Mae pererindod drwy’r rhan hon o’n gwlad yn datgelu ffydd o safbwynt eang Cymru. Wrth symud o Arfordir Treftadaeth Morgannwg i’n prifddinas, yna drwy Ddyffryn Gwy a Dyffryn Wysg i galon y Cymoedd, byddwn yn canfod creiriau a hanesion eithriadol ar y ffordd. Mae cymaint yn Ne Cymru i’n hysbrydoli i fwrw ymlaen â’n taith.

Eglwys Sant Illtud a Chapel Galilea, Llanilltud Fawr, Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Gadewch i ni ddechrau yn y dechrau – neu yn nyddiau cynnar iawn Cristnogaeth Geltaidd, o leiaf. Sylfaenodd abad o’r 6ed ganrif, Sant Illtud, ysgol fynachaidd yma yn Llanilltud Fawr, a’i ffydd a’i frwdfrydedd dros addysg yn ei sbarduno. Gyda mil o ddisgyblion ar ei chofrestr, daeth yn un o ganolfannau dysgu cynharaf Prydain. Yn ôl y sôn, bu Dewi Sant a Sant Padrig yn astudio yma. Ysgol i saint yn wir.

Mae’r Eglwys Sant Illtud gyfredol yn dyddio o’r 13eg ganrif, ac iddi dri adeilad: Capeli’r Gorllewin a’r Dwyrain, a Chapel Galilea. Defnyddir y cyntaf ar gyfer addoli o hyd, ac mae mewn man gogoneddus. Chwiliwch am yr arddelwau offeiriad canoloesol a hwyrgloch o dan y to derw. Mae Capel y Dwyrain yn cynnwys murluniau o saint, y Forwyn Fair a Mair Magdalen, ac mae Capel Galilea’n cynnwys un o’r casgliadau pwysicaf o gerrig Cristnogol Celtaidd yn y DU. Wedi’i adfer yn sensitif ar ôl 400 mlynedd fel adfail, mae’r adeilad yn cynnwys piler o’r 9fed ganrif a chroes Olwyn Geltaidd berffaith.

Eglwys weithredol yw Sant Illtud hefyd. Ceir gwasanaethau yma bob dydd ar wahân i ddydd Sadwrn, a chynhelir sesiynau eglwys plant bach a chanu clychau yn rheolaidd. Mae croeso cynnes i ymwelwyr.

Eglwys Teilo Sant a Chapel Undodiaid Pen-rhiw yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

Yn y rhan fwyaf o bentrefi De Cymru, ceir eglwys a chapel, ac felly hefyd yn Sain Ffagan. Mae ein hannwyl amgueddfa werin awyr agored yn olrhain bywyd Cymru trwy adeiladau sydd wedi’u symud a’u hailadeiladu: symudwyd Eglwys Teilo Sant o Bontarddulais, ger Abertawe, i’r safle yn 2003. Fe’i hailgrewyd yn wych yng nghrandrwydd y 1520au; mae murluniau, paentiadau a cherfiadau llachar eu haddurn yn dangos i ni mor lliwgar oedd Cristnogaeth cyn i Harri VIII ddiddymu’r mynachlogydd, a chyn i’r Diwygiad ymsefydlu.

Mae Capel Pen-rhiw yn adeilad symlach, ond yr un mor hardd. Capel Undodiaid gwyngalch ydyw a symudwyd o Drefach Felindre yn Sir Gâr ym 1953, ac mae’r corau ar y llawr gwaelod i gyd ychydig yn wahanol, gan eu bod wedi’u hadeiladu gan deuluoedd a gymerodd gyfrifoldeb amdanynt wedyn. Darganfuwyd bod y capel hwn yn ysgol hefyd ar un adeg: pan gafodd ei ddatgymalu, canfuwyd poteli inc a phennau cwilsen o dan y llawr. Fe’i defnyddir o hyd i ddathlu’r Nadolig, y Pasg a’r Cynhaeaf hefyd, a’i ddiben gwreiddiol yn parhau mewn safle mwy newydd.

Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd

Yn Llandaf mae Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd odidog Caerdydd o’r 12fed ganrif, dair milltir i’r gogledd-orllewin o ganol y ddinas. Mae hi hefyd wedi goroesi cryn orffennol. Gwrthryfel Owain Glyndŵr oedd ei hergyd gyntaf, gan ddifrodi ei hadeilad gwreiddiol yn wael. Yna daeth Storm Fawr 1703, a dynnodd y to ymaith. Ddwy ganrif o adeilad newydd yn ddiweddarach, a bu bron i fom yr Almaenwyr ei dinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn i fellten ei tharo’n union yn 2007. Mae rhywbeth dwyfol wedi’i chadw i fynd, heb os.

