad y ffilmiau Mela (2005) ac Omlet (2008), tra roedd Ynys Enlli yn un o leoliadau niferus Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (2000), ffilm gyntaf y cyfarwyddwr Euros Lyn.
Un o uchafbwyntiau trydedd gyfres The Crown ar wasanaeth ffrydio Netflix oedd yr olygfa o seremoni arwisgo Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Creodd y Cob ym Mhorthmadog argraff yng ngolygfa agoriadol Y Lleill gan Emyr Glyn Williams, am fand roc ym Mlaenau Ffestiniog. A sôn am ‘Blaena’, ychwanegodd dirlun y llechweddau at naws ormesol y ffilm arswyd Gwen (2018), tra aeth y duwiau Groegaidd Perseus (Sam Worthington) a Hades (Ralph Fiennes) benben â’i gilydd yn Chwarel Dinorwig ger Llanberis yn y blocbyster Clash of the Titans (2010) gyda Luke Evans. Nid nepell i ffwrdd ym Methesda, creodd Iona Jones argraff fawr fel y sipsi fach Eldra (2003). Ac yn fwyaf diweddar yn 2023, chwaraeodd yr actores Tilda Swinton fam a’i merch yn ffilm The Eternal Daughter, ond gellir dadlau mai prif gymeriad y ffilm oedd Neuadd Sychdyn yn Sir y Fflint –‘Moel Famau Hotel’ y ddrama seicolegol.
Wedi'i ffilmio yng Nghastell Penrhyn, mae'r gyfres House of Guinness yn dilyn yr hyn sy'n digwydd ar ôl marwolaeth mogwl y bragdy, Syr Benjamin Guinness, a'r effaith mae ei ewyllys yn ei chael ar dynged ei bedwar o blant oedolion.
Lleoliadau Ffilmio Canolbarth Cymru
Tra tre glan môr y Bermo oedd yn gefnlen i Ioan Gruffudd yn Happy Now (2002), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, oedd prif leoliad ffilm gyffro Y Llyfrgell (2016) - ynghyd â golygfa ‘drawiadol’ gyda Sharon Morgan ar Rodfar Môr. Ac i oedi ger y prom yn Aberystwyth dros dro, dyna leoliad Yr Hen Goleg, a chwaraeodd ran allweddol mewn pennod gofiadwy o drydedd cyfres The Crown, wnaeth archwilio’r berthynas rhwng y Tywysog Siarl (Josh O’Connor) a’i ddarlithydd Cymraeg am dymor, Tedi Milward (Mark Lewis Jones). Ond mae ‘Aber’ a’r cyffiniau ym mherfeddion Ceredigion yn fwyaf adnabyddus am gyfres dditectif Y Gwyll (S4C / BBC Cymru ac ar ddangos ar Netflix); yn wir, cafwyd lleoliadau ffilmio rif y gwlith. O Westy Hafod Pontarfynach, i Gors Fochno a’r Borth i leoliadau di-ri yn ‘Aber’ ei hun. Efallai taw’r lleoliad mwyaf adnabyddus yw pencadlys yr heddlu, sef hen swyddfa’r Sir ar Rodfa’r Môr.
Lleoliadau ffilmio De Cymru
Diolch i leoliad stiwdios cynhyrchu mawrion fel Bad Wolf a Phorth Teigr yng Nghaerdydd a Bay Studios yn Abertawe, peth digon cyffredin yw gweld enwau mawrion a chriwiau ffilmio ar hyd y lle. Mae na wefr bob tro wrth adnabod lleoliad mewn cynhyrchiad anferthol, boed yn neuadd odidog neu’n lôn gefn ddi-nod! Does dim dwywaith fod cyfresi gwyddonias Doctor Who (2005 hyd heddiw) a Torchwood (2006-2011) wedi denu ymwelwyr yn eu miloedd i ddilyn ôl traed eu hoff gymeriadau, heb sôn am addasiadau llenyddol His Dark Materials (2019-2022) a Sherlock Holmes (2010-2017). Ym Mhlas Roald Dahl ym Mae Caerdydd, ceir tŵr dŵr trawiadol - sef ‘pencadlys’ Torchwood. A thafliad carreg i ffwrdd yng Nghei’r Forforwyn mae cysegrfan i gymeriad ffuglennol o Torchwood, ‘Ianto’s Shrine’. Ond Bae Caerdydd ei hun a Senedd Cymru, yn wir, oedd sêr mwyaf y ddrama wleidyddol Byw Celwydd (2016-2019) ar S4C. Chwaraeodd y Deml Heddwch ym Mharc Cathays ran ganolog yn His Dark Materials, ac ymysg y cannoedd o leoliadau ffilmio ar hyd Caerdydd a Bro Morgannwg yn Doctor Who, mae Gerddi Plasturton, Pontcanna, a thraeth Southerndown.
