Byncdai Gogledd Cymru

Treks Bunkhouse, Ffestiniog / Byncws Treks, Ffestiniog

Mae golygfa ysblennydd o Fyncws Treks ar draws mynyddoedd y Moelwyn ac mae’n lle delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am gyffro. Mae’r lleoliad ynghanol Parc Cenedlaethol Eryri, felly gallech ddechrau drwy fynd am dro gystal ag unrhyw un yn y byd dim ond wrth groesi’r rhiniog. Ond bydd beicwyr mynydd hefyd yn dwlu ar y llethrau brawychus o serth yn Antur Stiniog, taith 10 munud i ffwrdd mewn car, a bydd unrhyw un sy’n dwlu ar ias adrenalin wrth eu bodd gyda weirenni sip, rhwydi a thramwyfeydd gwallgo Zipworld Slate Caverns gerllaw. Mae Treks yn cysgu hyd at 16 o bobl, gan gynnwys ystafelloedd sy’n hygyrch i gadair olwyn. Dim ond gwaith 10 munud o gerdded sydd i’r dafarn agosaf hefyd.

Lolfa fawr i bawb gyda soffas a byrddau.
Seddi gardd dan eira â golygfeydd o fynydd dan eira.
Ystafell â thri gwely bync.

Byncws Treks, Ffestiniog

Arete Outdoor Centre / Canolfan Awyr Agored Arete

Os yw’n well gennych gael popeth wedi’i wneud ar eich rhan, mae Canolfan Awyr Agored Arete yn ticio pob blwch. Dyma ganolfan awyr agored gyflawn gydag ystafelloedd bync sy’n cysgu rhwng dau a deg o bobl. Cynigir gweithgareddau o bob math wedi’u trefnu ar eich cyfer: dringo, ceudyllu, arfordira, sgramblo a chanŵio, a darperir pob offer sydd ei angen. Am fod y lle mor fawr, byddwch chi’n sicr o gwrdd â’ phobl eraill, ac os nad ydych chi’n teimlo fel coginio, maen nhw’n gallu darparu bwyd hefyd. Mae tref odidog Caernarfon, gyda’i chastell byd-enwog, ddeng munud i un cyfeiriad, a’r Wyddfa fawreddog ryw ddeng munud i’r cyfeiriad arall.

aerial view of castle.

Caernarfon o’r awyr

Fferm Platts Farm

Lleolir gwersyll a byncws busnes teuluol Platts Farm yn ddelfrydol ar gyfer darganfod arfordir hyfryd y gogledd a Ffordd Gogledd Cymru. Mae o fewn cyrraedd hawdd i draethau euraid, tref gaerog Conwy ac Ynys Môn a’i holl hanes. Pum munud o gerdded sydd angen i gyrraedd tafarndai a siopau lleol Llanfairfechan. Hen adeilad fferm wedi’i adnewyddu yw’r byncws, sy’n cynnig dwy ystafell glyd i bum person yr un yn y llofft, ynghyd â chegin a lle i fwyta islaw. Eisiau teimlo’r gwynt yn eich wyneb? Rhowch gynnig ar reid mewn cwch RIB cyflym ar hyd Afon Menai o Ganolfan Awyr Agored Plas Menai!

Byncdai Canolbarth Cymru  

Tŷ Cwch

Yn swatio mewn cildraeth dirgel ar Lwybr Arfordir Cymru yng Ngheredigion, mae Tŷ Cwch (a enillodd wobr Arloesi Twristiaeth Canolbarth Cymru yn ddiweddar a Chlod Uchel yng Ngwobr Adeilad y Flwyddyn) yn fyncws ffynci sy’n cynnwys tri chibyn cysgu cŵl. Mae gan bob un ddrysau sy’n plygu ar agor yn llwyr i roi golygfa ddi-dor o’r traeth euraid hyfryd. Dyma glampio benben â’r byncws - ac mae’n wych! Ynghyd â chegin gyflawn a lle cyfforddus i eistedd, mae WiFi, wrth gwrs, ac oergell gwrw! Ond y traeth sy’n denu’r rhan fwyaf o ymwelwyr - gellir caiacio, nofio a syrffio yma. Ac os ydych chi’n ffodus, fe gewch gip ar forloi hefyd, efallai!

Tu mewn i ystafell wely’r byncws â ffenestr gron.
byncws â’r drysau ar agor yn edrych ar y gegin.
lle i eistedd tu allan gyda byncws bocs a’r drysau ar agor yn y cefndir.

Byncws Tŷ Cwch

Byncws Penstar

Mewn lleoliad perffaith ar gyfer dod i adnabod bryniau hardd a rhaeadrau cudd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, arferai byncws Penstar fod yn hen ysgubor hanesyddol sydd wedi’i weddnewid. Mae’r hen ddistiau pren yn dal i’w gweld, ond mae’r lle bellach yn glyd a chyfforddus a gall hyd at 20 o bobl gysgu yma, mewn ystafelloedd sy’n cysgu dau, chwech a deuddeg o bobl. Mae mynediad anabl mewn rhai ystafelloedd hefyd. Rydych ynghanol perffeithrwydd. byd natur fan hyn, ar fferm weithredol, ac mae llwybr cerdded hir Taith Taf yn pasio heibio tu fas.

dwy fenyw’n cerdded ar fryn gyda golygfeydd gwledig.

