Aros mae’r mynyddau mawr
Gan yr Wyddfa a’i chriw yn Eryri fe gewch chi bob math o dirweddau mynyddig, llynnoedd anghysbell, a dyffrynnoedd heb eu hail. Mae’r dirwedd arw a’r harddwch yn denu anturiaethwyr a phobl sy’n hoff o fyd natur fel ei gilydd. Efallai mai’r golygfeydd fydd yn cipio’ch anadl, neu’r diwylliant difyr. Y naill ffordd neu’r llall, dyma ran o Gymru i’ch gwefreiddio. Mae’n un o gadarnleoedd y Gymraeg a’i diwylliant, ac yn goron ar y cyfan, dyna i chi gopa uchaf Cymru o fewn tafliad carreg i chi. Dewch am dro, da chi!
Arfordir ardderchog
Fan hyn, fe gewch chi ymlacio ar draethau euraidd, mwynhau dros 250 milltir o arfordir godidog, a chrwydro trefi glan traddodiadol fel Llandudno, gyda’i bier Fictoraidd eiconig. Neu beth am fentro i Ynys Môn, lle mae 130 milltir o lwybrau arfordirol yn eich aros – lle perffaith i fynd am dro braf neu i wneud chwaraeon dŵr cyffrous. Gwir antur ar arfordir Cymru.
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru – sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, yn adrodd hanes y diwydiant llechi yng Nghymru. Yn eu hanterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y chwareli garw hyn yn cynhyrchu dros hanner llechi to’r byd, yn rhoi nerth i gymunedau, ac yn dylanwadu ar olwg trefi a dinasoedd yn y pedwar ban.
Heddiw, mae’r ardal ôl-ddiwydiannol hon yn cyfuno harddwch naturiol a stori sy’n 600 miliwn oed. Mae digonedd o lwybrau rhyfeddol drwy’r chwareli a threfi llechi hanesyddol i’w crwydro, yn ogystal â lleoliadau sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau enwog. Dewch ar daith drwy hanes, gan gael eich rhyfeddu gan y dreftadaeth a’r golygfeydd.
Tirnodau trawiadol, hanesion hynod
Mae hanes a harddwch naturiol yn dod ynghyd yn rhai o dirnodau arbennig yr ardal. Ymhlith y llefydd hudolus hyn mae Castell Biwmares ar Ynys Môn, a’i gymesuredd a’i ddyluniad consentrig yn dyst i hynodrwydd pensaernïaeth filwrol yr oesoedd canol.
Ymhlith tirnodau tlysaf y gogledd-orllewin mae Goleudy Ynys Lawd, sy’n sefyll ar erchwyn clogwyn uchel oddi ar Ynys Gybi. Mae pobl sy’n gwylio adar wrth eu boddau yma, ac mae’r golygfeydd dros y darn ysblennydd hwn o arfordir yn rhai heb eu hail.
Ambell fideo byr ar YouTube sy’n dangos gwychder y gogledd
Dyfrbont Pontcysyllte
Golygfeydd Prydferth yn Pen-y-Pass
Traeth Porthdinllaen
Go brin y cewch chi le gwell i fynd am dro na gerddi hyfryd pentref Portmeirion yng Ngwynedd, lle mae’r naws Eidalaidd yn siŵr o’ch swyno. A hwnnw’n ymdebygu i bentref traddodiadol yn yr Eidal, mae’n enwog am ei bensaernïaeth liwgar a’i erddi penigamp. Mae’n lle cwbl unigryw sy’n plethu treftadaeth a harddwch, a hynny’n rhoi atgofion oes i ymwelwyr. I gael profiad cyflawn, beth am aros yng Ngwesty Portmeirion, sy’n cynnig llety moethus a chyfle i ymlacio yn y bwyty sy’n edrych draw dros aber afon Dwyryd – nefoedd ar y ddaear!
A honno’n sefyll ar lannau afon Dyfrdwy, tref fechan ydy Llangollen, ond tref sy’n llawn dop o hanes a hudoliaeth. Dyna i chi adfeilion yr hen gastell i gychwyn, ac wedyn ryfeddod Traphont Ddŵr Pontcysyllte, a ddyluniwyd gan Thomas Telford, yr athrylith o beiriannydd. Yn 1805 y cwblhawyd y gwaith adeiladu ar y draphont hynod hon, sy’n ymestyn yn uchel dros y dyffryn wrth gario camlas Llangollen dros yr afon islaw. Fe allwch chi gerdded drosti, neu ganŵio i’r pen draw os mai dyna’ch pethau. Y naill ffordd neu’r llall, mae’r golygfeydd yn fythgofiadwy. Mae Llangollen yn lle sy’n drwm o ddiwylliant hefyd, yn enwedig yn ystod yr haf pan fydd yr Eisteddfod Ryngwladol fyd-enwog yn cael ei chynnal yma – dathliad o gerddoriaeth a dawns sy’n denu rhai o gantorion gorau’r byd.
Oddi ar drwyn eithaf Pen Llŷn mae Ynys Enlli – lle gwyllt yn nannedd y gwynt lle mae byd natur yn ben, ac amser yn arafu. ‘Ynys yr ugain mil o saint’ ydy’r enw arall arni – bu’n denu pererinion ers cyn cof, ac mae’r lle’n llawn chwedlau a naws ysbrydol. Heddiw, mae bywyd gwyllt prin ym mhobman, ynghyd â chlogwyni hynod a chyfle i syllu ar y sêr o dan awyr sydd gyda’r dywyllaf yn Ewrop. Does yma ddim ceir, dim torfeydd, na dim byd modern i darfu arnoch chi. Mae Enlli yn lle i enaid gael llonydd – yn lle i ddiffodd y dyfeisiau, i ddadebru, ac i ganfod y distawrwydd yng nghanol harddwch hynod byd natur.
Mwynhewch y golygfeydd drwy’r flwyddyn gron
O droeon cerdded braf yn yr haf i harddwch gerwin y gaeaf, mae byd natur y gogledd yn odidog drwy’r flwyddyn gron. Mae gan bob tymor rywbeth arbennig i’w gynnig – llwybrau bach hynod, pentrefi tlws, a digonedd o lefydd am goffi gyda golygfeydd heb eu hail.
Mae Tu Hwnt i’r Bont, ystafell de o’r bymthegfed ganrif ar lannau afon Conwy, lle mae’r eiddew’n drwch ar y muriau, yn fan campus i stopio. Mae’r caffi ar agor gydol y flwyddyn, ac yn berffaith am baned boeth a llun neu ddau – yn enwedig pan fydd y waliau’n llawn lliwiau tanllyd yr hydref.
Yn y gaeaf, ewch i edmygu’r eira ar yr Wyddfa yn adlewyrchiad dyfroedd rhewllyd Llyn Llydaw – golygfa gerdyn post os buodd un erioed. Yn y gwanwyn neu’r haf, estynnwch am y picnic ar dywod Ynys Llanddwyn, a thonnau’r môr a chopaon Eryri yn gefnlen. Bydd ymweld ar adegau llai prysur yn gyfle i wir fwynhau llonyddwch y lle hwn.
Felly, os ydy hyn oll yn denu, a chithau ar dân i grwydro, pam aros?
Dechreuwch gynllunio, felly. Dyma ragor o wybodaeth am lefydd i aros ac am Antur a gweithgareddau yn y gogledd i’w hystyried.