Atyniadau fferm y Gogledd

Parc Anifeiliaid Greenacres, Sir y Fflint

Pa bynnag anifeiliaid rydych chi neu’ch plant yn eu hoffi, byddwch yn medru eu mwytho a’u bwydo ym Mharc Anifeiliaid Greenacres. Mae adar, tylluanod, moch a chŵn yn flaenllaw yma, a gall plant ifanc sy’n teimlo’n ddewr neidio i’r cyfrwy a mynd ar gefn ceffyl. Mae yma hefyd lamas a gweithgareddau brawychus ar gyfer Calan Gaeaf.

Parc Gypsy Wood, Caernarfon

Tîm gŵr a gwraig greodd Parc Gypsy Wood yn wreiddiol i ofalu am Simba, sef ceffyl bychan oedd wedi cael ei eni gyda choesau cam. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, mae Simba yng nghanol haid o anifeiliaid hapus, yn cynnwys asynnod, geifr, moch boliog a ffrindiau eraill, yn cynnwys y brîd lleiaf o ddefaid yn y byd. Yma hefyd mae’r rheilffordd mewn gardd fwyaf yng Nghymru a jaciau codi baw bychan i’w mwynhau.

Parc Fferm Bodafon, Llandudno

Cartrefol a phrydferth, ond wedi ei osod mewn parc eang ger y môr, mae gan Barc fferm Bodafon hwrdd Dartmoor, asynnod, gwartheg, moch, cwningod a hwyaid. Ymlaciwch a mwynhewch yr olygfa o gaeau bychan o’r llecyn picnic, a cadwch eich llygaid ar agor am yr adar ysglyfaethus a’r rhaglen o ddigwyddiadau.

Parc Fferm Foel, Ynys Môn

Bwydwch ŵyn a lloi gyda photel, neu ewch am reid ar gefn tractor, trelyr neu geffyl ym Mharc Fferm Foel, sy’n cynnig golygfeydd hyfryd o Gastell Caernarfon, Afon Menai ac Eryri. Mae’r siop siocled sydd ar y fferm wedi dal ein sylw, ac mae’r caffi a’r tŷ te yn cynnig arlwy mwy cytbwys o luniaeth.

Children’s Farm Park, Llanfair, Gwynedd

Llanfair, ger Harlech, yw lleoliad Children’s Farm Park, ble gallwch gadwdiddordeb y plant yn hawdd trwy’r dydd. Mae moch, lloi a geifr pigmi ymysg y trigolion lleol, ac mae yna bwll tywod dan-do, golff gwyllt a digonedd o fannau caffi a phicnic.

Atyniadau fferm y Canolbarth 

Fferm Cantref Adventure, Aberhonddu

Mae yna ddwsinau o weithgareddau i’w mwynhau yn Fferm Antur Cantref, sydd wedi ennill sawl gwobr. I ddechrau, dewiswch ymysg bwydo moch â photel, rhedeg yn wyllt trwy’r ardal chwarae, dal moch bochdew, reidiau merlod, rasio anifeiliaid anwes, anturiaethau trwy gorsydd, a thrywydd ar thema moch daear. Mae yna ardaloedd dan-do a’r tu allan, yn ogystal â reidiau ar gefn tractor.

Parc Fantasy Farm 

Mae Parc Fantasy Farm yng nghalon cefn gwlad Ceredigion yn cynnig amrywiaeth o anturiaethau i deuluoedd. Dewch i gwrdd ag anifeiliaid fferm cyfeillgar, mwynhau teithiau tractor a chael hwyl ar y dŵr mewn cychod pedal. Gall plant fwynhau’r ardal chwarae awyr agored, neu chwarae dan do yn yr ardal chwarae meddal â thema morladron

Jacob Sheep Trekking & Farm Experience

Dewch i gwrdd ag anifeiliaid cyfeillgar yn Jacob Sheep Trekking & Farm Experience. Mae’r fferm organig yn cynnig profiadau gyda defaid a geifr Pygmi, gan gynnwys teithiau cerdded drwy gefn gwlad hardd Cymru, yn ogystal â chyfle i gael cwtch gyda ŵyn a chymryd rhan mewn profiadau magu ŵyn.

