Portmeirion
Ewch â’ch partner i’r hudolus Portmeirion, creadigaeth Syr Clough Williams-Ellis, a wireddodd ei freuddwyd o greu pentref Eidalaidd yng Nghymru. Y canlyniad yw casgliad hudolus o adeiladau lliwgar a gerddi sy’n arwain i lawr at y môr. Ar y lan y mae Gwesty Portmeirion, adeilad rhestredig Gradd II, a agorodd ym 1931 ac y mae ei westeion wedi cynnwys artistiaid, dramodwyr, teuluoedd brenhinol, gwleidyddion a phobl busnes. Dewiswch aros yn Swît y Paen; yn y fan honno yr arhosodd ddarpar Frenin Edward VIII ym 1934.
Gwesty St Brides Spa, Saundersfoot
Mae’n siŵr mai pwll anfeidroldeb Gwesty St Brides Spa yw’r lle perffaith i ymlacio – gwesty hyfryd a saif ar ben clogwyn yn edrych dros Saundersfoot a’r môr. Mae gan y rhan fwyaf o’r ystafelloedd olygfeydd o’r môr a balconi, a cheir chwe fflat sy’n cael eu gwasanaethu, ynghyd â’r sba heddychlon, Marine Spa. Mae cynnyrch Sir Benfro yn ymddangos ar fwydlen bwytai’r Cliff a’r Gallery, a’r ddau mewn lleoliad perffaith i fanteisio ar y machlud haul godidog.
Harbourmaster, Aberaeron
Ymwelwch â’r Harbourmaster ac mae’n siŵr mai dyma fydd eich hoff westy. Mae’n westy y mae pobl yn dychwelyd iddo dro ar ôl tro: oherwydd y croeso cynnes, y décor hyfryd (gan gynnwys ffefryn y Cymry, dodrefn Melin Tregwynt), cyffyrddiadau gofalus, a lleoliad heb ei ail. Gofynnwch am Swît Madona i fwynhau golygfeydd arfordirol panoramig. Mae’r gwesty bwtîc yn gartref i fwyty gwych a bwydlen sy’n aml yn cynnwys cregyn bylchog, wystrys a steciau Cymreig blasus.
Tŵr y Felin, Tyddewi
Mae Tŵr y Felin yn falch o’i leoliad arfordirol, ac yn brawf o hynny mae 100 darn o gelf unigryw sydd wedi’u hysbrydoli gan Benrhyn Tyddewi i’w gweld ar hyd y gwesty. Mae’r eiddo moethus prin ddeng munud o Lwybr Arfordir Sir Benfro a thraeth hyfryd Bae Caerfai. Mae 21 o ystafelloedd gwely gan gynnwys dwy swît anhygoel, gyda’r cyfan wedi’u cynllunio i gynnig moethusrwydd. Setlwch ym mar Cornel y selogion celf cyn swper yn y Blas, eu bwyty rhoséd AA.
Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy
Mae Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy yn ysblennydd ac yn gain ac yn edrych dros y llyn bendigedig o'r un enw, sy’n cynnig golygfeydd godidog o’r tŵr chwedlonol a saif gerllaw dyfroedd y llyn. Ar ôl i chi roi’r gorau i edmygu’r tirlun o’ch balconi, edrychwch ar y décor ysblennydd yn eich ystafell. Mae gan lawer o’r 52 o ystafelloedd welyau pedwar postyn moethus ac maen nhw’n edrych dros naill ai’r llyn neu’r gerddi. Mae’r sba yn parhau â’r thema gyda golygfeydd hyfryd o’r llyn, ac mae’n cynnig triniaethau er mwyn i chi ymlacio, a Swît Thermal unigryw.
Castell Glandyfi, Machynlleth
Wedi’i guddio’n hyfryd y tu ôl i hen ‘y wal fawr Glandyfi’, mae Castell Glandyfi, adeilad Gradd II, yn teimlo’n wirioneddol dawel ac diarffordd — ac eto dim ond 10 munud o dref fywiog Machynlleth. Mae’n lle perffaith i ddechrau archwilio aber hudolus Dyfi, Gwarchodfa Natur RSPB Ynys‑hir, a thraethau trawiadol arfordir canolbarth Cymru sydd gerllaw.
Gyda 11 ystafell wely sy’n cysgu hyd at 22 o westeion, mae’n cynnig hyblygrwydd llwyr: hunanddarpar neu ddarpariaeth gan gogydd preifat. Gall gwesteion ymlacio yn y twb poeth gyda golygfeydd eang dros yr aber, a cherdded drwy 40 erw o erddi a choetir heddychlon. Mae’r lle yn agored i anifeiliaid anwes ac yn berffaith ar gyfer teuluoedd — lle i ymlacio, ailgysylltu, ac archwilio harddwch naturiol Dyffryn Dyfi.
The Bunkhouse, Y Clas-ar-Wy, Powys
Disgrifir The Bunkhouse yn Y Clas-ar-Wy gan ei berchnogion fel byncws crand, sy’n cysgu hyd at 14 o bobl yn gysurus iawn. Mwynhewch soffas cyfforddus, stôf bren a byrddau mawr ar gyfer gwledda - perffaith pan fydd ffrindiau neu deulu yn dod at ei gilydd. Hwyl sy’n bwysig yma - mae llithren y tu fewn i’r eiddo - ac mae The Bunkhouse mewn lleoliad perffaith ar gyfer teithiau canŵ i lawr Afon Gwy.
Floatels, Aberdaugleddau
Mae’r Floatel Rooms ym Marina Aberdaugleddau yn gabannau arnofiol sy’n angori ymhlith y cychod yn y marina. Mae pob caban yn cysgu dau ac yn cynnwys ystafell gawod en‑suite, dodrefn moethus a balconi preifat. Mae’r ffenestri helaeth o’r llawr i’r nenfwd yn eich gwahodd i ymdrochi yn y golygfeydd dŵr panoramig ac i fwynhau’r machludau syfrdanol.