Diolch i gymorth ei chynulleidfa a’i harianwyr, mae ymweliad yma’n beth hyfryd o hyd. Mae safle’r eglwys gadeiriol ar lan ger Afon Taf yn llonyddwch pur. Ceir gwaith celf gogoneddus yma hefyd. Eistedd triptych o baentiadau cyn-Raffaelaidd gan Dante Gabriel Rossetti dros yr allor uchel. Daw cerflun modern o’r Iesu gan yr Iddew o artist, Jacob Epstein, â harddwch glân i gorff yr eglwys. Cofiwch weld y paneli goreurog yn cynnwys blodau gwyllt yng Nghapel Mair hefyd. Maent oll wedi’u cysegru i Mair, gan gynnwys Gwniadur Mair (neu fysedd y cŵn) ac Ysgol Fair (neu benlas yr ŷd).

Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd

Yn yr Eglwys Norwyaidd yr addolai Roald Dahl trwy gydol ei blentyndod yng Nghaerdydd, ac fe helpodd i achub yr eglwys pan aeth â’i phen iddi. Adeiladwyd yr eglwys ym 1896, pan oedd ein prifddinas ymhlith porthladdoedd mwyaf y byd. Byddai llawer o forwyr o Norwy’n cyrraedd yma, gan ddod â phren ar gyfer pyst pwll i lofaoedd y Cymoedd. Daeth tad Roald, Harald, yma hefyd, gan sefydlu busnes brocer llongau yn y ddinas yn y 1880au. Cafodd Roald bach ei fedyddio yn yr eglwys hon, ac ef fyddai Llywydd yr ymgyrch i’w hachub yn y 1970au, ac yntau erbyn hynny’n ffigur llenyddol wedi ennill ei blwyf ym mhedwar ban. 

Mae golwg anarferol ar yr eglwys oherwydd yr haearn rhychiog ar ei thu allan. Gosodwyd hwn fel y gellid ei symud pe byddai gofyn – rhywbeth ddigwyddodd ym 1992. Aethpwyd â hi o’i safle rhwng Dociau’r Dwyrain a’r Gorllewin i le newydd ym Mae Caerdydd, cyn ei hailagor yn lleoliad celfyddydau a digwyddiadau; mae’n cynnig llonyddwch hyfryd ym mhrysurdeb Bae Caerdydd heddiw. Yn y caffi gwerthir coffi a chacennau a chinio Cymreig hyfryd. Peidiwch â gadael heb lond powlen o gawl neu lond plât o gaws pob.

View of the Norwegian Church exterior
Yr Eglwys Norwyaidd

Canolfan Diwylliant Islamaidd Shah Jalal, Cathays, Caerdydd

Mae Mosg rhestredig Gradd II yn Cathays sy’n adrodd hanes diddorol iawn am grefydd yng Nghaerdydd. Ar un adeg, hwn oedd cartref Capel Methodistaidd Heol y Crwys, wedi’i ailadeiladu o strwythur cynharach gan y pensaer lleol John Henry Philips ym 1899-1900. Mae’n enghraifft grand, braf o Art Nouveau, sef mudiad troad y ganrif a ysbrydolwyd gan ffurfiau naturiol, planhigion a blodau. Mae’r tyrau ochrol, y fynedfa dalcennog a’r cerrig gwyrdd a melyn llachar yn benodol o hyfryd, gan gynnig drama i stryd syml.

Mae’r mosg yn weithgar yn y gymuned, ar agor am weddïau rheolaidd, ac am deithiau ar Ddiwrnod Ymweld â Mosg Cyngor Moslemaidd Cymru.

Cornerstone, Caerdydd

Pan agorwyd yr eglwys Neo-gothig gyntaf a adeiladwyd yng Nghaerdydd, Capel Ebeneser, ym 1855 rhyfeddodd yr addolwyr. Bu’r pensaer, Robert George Thomas, yn ‘ymgorffori carreg o bob cenedl’ wrth ei hadeiladu.

Fodd bynnag, roedd yn ddrud iawn cynnal y fath fawredd, felly yn 2010 gwerthodd ei gynulleidfa weithgar yr adeilad. O dan yr enw newydd Cornerstone, fe’i hail-agorwyd yn 2016, ac mae bellach yn ganolfan i’r gymuned, lle cynhelir cyngherddau, arddangosfeydd a digwyddiadau fel Gŵyl Farddoniaeth Seren Cornerstone, ac mae ystafelloedd ar gael ar gyfer priodasau a phartïon.

