Sut i gwyno

Ambell dro, ni fydd ansawdd eich llety yn cwrdd â’ch disgwyliadau. Mae gan Croeso Cymru broses mewn lle i ddelio gyda chwynion gan gwsmeriaid.

Mae Croeso Cymru yn eich annog i wneud unrhyw sylwadau sydd gennych am eich llety i’r perchennog neu’r rheolwr yn ystod eich ymweliad. Wrth wneud hyn, byddwch yn rhoi cyfle i’r perchennog ddelio gyda’ch sylwadau ac efallai bydd hi’n bosib gwneud eich arhosiad yn fwy dymunol.

Cwynion yn erbyn gweithredwyr llety sy’n rhan o gynlluniau graddio Croeso Cymru

Gallwn dim ond ystyried ymchwilio i gwynion ynghylch gweithredwyr llety os ydynt yn rhan o un o gynlluniau graddio Croeso Cymru.

Gofynnwn i chi anfon manylion eich cwyn atom ni i’r cyfeiriad isod o fewn 14 diwrnod o’ch ymweliad. Gofynnwn i chi gynnwys - ble fo’n bosib - enw’r person y cyflwynoch eich cwyn iddo/iddi yn y llety. Pan fydd Croeso Cymru’n derbyn eich cwyn, byddwch yn derbyn gohebiaeth o fewn 15 diwrnod gwaith yn eich cynghori sut mae Croeso Cymru’n cynnig delio gyda’r mater.

Er mwyn ymchwilio i’ch cwyn yn llawn, bydd Croeso Cymru yn rhoi copi o’ch cwyn (yn cynnwys eich manylion personol) i’r perchennog dan sylw. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gwneud hyn, ond byddai o gymorth i ni petai chi’n rhoi yn eich cwyn os ydych chi’n cydsynio i Croeso Cymru basio eich manylion ymlaen. Os nad ydym yn derbyn caniatâd i basio eich cwyn a/neu eich manylion personol ymlaen i’r perchennog, yna o dan rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar natur y gwyn, mae’n bosib y bydd Croeso Cymru’n penderfynu nad oes modd ymchwilio i’r gwyn yn llawn ac y deg. Yn yr achosion hyn, bydd manylion y gwyn yn cael eu cadw ar ffeil ac yn cael eu hystyried yn yr asesiad graddio nesaf.  

Mewn achos o gwynion difrifol, byd cynrychiolydd o Croeso Cymru yn ymweld â’r sefydliad i ail-asesu’r llety dan sylw a/neu drafod y gwyn gyda’r perchennog neu’r rheolwr. Bydd yr ymweliad fel arfer yn digwydd o fewn i 30 diwrnod gwaith o dderbyn y gwyn. Byddwn, wedi hynny, yn eich hysbysu o ganlyniad yr ymweliad.

Adran Sicrwydd Ansawdd, Croeso Cymru

Llywodraeth Cymru

Rhodfa Padarn

Llanbadarn Fawr

Aberystwyth

Ceredigion

SY23 3UR

Ffôn: 0845 010 8020

E-bost: quality.tourism@gov.wales

 

Cwynion ariannol

Nid oes modd i Croeso Cymru fod yn rhan o ddadleuon o natur ariannol. Mae yna gyrff sydd yn fwy abl i gynnig cyngor ar gyfer y math yma o gwyn, ewch i’r ddolen ar waelod y dudalen.

Arwyddion anghywir/camarweiniol

Yma yn Croeso Cymru, un o’r problemau rydym yn eu hwynebu yw llefydd sy’n gadael y cynllun, ond sy’n parhau i arddangos arwyddion Croeso Cymru, neu’n honni i fod â gradd sêr Croeso Cymru.

Mae arddangos arwyddion Croeso Cymru pan nad yw sefydliad bellach yn rhan o un o gynlluniau Croeso Cymru yn drosedd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 , ac yn gamarweiniol i westeion posib. Rydym yn monitro’r defnydd o arwyddion yn rheolaidd ac yn defnyddio ein Aseswyr Ansawdd i adrodd yn ôl i ni ar eu hardaloedd. Gyda chymorth Trading Standards, rydym yn ymchwilio i mewn  i unrhyw faterion sy’n ymwneud ag arwyddion anghywir, ac yn sicrhau fod camau priodol yn cael eu cymryd.

Os yw sefydliadau sydd ddim yn rhan o’r cynllun yn arddangos arwyddion ar eu gwefannau neu yn y lleoliad ei hun, rydym am wybod. Cysylltwch â’n tîm yn gyfrinachol ar 0845 010 8020 neu ebostiwch ni quality.tourism@llyw.cymru.

Cwynion am lety sydd ddim yn rhan o gynlluniau graddio Croeso Cymru

Nid oes modd i Croeso Cymru ddelio gyda chwynion am weithredwyr llety sydd ddim yn rhan o un o’n cynlluniau graddio. Yn yr achosion hyn, rydym yn argymell fod defnyddwyr yn dilyn y dolenni isod am wybodaeth bellach ynghylch ei hawliau cyfreithiol.

Straeon cysylltiedig