Pencampwriaeth Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds
Bydd Cymru yn gartref i Bencampwriaeth Genedlaethol Lloyds am y tair blynedd nesaf, yn cychwyn yn 2025. Bydd y bencampwriaeth gyntaf, fydd yn cynnwys 3 diwrnod o rasio cyffrous, yn cael ei chynnal yng Ngheredigion, sy'n adnabyddus fel ardal enedigol y seiclwyr proffesiynol Josh Tarling a Stevie Williams.
Tour of Britain
Ras fawreddog i fenywod a dynion, gyda rhannau ohoni'n cael eu cynnal yng Nghymru. Gyda chymysgedd o gamau, rhai ar y gwastad a rhai dros y bryniau, mae'r Tour of Britain yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr beicio'r flwyddyn. Cofir pwynt gorffen râs 2021 ar gopa'r Gogarth yn Llandudno fel un o gamau gorau erioed y Tour.
The Dragon Ride
Yn cael ei chynnal bob blwyddyn yng Nghymoedd y De, dyma un o rasys beics mwyaf eiconig a heriol Prydain. Mae'r digwyddiad yn cynnwys pedwar llwybr, yn amrywio yn eu pellter o 100km i 300km, gan ei wneud yn addas ar gyfer beicwyr amrywiol eu gallu. Bydd beicwyr yn reidio trwy dirweddau hardd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys dringfeydd caled ar ffyrdd mynyddig y Bwlch a'r Rhigos.
Tour Sir Benfro
Gan ddechrau yn ninas dlws Tyddewi, dinas leiaf Prydain, bydd y raswyr yn seiclo trwy rai o dirweddau gorau Sir Benfro, gan gynnwys ar hyd ei harfordir creigiog a thros fryniau mawreddog Preseli.
Tour de Môn
Mae'r digwyddiad blynyddol poblogaidd ar Ynys Môn wedi'i rannu'n gategorïau yn ôl gallu – o ras y Teulu i'r Ras Fawr, sy'n 106 milltir o hyd. Bydd golygfeydd hyfryd o'r arfordir a chefn gwlad, a'r cyfle unigryw i seiclo ar hyd y 'Flying Mile' ar redfa awyrennau RAF y Fali.
CARTEN100
Digwyddiad blynyddol lle caiff beicwyr seiclo'r 100 milltir o Gaerdydd i Ddinbych-y-pysgod. Yr her yw gwneud y daith mewn diwrnod, hyrwyddo beicio a chodi arian ar gyfer elusennau amrywiol
Pencampwriaethau Beicio Cymru
Bydd y calendr yn llawn o wahanol ddigwyddiadau seiclo yng Nghymru yn ystod haf a hydref 2025, gan amrywio o rasys beicio mynydd, lôn, treialon amser a chyflymder. Mae Pencampwriaeth Rasys Ffordd Cymru yn dechrau yn Llandrindod ar 31 Mai ac 1 Mehefin, gyda Phencampwriaeth Beicio Mynydd Cymru (XCC/XCO) yng Nghwm Dâr ar 12–13 Gorffennaf yn dilyn. Mae Ras Ieuenctid De Cymru yn cychwyn ym mis Awst (23 – 25 Awst, lleoliad i’w gadarnhau), ac yna bydd y camau Cymru o’r Tour of Britain ar 6-7 Medi.
Bydd y Pencampwriaeth Rasio Lawr Allt MTB yn Llangollen ar 20-21 Medi. I orffen y tymor bydd Pencampwriaeth Treialon Amser yn Y Fenni ar 4 Hydref a Phencampwriaeth Speedway Cymru yn Nwyrain Casnewydd ar 11 Hydref. Mae tymor cyffrous ar y gweill i feicwyr a chefnogwyr seiclo.