Hon yw'r eglwys hynaf ym Mhrydain, sy'n dal yn sefyll, a sefydlwyd gan forwyr o Norwy. Erbyn heddiw mae canolfan gelfyddydau a chaffi yma, a does unlle gwell na'r teras pren i chi fwrw golwg ar draws y Bae wrth fwynhau danteithion Norwyaidd.

Pam fod yno eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd?

Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hwyliai degau o filoedd o forwyr o Norwy i'r ddinas ar longau masnach a oedd yn cludo pren cryf, syth o Sgandinafia i Gymru i wneud pyst ar gyfer y pyllau glo. Yna allforiwyd glo Cymru ar y llongau hyn i bedwar ban byd. Adeiladwyd yr eglwys hon ym 1867, a chodwyd sawl un arall i greu lloches grefyddol a chymdeithasol i'r morwyr hynny o Norwy na fyddant yn dychwelyd adref am wythnosau lawer.

View of the Norwegian Church exterior
Yr Eglwys Norwyaidd

Aeth rhai ohonynt ddim adref

Un o aelodau enwocaf cynulleidfa'r eglwys oedd yr awdur Roald Dahl, mab i rieni o Norwy a aned mewn tŷ ar Fairwater Road yn Llandaf. Brodor o Oslo oedd Harald, ei dad, ac yn gyd-sefydlydd cwmni delio llongau yng Nghaerdydd oddeutu 1880. Magwyd Roald yng Nghaerdydd ac yma yr aeth i'r ysgol. Roedd ei deulu'n addoli yn yr Eglwys Norwyaidd wreiddiol pan oedd hi'n sefyll yn Nociau Caerdydd. Bedyddiwyd Roald a'i chwiorydd i gyd yma.

Close up image of the roof and steeple of the Norwegian Church
To yr Eglwys Norwyaidd

Pan ddechreuodd yr hen eglwys fynd â'i phen iddi yn y 1970au, roedd Roald yn aelod blaenllaw o'r ymgyrch i'w hachub. Bu cryn godi arian yn y ddinas ac yn Norwy, a bu modd tynnu'r eglwys i lawr a'i thrwsio, a'i symud i'w safle newydd ym 1992. Yn anffodus bu farw Roald rai blynyddoedd cyn i'r gwaith ddod i ben.

Ailwampiwyd yr eglwys yn 2011 cyn ailagor ar 17 Mai – Diwrnod Dathlu Cyfansoddiad Norwy. Yn yr oriel yn llofft yr eglwys mae lle i artistiaid lleol arddangos eu ffotograffiaeth a'u gwaith celf. Wrth gwrs, Oriel Dahl yw enw hon. Mae'n werth gweld y llestr bedydd arian a oedd yn eiddo i'r teulu.