Os ydych chi’n dipyn o anturiwr adrenalin, yn chwilio am brofiadau newydd, yn mwynhau ymarfer corff, neu’n berson gyda gormodedd o egni sydd angen ei losgi, mae Caerdydd yn le gwych i gael eich ffics ffitrwydd. Byddwch yn siŵr o chwysu chwartiau os byddwch yn dewis rhai o’n hawgrymiadau.
Ble i: sglefrfyrddio
Mae’r parc sglefrfyrddio hwn dan do yn anferth - oddeutu 7,000 troedfedd sgwâr. Mae’n addas ar gyfer pob oed a gallu, gydag opsiynau i sglefrfyrddio’n rhydd, ymuno â dosbarthiadau, derbyn hyfforddiant, llogi offer a chwrdd â phobl newydd. Yn ogystal â’r llethrau, blociau, talcenni, cicwyr symudol a bariau, mae ramp fertigol 11 troedfedd y tu allan ar gyfer sglefrfyrddwyr profiadol (a dewr!).
Mae croeso yma i unrhyw un gydag olwynion sy’n hoffi chwaraeon eithafol, gan gynnwys sgwteri, sglefrolwyr, sglefrfyrddau, beiciau BMX a chadeiriau olwyn eithafol. Mae RampWorld yn lle cyfeillgar lle gallwch ymarfer unrhyw beth o’r sgiliau sylfaenol i’r fflips, triciau cydio a llifanu. Mae ardal siâp powlen, meingefn, rampiau bychain, adrannau stryd a hanner peip. Mae’r pwll sbwng a’r ramp Resi yn gwneud yn siŵr eich bod yn glanio heb wneud niwed i chi eich hun pan fyddwch yn ceisio dysgu sgil newydd.
Ble i: Ddringo
Canolfan Ddringo Dan Do Boulders
Mae Boulders yn lleoliad gwych os ydych chi am gael hwyl a bod yn actif ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau neu fel teulu - ac mae'n addas ar gyfer pob oed. Nid oes angen profiad o gwbl arnoch i roi cynnig arni, byddwch yn dringo wal o dan gyfarwyddyd gwych yr hyfforddwyr profiadol mewn chwinciad. Mae’r waliau yn amrywio mewn uchder o 4-12m ac mae offer yn cael ei ddarparu ar eich cyfer.
Ble i: Sglefrio Iâ
Canolfan Iâ Cymru Ice Arena Wales
Dyma gartref tîm hoci iâ enwog y Cardiff Devils. Mae Canolfan Iâ Cymru yn arena bwrpasol gyda dau lawr sglefrio. Mae sesiynau sglefrio iâ ar gael i’r cyhoedd yn ddyddiol, cyrsiau ar gyfer pob gallu, yn ogystal â sesiynau ymarfer sglefrio ffigur. Gallwch ddefnyddio eich esgidiau sglefrio eich hun, neu mae’n bosib llogi pâr yn yr arena.
![Adeilad mawr modern.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2022-02/SVW-C85-1617-0348.jpg?h=e5aec6c8&itok=cT8_BrcH)
![Dau berson yn sglefrio ar draws yr iâ.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2022-02/SVW-C85-1617-0333.jpg?h=e5aec6c8&itok=-K8fnVLc)
Ble i: Reidio ar ddŵr
Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Dyma’r adnodd dŵr gwyn o safon Olympaidd bwrpasol cyntaf yn y DU, ac mae wedi’i leoli ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd. Ar safle Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, gallwch gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dŵr yn cynnwys canŵio, caiacio, rafftio dŵr gwyn, tiwbio, padlfyrddio ar eich traed a syrffio tonnau dan do. Mae hwyluswyr wedi’u hyfforddi ar gael i’ch arwain ar eich antur, ond os ydych eisoes yn brofiadol, gallwch wneud unrhyw beth yn eich amser eich hun.
![Caiacs ar y dŵr](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2022-02/SVW-C85-1617-0797.jpg?h=fa90b4ec&itok=UsPyzNcw)
![Pobl yn eistedd ar rafft las ar y dŵr](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2022-02/SVW-C85-1617-0822.jpg?h=e5aec6c8&itok=LOJyjPXp)
Ble i: Sŵmio mewn go-cartiau
Ydych chi’n hoff o rasio mewn go-cartiau? Bydd eich calon a’ch corff yn llythrennol yn curo wrth i chi rasio yn Teamsport Cardiff, adeilad pwrpasol ar gyfer go-cartio sydd wedi’i leoli ger Heol Casnewydd. Mae’r trac aml lefel hwn yn 500 metr o hyd, gyda’r lonydd syth yn eich caniatáu i godi cyflymder, troadau llym a llydan a digonedd o gyfleoedd i chi wibio heibio'ch ffrindiau. Mae’r go-cartiau 200cc yn medru cyrraedd cyflymder cyfartalog o 40mya, gyda phob lap yn cymryd tua 40 eiliad i’w chwblhau.
Ble i: Redeg a Cherdded
Caerdydd yw’r ddinas ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n hoffi rhedeg neu gerdded. Mae’r gymysgedd o ardaloedd trefol, ardaloedd gwyrdd a llwybrau dynodedig yn golygu fod rhywbeth at ddant pawb. Mae'r Llwybr Taf yn ymestyn o Fae Caerdydd yr holl ffordd i Aberhonddu, gyda dros 50 milltir o lwybrau. Gallwch ei fwynhau mewn adrannau o faint sydd yn addas i chi.
Neu beth am fentro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru: cychwynnwch o Warchodfa Natur y Gwlypdiroedd ym Mae Caerdydd, cylchdroi o amgylch Yr Eglwys Norwyeg lle cafodd Roald Dahl e fedyddio, yna croesi’r morglawdd i gyrraedd tref glan môr Penarth.
Os ydych chi’n chwilio am barciau, yna mae Parc Bute, tu ôl i Gastell Caerdydd, yn lle hyfryd i grwydro. Mae Parc y Rhath yn boblogaidd gyda rhedwyr oherwydd bod cylchdaith wastad 5km o hyd o amgylch gerddi rhosod hardd, llyn cychod mawr a’r goleudy adnabyddus. Mae’r daith ar hyd y palmentydd wedi’u goleuo’n dda sy’n ei gwneud yn daith addas ar unrhyw adeg o’r flwyddyn neu gyda’r nos.
Mae hefyd nifer o sesiynau ParkRun yn cael eu trefnu ar draws parciau Caerdydd, gyda llwybrau ym Mharc Bute, Parc Trelái, Grangemoor a Thremorfa. Ewch i wefan ParkRun am fwy o wybodaeth.
![llwybr pren, gwyrddni a ffensys, gyda chychod yn y cefndir.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2021-09/SVW-E04-2122-0009-small.jpg?h=ee28af4c&itok=JRfbiabd)
![Eglwys wen wedi’i gwneud o bren gyda meinciau y tu allan](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2020-06/SVW-C85-1617-0081%20small_0.jpg?h=d8102449&itok=qwjFRQGp)
Rhagor o syniadau
- Yn sir gyfagos Bro Morgannwg, mae traethau hardd, clogwyni, a thwyni a digonedd o lefydd agored i gerdded, gan gynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Dyma flas ar draethau, siopau a bwytai annibynnol Bro Morgannwg gydag Annes Elwy.
- Ar wibdaith yng Nghaerdydd neu'n newydd i'r brifddinas? Dyma ganllaw i grwydro Caerdydd mewn 24 awr.
- Chwilio am bethau i’w gwneud â chŵn ym mhrifddinas Cymru? Dyma ganllaw o atyniadau sy’n gyfeillgar i gŵn.