Neidio i’r prif gynnwys
Llwybrau a dringfeydd
Llun o'r awyr o ffordd gefn gyda 2 feiciwr yn dringo'r rhan fwy serth yn y blaendir.

Beicio ffordd ar y Gogarth, Llandudno.

Llwybrau a dringfeydd

Ar gyfer beicwyr brwd, rydym yn cynnig rhai o'r llwybrau a'r dringfeydd gorau ym Mhrydain. O ddringfeydd eiconig fel Bwlch-y-Groes yn y gogledd, i droadau enwog y Rhigos yn y de, mae digon o ddewis ar gyfer y rheini sydd am daith heriol a golygfeydd gwych, a mannau ardderchog i gael coffi blasus ar y ffordd!

Dringfeydd

  • Yn Ne Cymru, y 'tri mawr' yw'r Bwlch, y Rhigos a'r Tymbl. Fel y dywedodd Geraint Thomas yn Mountains According to G – “Rych chi'n torri'ch dannedd ar y Rhigos. Rydych chi'n gwneud eich enw ar y Bwlch. ac mae'ch enw yn ennill ei blwyf yn y Tymbl."
  • Yn y Gogledd, Bwlch-y-Groes, Eryri, yw un o'r anoddaf. Un enw arni yn Saesneg yw "Hellfire Cross", ac mae'n un o'r anoddaf trwy Gymru, ac yn cynnig golygfeydd hardd o'r Aran. Mae'n 12% o raddiant ar gyfartaledd dros 3km, ac mae rhannau ohoni mor serth ag 20%. Mae beicwyr yn dringo 368 metr, ac fe'i hystyrir yn un o'r anoddaf ym Mhrydain.
  • Argae Stwlan, Blaenau Ffestiniog, paradwys enwog arall i feicwyr yn y Gogledd. Mae'r ddringfa hon yn enwog am ei throeon cas dramatig a'r golygfeydd syfrdanol. Mae'n 2.9km o hyd, gyda 10% o lethr ar gyfartaledd, ond gall fod mor serth â 14% mewn rhai mannau. Byddwch yn dringo 277 metr a’r peth gorau amdani? Does dim ceir!!
  • Y Devil's Staircase, Abergwesyn, yn y Canolbarth - cymaint â 25% o lethr mewn mannau, un o'r dringfeydd mwyaf serth ym Mhrydain. Mae'n ddringfa fer, 1.1km, ond hynod serth, gyda graddiant o 12.5% ar gyfartaledd, i brofi'ch cryfder a'ch dygnwch. Mae'n aml yn rhan o rasys beicio heriol fel y Dragon Ride.
  • Yn ôl yn y De, mae'r Mynydd Du ym Mannau Brycheiniog yn cynnig golygfeydd hyfryd a chymysgedd o'r serth a'r mwy gwastad. Mae'r ddringfa tua 7km o hyd, gyda 5.3% o raddiant ar gyfartaledd, ond gyda rhai rhannau'n taro'r 21%. Roedd yn fan gorffen 'ar ben bryn' yn y Tour of Britain i fenywod yn 2022.

Teithiau

  • Dolen Pen-y-Pas a Beddgelert. Mae'r daith 75km hon ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cynnig golygfeydd trawiadol o'r mynyddoedd a dringo heriol.
  • Ironman Abertawe. Mae'r daith 91km hon trwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr yn adnabyddus am ei golygfeydd hardd o'r arfordir a'i ffyrdd tarmac da.
  • Dolen Crucywel, Y Gelli a Bwlch yr Efengyl. Mae'r llwybr 86km hwn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig cymysgedd o ddringfeydd heriol a golygfeydd hardd.
  • Dolen Ffordd Brailsford. Wedi'i enwi ar ôl Syr David Brailsford, mae'r daith hon yn y Gogledd tua 75km o hyd ac yn cynnig golygfeydd hyfryd o Eryri.
  • Lôn Las Cymru. Mae'r llwybr pell hwn yn rhedeg rhwng y gogledd a'r de. Perffaith os ydych yn chwilio am antur sy'n para sawl diwrnod.
  • Y Bwlch ar Rhigos. Taith 99km boblogaidd i fyny'r Bwlch a'r Rhigos gan ddringo rhyw 1,900 metr.
  • Dolen Mynydd Caerffili. Mae'r daith hon yn 38.2 km o hyd ac yn cynnwys dringo Mynydd Caerffili sawl gwaith, ac felly'n daith anodd ond gyda golygfeydd godidog

 

Bydd mwy o lwybrau i'ch ysbrydoli ar wefan Croeso Cymru.