O'r rheini sy'n ymweld â Chymru i gymryd rhan mewn gweithgaredd, dywedodd 65% ohonyn nhw, yn ôl yr ymchwil, mai beicio mynydd yw eu rheswm pennaf dros ddod i Gymru. Dywedodd 26% mai beicio ar y ffyrdd oedd y rheswm pennaf dros eu hymweliad.
Yn 2023, roedd tua 7.4 miliwn o bobl wedi beicio yn Lloegr, naill ai fel camp, at ddiben hamdden neu fel cyfrwng teithio.
Dywedodd 5% o Brydeinwyr y bydden nhw'n debygol o feicio ar eu gwyliau neu wyliau byr nesaf yn y DU ym mis Mai i Fehefin 2024, ac 8% ar eu gwyliau neu wyliau byr nesaf yn y DU ym mis Gorffennaf i Fedi 2024.
Mae beicio ar y graean yn dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd ymhlith beicwyr, gydag astudiaeth gan y traciwr ffitrwydd Strava yn dangos y bu cynnydd flynyddol o 55% yn y nifer a fu ar o leiaf un reid ar raean yn 2023.
Mae Trainline wedi cofnodi bod bron bum gwaith yn fwy o bobl wedi teithio ar y trên gyda beic yn 2023 na'r flwyddyn cynt (cynnydd o 380%), hynny er bod bron hanner pobl Prydain (48%) ddim yn deall eich bod yn gallu archebu lle i feic wrth brynu tocyn trên.
Y prif resymau dros ddewis gwyliau beicio yw mwynhau golygfeydd hardd (29%), ymarfer corff (29%) ac yn sgil cael eich ysbrydoli gan rasys beicio mawr fel y Tour de France (18%).
Gwnaeth chwarter pobl Prydain (25%) ystyried mynd ar wyliau beicio yn y DU yn 2023, ac roedd dros un rhan o bump (21%) yn fwy tebygol o archebu un yn 2023 nag yn 2022 - gan ei wneud yn duedd bwysig yn y gwyliau gartref yr haf hwnnw.
Mae 18% o'r gwyliau beicio wedi'u hysbrydoli gan ddigwyddiadau fel y Tour De France. Gyda digwyddiadau fel y Tour de France yn dylanwadu ar y gwyliau a ddewisir, dylai Cymru fanteisio ar y diddordeb hwnnw yn ei deunydd hyrwyddo ac annog archebion yn y dyfodol.
Cyf: Ymchwil GBTS 2022-2023 a iCrossing Cycling Audience Identities & Insights, Mehefin 2024.