Mae caffi Cornerstone, The Pantry, ar agor bob dydd hefyd. Mae’r te prynhawn yn arbennig o fywiog – a The’r Prynhawn y Bonheddwr yn cynnwys potel o gwrw crefft Punk IPA. Mae cynulleidfa wreiddiol Capel Ebeneser hefyd yn weithgar o hyd yn y ddinas, a chanddi fwy na 200 o aelodau Cymraeg.

Sant Jerôm, Llangwm Uchaf, a'r Santes Fair, Llanfair Cilgedin, Dyffryn Wysg

Mae Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg yn llawn o eglwysi bach prydferth. Yn eu plith mae’r rheini sy’n segur bellach o ran addoli, a rhai ohonynt wedi’u cynnal gan Gyfeillion yr Eglwysi Digyfaill. Mae Eglwys Sant Jerôm ym mhentref bychan Llangwm Uchaf yn enghraifft benodol o drawiadol. Eglwys restredig Gradd I o’r 12fed ganrif yn wreiddiol sydd yno, a chanddi sgrin ysblennydd o’r 15fed ganrif, wedi’i pheintio’n wyrdd, coch a glas, a theils hardd cyn-Raffaelaidd gwyrddlas a brown. Prin y gwelir y fath liwiau wedi’u cadw mor llachar. Hefyd, cadwch lygad am ben cerfiedig Dyn Gwyrdd pan fyddwch yno, a oedd yn lamp garreg ganoloesol gynnar. Cedwir yr eglwys ar agor i ymwelwyr. 

Dim ond deng milltir i ffwrdd, mae Eglwys y Santes Fair yn Llanfair Cilgedin. Mae yma addurniadau mewnol sydd wir yn unigryw, a’r eglwys wedi’i haddurno gan y Sais o artist Celfyddydau a Chrefft Heywood Sumner gyda thechneg Rufeinig o’r enw sgraffito (lle torrir haenau tenau o blastr lliw yn ôl i ddatgelu’r lliwiau eraill oddi tanynt). Comisiynwyd Sumner tua diwedd y 19eg ganrif, a bu’n cynnwys nodweddion lleol yn ei ddyluniadau, fel Afon Wysg, mynydd Pen-y-fâl a thŵr eglwys Llanfihangel-y-gofion gerllaw. Un peth cyn i chi fynd: cysylltwch â Chyfeillion yr Eglwysi Digyfaill i gael rhif ffôn y sawl sydd â’r allwedd cyn teithio. 

Abaty Tyndyrn, Dyffryn Gwy

Yn nhirwedd ddolennog ddramatig Dyffryn Gwy isaf, Abaty Tyndyrn yw un o’r esiamplau gorau o bensaernïaeth gothig ym Mhrydain. Mae’n enwog am ddylanwadu ar lenorion, gan gynnwys William Wordsworth sydd, yn ei gerdd Lines Composed a Few Miles above Tintern Abbey, On Revisiting the Banks of the Wye during a Tour, yn dathlu effaith tirweddau ar yr enaid. Mae mawredd yr Abaty wedi gwefreiddio llawer o artistiaid hefyd, gan gynnwys J.M.W. Turner, a’i baentiadau o’r adfeilion yn ymddangos yn oriel Tate yn Llundain ac Amgueddfa Prydain. O ystyried ei ddylanwad, nid oes rhyfedd fod gan yr Abaty Artistiaid Preswyl heddiw. Mae modd cael gwybod am y bobl ddiweddaraf sy’n gweithio yno ar wefan Cadw.

Mae’r Abaty ar agor drwy gydol y flwyddyn, heblaw rhwng 24 a 26 Rhagfyr ac ar Ddydd Calan. Cynhelir hefyd ddigwyddiadau, datganiadau a gweithdai’n rheolaidd, ac hefyd sesiynau arbennig i blant yn ystod gwyliau’r ysgol. 

Night shot of Tintern Abbey
Abaty Tyndyrn yn Nyffryn Gwy

Synagog Merthyr Tudful

Uwchben Stryd yr Eglwys ym Merthyr Tudful saif synagog fawr, i’n hatgoffa o hanes Iddewig helaeth y dref hon. Tua diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed, roedd y gymuned Iddewig fwyaf yng Nghymru’n byw yma: helpodd mwy na 400 o bobl y pwerdy diwydiannol hwn ffynnu. Roedd ffatri fotymau, a busnes siocled ymhlith y busnesau Iddewig, ac roedd Dawns Iddewig flynyddol ymhlith uchafbwyntiau calendr cymdeithasol y dref, yn denu credinwyr ac anghredinwyr fel ei gilydd.

