Neidio i’r prif gynnwys
Ffeithiau pwysig
Dau berson wrth ymyl eu beiciau sy'n cael eu gosod ar y llawr, wrth giât i gae gydag arwydd yn nodi llwybr ceffyl ar y porth.

Llwybr Glyndŵr, Dylife, Canolbarth Cymru.

Ffeithiau pwysig

Rhag ofn bod unrhyw amheuaeth, rydym wedi tynnu sylw at rai o'r prif resymau pam fod Cymru'n gyrchfan feicio ragorol - ar gyfer beicwyr mynydd, ffyrdd a graean!

  • Mae gan Gymru rai o'r tirweddau mwyaf trawiadol ac amrywiol ym Mhrydain ar gyfer beicio – y dringfeydd serth a'u troeon 'cynffon cath' sy'n brawf i'r gorau, y llwybrau di-draffig i deuluoedd a theithiau pell i'r rheini sy'n chwilio am her go iawn i'w stamina.
  • Mae gennym gysylltiadau da, ynghyd â Rwydwaith Beicio Cenedlaethol dros 1,200 milltir o hyd, i roi digon o ddewis o deithiau diogel a phleserus. Mae gennym lawer o lwybrau di-draffig a thraffig isel, sy'n golygu bod ein ffyrdd a'n cefn gwlad yn ddiogel ac yn bleserus i feicwyr o bob lefel.
  • Mae llwybrau fel Ffordd Brailsford a Lôn Las Cymru yn cynnig golygfeydd syfrdanol a phrawf i ddycnwch beicwyr sy'n chwilio am daith heriol dros nifer o ddiwrnodau.
  • Mae'r digwyddiadau arbennig yng Nghymru yn denu beicwyr o bob cwr o'r byd ac yn dangos mor heriol, unigryw ac eithriadol yw'r arlwy sy'n cael ei chynnig iddyn nhw. Mae digwyddiadau blaenllaw fel y Dragon Ride nid yn unig yn gyfle i brofi dycnwch a sgiliau, maen nhw hefyd yn cynnig golygfeydd anghymarol.
  • Gyda thros 140 o glybiau beicio, mae gennym gymuned gref o feicwyr yng Nghymru, sy'n cynnig cefnogaeth, teithiau grŵp a digwyddiadau.
  • Mae gennym gymysgedd o dirweddau, i gyd o fewn tafliad carreg i'w gilydd, o'r mynyddoedd i lawr i'n traethau. Mae gennym dri pharc cenedlaethol: Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, bob un yn cynnig rhai o'r dringfeydd gorau ym Mhrydain.
  • Mae enwogion o Gymru wedi dod yn rhai o'r enwau mwyaf yn y byd beicio, gan gynnwys:
    • Geraint Thomas, enillydd Tour de France 2018, a medalau aur yng ngemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd
    • Nicole Cooke, enillydd medal aur yn ras y ffyrdd i fenywod yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008 a Phencampwriaethau'r Byd 2008
    • Elinor Barker, pencampwraig byd ac Ewrop sawl gwaith ac aelod o dîm medal aur Prydain yng Ngemau Olympaidd Rio 2016
    • Luke Rowe, aelod allweddol o'r Team Sky cynt (Ineos Grenadiers bellach)
    • Owain Doull, aelod o dîm y ras ymlid a enillodd medal aur yng Ngemau Olympaidd Rio 2016
    • Emily Chappell, beiciwr dygnwch eithafol ac enillydd sawl ras bell, gan gynnwys y Ras Drawsgyfandirol
    • Syr David Brailsford, a gafodd ei fagu yn y Gogledd. Cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Perfformiad British Cycling yn 2003, gyda beicwyr o Brydain yn cael llwyddiant digynsail o dan ei arweiniad. Wedi hynny, cafodd ei benodi'n Rheolwr Cyffredinol Team Sky / Ineos Grenadiers, enillydd sawl teitl yn y Tour de France.
  • Mae pethau'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol hefyd, gyda thalent newydd o Gymru'n goleuo byd y beics:
    • Josh Tarling, aelod o Ineos Grenadiers, cyn bencampwr Ewrop a phencampwr Prydain yn y treialon amser ac yntau ond yn 21, a'i frawd iau Finlay sydd newydd ymuno ag Israel Premier-Tech.
    • Zoe Backstedt, aelod o Canyon SRAM Zonda Crypto, pencampwr seiclo-cros y byd o dan 23.
    • Elynor Backstedt, chwaer hŷn Zoe, yn cystadlu dros UAE Team Emirates.
    • Stevie Williams o Aberystwyth, enillydd y Tour Down Under yn 2024 a buddugoliaeth fawr wedyn yn y Fleche Wallonne.
    • Emma Finucane, pencampwr y byd ac Ewrop yn y sbrint
  • Yn ogystal â beicio ar y ffyrdd, mae Cymru'n dynfa o fri rhyngwladol hefyd i feicwyr mynydd, gydag amrywiaeth o lwybrau a pharciau beicio at ddant pob lefel o allu. Ymhlith y gorau y mae Antur Stiniog a Choed y Brenin yn Eryri, Parc Beicio Cymru yng Nghymoedd y De a Pharc Beicio Dyfi yn y Canolbarth. Ewch i wefan Croeso Cymru i weld manylion yr atyniadau beicio mynydd sydd gan Gymru i'w cynnig.
     
  • Gyda chymaint i'w gynnig i feicwyr ffyrdd a beicwyr mynydd, nid yw'n syndod bod beicio ar y graean, disgyblaeth llai cyfarwydd hefyd yn tyfu yn ei phoblogrwydd yng Nghymru. Mae ein tir amrywiol, gyda chymysgedd o arwynebau gan gynnwys tarmac, graean, coedwig a baw i gyd o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd, yn gwneud Cymru'n gyrchfan ddelfrydol i'r beicwyr anturus sydd am gyfuno beicio ar y ffyrdd a beicio ar y mynydd. Mae gwefan Croeso Cymru yn rhestru sawl antur beicio ar y graean yng Nghymru.