Sôn am arfordir Bro Morgannwg, ffilmiwyd rhannau o Mr Nice (2010) gyda Rhys Ifans ym mhentre San Dunwyd, a ffilm Eddie Izzard, Six Minutes To Midnight (2020), ar brom Penarth a Bae Jackson y Barri. Ac amhosib fyddai modd crybwyll y Barri heb gynnwys cyfres gomedi Gavin and Stacey (2007-2010). Ond un o’r ffilmiau gorau i borteadu Caerdydd fin nos oedd Human Traffic nôl yn 1999. Er nad yw clwb nos Emporium yn bodoli mwyach, cewch wledda yn yr un lleoliad, bwyty Pasture ar y Stryd Fawr. Ond gallwch yn bendant sawru glasied o ‘flewyn y ci’ ym mar y Philarmonic, fel wnaeth cymeriad Jip (John Simm) a’i ffrindiau gorau. Yna ar bedwaredd llawr Cineworld ar Heol Mary Ann mae bar â golygfa, a ymddangosodd yng nghyfres ddrama Caerdydd (2006 - 2010) a’r ffilm Siôn a Siân (2013). Yn fwyaf diweddar, chwaraeodd un o berlau’r brifddinas – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - ran ganolog yn nrama deledu Yr Amgueddfa (2021), gyda Nia Roberts. Yr un actores a serennodd yn ffilm Marc Evans Patagonia (2010), a ffilmiwyd yn bennaf yn y Wladfa. Ond agorodd y ffilm â golygfa drawiadol ohoni o flaen waliau cochion ffermdy Kennixton yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. A sôn am Sain Ffagan, filmiwyd rhannau o gyfres ddrama Netflix Sex Education (2019-2023) yn swyddfeydd yr Amgueddfa Werin – ynghyd â lleoliadau yn Nhundyrn, Llandogo a Threfynwy yn Nyffryn Gwy a Sir Fynwy. Ffilmiwyd The Guest gan y BBC mewn sawl lleoliad ar draws Cymru, gyda safleoedd allweddol yn cynnwys Whitson Court yng Nghasnewydd (fel plasdy ffuglennol Maybury Court), Bae Rhosili ar Benrhyn Gŵyr (lle mae'r Hen Rheithordy yn cael ei ddangos), a sawl man yng Nghaerdydd.
Lleolwyd ail gyfres Yr Amgueddfa yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili, a phwy all anghofio’r olygfa drawiadol o gymeriad Della yn ei siwt nofio ger Llyn y Fan Fach? I oedi yn Sir Gâr, canolbwynt y ffilm Save The Cinema (2022) oedd Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Ac wedi degawdau o gael ei gysylltu â’r bardd byd-enwog Dylan Thomas, cyflwynodd drama deledu Un Bore Mercher (2017-2010) berspectif cyfoes ar bentre Talacharn. Yn wir, ni ffilmiwyd biopic y bardd, The Edge of Love (2008) gyda Matthew Rhys, Keira Knightley a Sienna Miller yn Nhalacharn o gwbl ond yn hytrach yng Ngheinewydd, Llanbedr Pont Steffan a Dinbych y Pysgod.
Ymhellach i’r Gorllewin, ffilmiwd comedi tywyll The Toll (2021) gydag Annes Elwy ac Iwan Rheon yn Noc Penfro, Pont Cleddau a Nolton Haven. Hefyd yn ne Sir Benfro, chwaraeodd draeth Barafundle ran ganolog yn y ffilm Third Star gyda Benedict Cumberbatch yn 2015. Yn Freshwater West y ffilmiwyd golygfeydd dramatig Robin Hood (2010) gyda Russell Crowe a Cate Blanchett, a hefyd Harry Potter and the Deathly Hallows: Part One (2010) a Part Two (2011). A thraeth Marloes a’i geigiau geirwon a agorodd ffilm Snow White and The Huntsman (2012) gyda Kristen Stewart, Chris Hemsworth a Charlize Theron. Yna yn ne Ceredigion, ffilmiwyd cynhyrchiad Tân ar y Comin (1993) ym mhentre Llangrannog, tra yn nhre Aberaeron, gwesty’r Harbourmaster oedd prif seren drama deledu boblogaidd Teulu (2008-2012) ar S4C.
Un o lwyddiannau mwyaf diweddar S4C oedd cyfres ddrama Ed Thomas, Pren ar y Bryn (2023) a ffilmiwyd yn Ystradgynlais, Cwm Tawe. Ac ar BBC1, llwyddodd y ddrama gomedi twymgalon Men Up (2023) i gyfleu neges hynod bwerus am iechyd meddwl ac iechyd rhywiol dynion, ac wrth galon y cyfan mae Ysbyty Singleton yng nghanol Abertawe. Clywais gymaint o bobol yn canmol y golygfeydd dinesig ysblennydd, ond amhosib fyddai ystyried Abertawe ar sgrîn fawr neu sgrîn fach heb sôn am ddylanwad mawr Twin Town (1997). Ffilmiwyd y comedi anarchaidd gyda’r brodyr Rhys Ifans a Llyr Evans ym mhobman o Townhill i’r orsaf drenau – heb anghofio’r diweddglo bythgofiadwy oddi ar y pier ym Mwmbwls. Diolch i berfformiad ysgubol gan Gôr Meibion lleol o’r clasur ‘Myfanwy’, cipiwyd Cymru ar sgrîn, a chipiwyd calonnau gwylwyr – pob un wan Jac - am byth bythoedd. Sôn am brofiad sinematig cwbl epig!