Adeiladwyd y synagog yn y 1870au, yn cynnwys tyredau dwbl gothig a ffenestr gwydr lliw gyda seren chwe phwynt. Mae draig Cymru hefyd yn addurno talcen yr adeilad, gan ddangos mor bwysig oedd diwylliant lleol i’r gymuned brysur hon. Caewyd y synagog yn y 1980au cyn cael ei throi’n ganolfan Gristnogol, ac yn gampfa wedyn. Ond mae ymgyrch genedlaethol yn bwriadu ei throi’n Amgueddfa Iddewiaeth Cymru, wedi’i chefnogi gan y cyngor dinas, ASau lleol, a ffigurau diwylliannol amlwg (ac yn eu plith yr hanesydd teledu Simon Schama, ac enillydd Gwobr Booker, yr awdur Howard Jacobson).

Sant Cynwyd, Llangynwyd, Maesteg

Mae’r pentref pen bryn hyfryd hwn yn gartref i Eglwys Sant Cynwyd, sydd hefyd ag un o’r mynwentydd preifat mwyaf yn Ewrop. Yma hefyd mae safle’r chwedl Gymraeg enwog, Morwyn Cefn Ydfa, am ferch ifanc o’r enw Ann Thomas, a’i gwarcheidwad cefnog yn penderfynu y bydd yn priodi ei fab. Ond mae Ann druan yn caru rhywun arall, sef töwr tlawd lleol o’r enw Wil Hopcyn, a hithau wedi ei gwahardd rhag ei weld.

Cedwir Ann yn gaeth yn ei thŷ ei hun. Mae’n ysgrifennu llythyrau at Wil cyn i’r rhain gael eu darganfod, a’u hoffer ysgrifennu’n cael eu cymryd ymaith. Yn ôl y sôn, parhaodd i ysgrifennu ato ar ddail gyda’i gwaed ei hun; yn nes ymlaen, aeth hi’n ddifrifol sâl. A hithau ond yn 23 ar ei gwely angau, mae’n gofyn am ei weld, ac yn marw yn ei freichiau. Claddwyd Ann mewn bedd o dan gôr yr eglwys, a gorwedda Wil o dan goeden yw hynafol gerllaw, a’r ddau wedi’u gwahanu mewn angau fel mewn einioes.

Amgueddfa Pontypridd, Capel y Tabernacl

Ar lan orllewinol Afon Taf ger Pont Pontypridd, mae tri llawr o gyn-gapel golygus o Oes Fictoria. Wedi’i droi’n amgueddfa gymunedol ym 1986, mae gan Amgueddfa Pontypridd ei horgan bib a’i phulpud gwreiddiol o hyd, a thu mewn hardd ei addurn. Y tu mewn, mae’n adrodd hanes ei orffennol crefyddol yn hyfryd, ynghyd â hanes diwydiannol, cymdeithasol a diwylliannol y gymuned y bu’n ei gwasanaethu.

Bydd unrhyw un â diddordeb mewn hanes teulu yn falch o fod yma hefyd, am fod y gwirfoddolwyr cyfeillgar bob amser yn barod eu cymwynas. Mae ar agor ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10yb a 4.30yh, a chynhelir ffeiriau crefft, sgyrsiau a digwyddiadau plant hefyd yn yr amgueddfa drwy gydol y flwyddyn.

Image of a pipe organ at Pontypridd Museum
Image of Pontypridd Museum from above
Amgueddfa Pontypridd, Pontypridd

Gwyryf Pen-rhys, y Rhondda

Ar lechwedd uwchben Cymoedd Rhondda, saif cerflun hynod o Wyryf a’i phlentyn. Gosodwyd hwn yn lle cerflun canoloesol a ymddangosodd mewn coeden dderw ger ffynnon sanctaidd gerllaw, gan wneud pentref bychan Pen-rhys yn safle pererindod. Trefnodd Thomas Cromwell i symud a llosgi’r cerflun hwn ym 1538, ond byddai Catholigion yn dal i deithio i’r man lle arferai fod.

Ym 1953, datgelwyd cerflun newydd ar y safle, wedi’i wneud o garreg Portland, gan ddefnyddio disgrifiadau a adawyd mewn barddoniaeth Gymraeg ganoloesol. Mae pererindodau’n parhau yma hyd heddiw. Mae gweithgor lleol hefyd wrthi’n gosod cyfeirbwyntiau ar y llwybr, yr holl ffordd o Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yn yr ysbryd hwnnw o ymrwymiad, cymuned a chysylltiad, mae calon crefydd Cymru’n curo.