 

Atyniadau fferm y Gorllewin 

Folly Farm, Sir Benfro

Agorodd Folly Farm i’r cyhoedd yn wreiddiol fel fferm laeth ble gallai pobl gymryd rhan ym 1988, a 25 mlynedd yn ddiweddarach mae’n denu llwyth o wobrau a 400,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r fferm foch, a’r fferm ffuredau yn rhai o’r uchafbwyntiau, heb sôn amr ardal chwarae antur a’r ffair hen ffasiwn.

Pengwiniaid yn Folly Farm
Ceffyl mewn ffair hen ffasiwn

Pengwiniaid a ffair hen ffasiwn yn Folly Farm

Dr Beynon's Bug Farm Ltd

Mae Bug Farm Dr Beynon yn cynnig ffordd ddifyr o archwilio pwysigrwydd pryfed drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a theithiau tywys. Mae’r Grub Kitchen yn gweini amrywiaeth o fwydydd, gan gynnwys prydau sy’n seiliedig ar bryfed.

Clerkenhill Adventure Farm

Mwynhewch ddiwrnod hwyliog i’r teulu cyfan yn Clerkenhill Adventure Farm, gyda gweithgareddau gan gynnwys teithiau tractor, golff gwyllt a golff ffrisbi, yn ogystal â sleidiau cyffrous. Dewch i weld yr anifeiliaid a mwynhau profiad fferm trawiadol, neu ymlacio wrth fynd am dro hamddenol drwy’r goedwig.

 

Ynys Aberteifi, Ceredigion

Mewn lleoliad ar y môr sy’n edrych i lawr dros warchodfa natur, mae Ynys Aberteifi yn rhyfeddod ar ben clogwyn, sy’n croesawu dolffiniaid, morloi llwyd, lloi bach, lamhidyddion, adar y môr ac amryw o ymwelwyr morol eraill. Dywedwch helô wrth Tex a Mex, llygod y paith sy’n byw ar y bryn, Llinos y lama a Bruce y walabi o Awstralia, heb anghofio moch o Fietnam.

Ynys Aberteifi

Ynys Aberteifi, Gorllewin Cymru. 

Atyniadau fferm y De

Fferm Gymunedol Greenmeadow, Cwmbrân

Ffermdy 250 mlwydd oed yw canolbwynt Fferm Gymunedol Greenmeadow. Mae’r safle hynafol hwn yn gartref i wartheg, moch, defaid, cathod gwyllt, gwenyn a geifr. Mae yna 120 acer i’w harchwilio a’u mwynhau yma, yn cynnwys caffi gwych sy’n gweini bwyd sydd wedi cael ei dyfu ar y fferm.

Parc Fferm Cefn Mabli, Caerdydd

Mae Parc Fferm Cefn Mabli wedi cael ei gynllunio gyda phlant mewn golwg; mae yna filoedd o droedfeddi o ardaloedd chwarae dan-do, wedi eu gwresogi, ar gyfer plant yn y sioe anifeiliaid hon rhwng Casnewydd a Chaerdydd. Reidiau merlod, ardaloedd picnic a digonedd o gyfleoedd i fynd yn agos at yr anifeiliaid , yn ogystal ag ardal chwarae arbennig ar gyfer plant o dan bedair.

The Meadows Farm Village

Mae The Meadows Farm Village yng Nghaerffili yn brofiad rhyngweithiol gydag anifeiliaid. Mae amrywiaeth o rywogaethau i’w gweld, gan gynnwys meerkats, moch cwta, moch bach, wallabies a chŵn y preeri. Mwynhewch goffi a chacen, gyda gorchudd ar gael ar gyfer dyddiau glawog a phan fo’n boeth. Mae’r llwybrau cerdded wedi’u gwella ar gyfer cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd ac mae toiled compost hygyrch ar gael.

Amelia Trust Farm

Dewch i gwrdd ag anifeiliaid gan gynnwys defaid, asynnod, hwyaid, moch, merlod, cwningod a moch cwta yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia. Crwydrwch y goedwig a mwynhau arddangosfeydd rhyngweithiol, neu ymunwch â thaith dywys i ddysgu mwy am ffermio cynaliadwy.

Straeon cysylltiedig