Geo Parc Bannau Brycheiniog

Y Byncws

Mewn hen gapel a adnewyddwyd, mae’r Byncws yng Nghanolfan Canŵio Dyffryn Gwy yn codi cysgu mewn dorm i lefel arall hollol: gallwch ddefnyddio llithren i fynd o’r ystafell wely i’r llawr gwaelod! Ffwrn llosgi pren, tenis bwrdd, soffas ffynci ac ystafelloedd ymolchi crand – mae’n wirioneddol foethus. Does dim rhaid coginio, hyd yn oed, am fod y River Café ar y safle reit drws nesaf. Fel y byddech chi’n dychmygu, dyma le rhagorol i ganŵio. Llif araf sydd ar Afon Gwy ar hyd y rhan hon, ond mae’n cynnig golygfeydd ysblennydd o’r Mynyddoedd Duon a’r Twmpa. Mae’n bosib iawn y gwelwch chi las y dorlan, crëyr a dwrgi wrth i chi rwyfo!

Dyn yn defnyddio’r llithren yn Y Byncws.
Tu mewn y Byncws yn dangos soffas a tân llosgi coed.

Y Byncws

Byncdai Gorllewin Cymru

Byncws Rhosili

Arhoswch fan hyn a byddwch chi’n gwneud cyfraniad at y gymuned leol. Rhedir Byncws Rhosili gan bobl leol er budd eu pentref. Weithiau, cynhelir digwyddiadau cymdeithasol yn y neuadd drws nesaf – felly dyna gyfle i ddod i’w hadnabod hefyd! Dim ond gwaith pum munud o gerdded sydd i gyrraedd un o draethau gorau’r Deyrnas Unedig hefyd. Mae Rhosili’n cyrraedd brig y rhestrau’n aml iawn. Dyma ehangder mawr o dywod perffaith, sydd wedi ymddangos mewn sawl ffilm a hysbysebion teledu (gan gynnwys ein un ni!). Mae’r tonnau’n gyson a’r tywod yn goleddfu’n raddol felly mae’n lle delfrydol ar gyfer dysgu syrffio.

Menyw a babi’n cerdded i lawr y llwybr i’r traeth.

Traeth Rhosili

Byncws Dinas, Bluestone National Park Resort

Chwilio am ffyrdd o ddiddanu’r plant, a’u cadw’n brysur? Efallai mai Parc Sba Bluestone yw’r ateb. Mae’n barc antur cyflawn: yn y Serendome tryloyw enfawr, ceir weirenni sip, llwybrau awyr a gardd y dychymyg. Ym mharc dŵr dan do’r Blue Lagoon, mae llithrennau dŵr a pheiriant gwneud tonnau. Er mai cabanau moethus i deuluoedd yw llawer o’r ddarpariaeth llety, mae Byncws Dinas yn cysgu hyd at 14 o bobl. Felly gallwch fwynhau holl foethusrwydd cyrchfan grand am bris rhesymol iawn. O, a rhaid i ni sôn am y sba…!

Byncdai De Cymru

Coed Owen

Dyma chi ar y fferm fan hyn. Mae’r teulu Rees yn cadw rhyw dair mil o ddefaid ar y bryniau glas, deniadol fan hyn. Ond maen nhw hefyd wedi troi dau o’u hen ysguboriau cerrig yn fyncdai. Mae Coed Owen yn cynnig lle u 26 gysgu tra bo’r Ysgubor Bach, llai o faint, fel yr awgryma’r enw, yn cysgu 10. Mae gan y ddau le geginau’n llawn offer ac ystafelloedd dorm cyfforddus. Ond y prif atyniad yw’r lleoliad. Gallwch gamu dros y rhiniog i ganol ysblander naturiol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Y llwybr cerdded gorau oddi yma? Tair awr o drampio i fyny Pen y Fan, mynydd uchaf de Cymru.

Beicwyr y tu allan i adeilad gwyn.
tu allan i fyncws wedi’i beintio’n wyn, gyda meinciau.

Coed Owen

Tyle Morgrug

Mae gan y lle hwn ei stori. Hen fferm oedd wedi’i gadael i adfeilio oedd Tyle Morgrug. Mae tîm o wirfoddolwyr gweithgar iawn o elusen ieuenctid wedi gweithio’n galed i adnewyddu’r lle dros sawl degawd. Y canlyniad yw man delfrydol i ddechrau anturiaethau awyr agored ar gyfer pobl o bob oedran. Bu’n llafur cariad go iawn, ond bellach mae yma fwthyn clyd â stôf llosgi coed gyda byncws drws nesaf sy’n cysgu 17 o bobl. Fan hyn hefyd mae Bannau Brycheiniog y tu fas i’r ffenest. Felly gwisgwch eich esgidiau cerdded ac i ffwrdd â chi!

tu allan adeliad carreg gyda grisiau.
tu allan i adeliad gyda bocs storio gwyrdd a golygfeydd gwledig.
lolfa gyda soffas coch a stôf llosgi coed.

Tyle Morgrug

Straeon cysylltiedig