Mae'n her eu dethol, ond dyma rai o nifer o uchafbwyntiau arfordir godidog sy'n gadwyn o gilfachau cudd, traethau euraid a phentrefi lliwgar.
Aberaeron
Tyfodd y mwyafrif o borthladdoedd Cymru'n raddol o gwmpas aberoedd a chilfachau naturiol yr arfordir, ond adeiladwyd Aberaeron o ddim byd ar ddechrau’r 1800au. O gwmpas yr harbwr ceir adeiladau hardd o gyfnod y Rhaglywiaeth (Regency) bob un mewn lliw llachar. Ymysg y mwyaf trawiadol mae adeilad indigo Gwesty'r Harbwrfeistr, un o nifer o dafarndai gastro gydag ystafelloedd cyfoes Cymreig ar hyd a lled Cymru. Mae’n dref brysur iawn, yn enwedig yn ystod Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion ym mis Gorffennaf, a Gŵyl y Cobiau Cymreig ym mis Awst.
Abersoch
Mewn cilfach dan drwyn eithaf Pen Llŷn, mae Abersoch wedi datblygu i fod yn gyrchfan hwylio sy'n llawn steil a chymeriad. Mae’r cytiau ar y traeth yn gwerthu am bris uwch na’r tŷ arferol yng ngweddill Gwynedd - ond mae digon o bethau i'w gwneud am ddim yn lleol hefyd. Mae’r dref ar ei phrysuraf adeg yr ŵyl hwylio ym mis Awst, a gynhelir am wythnos bob haf ers 1881. Bydd ymwelwyr a phobl leol yn ymuno ar gyfer hwylio, rasio rafftiau, dal crancod a chystadlaethau cestyll tywod. Gallwch hefyd logi pob math o gwch, gan gynnwys pedalos a rhwyf-fyrddau, o’r ysgol hwylio.

Aberystwyth
Mae Aber yn gyrchfan pier-a-phrom go iawn o’r Oes Sioraidd / Fictoraidd - ond mae ei phrifysgol a'i chanolfan gelfyddydol ffyniannus yn golygu bod hon hefyd yn dref ffres ac ifanc bob amser. Mae llawer iawn i’w wneud a’i weld yma, gan gynnwys Rheilffordd y Graig i ben Consti, neu Graig Glais, ble gallwch syllu ar y camera obscura. Mae trysorau amhrisiadwy i'w canfod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Ceredigion. Ond wrth gerdded i ben gogleddol y prom cofiwch gicio’r bar, yn ôl y traddodiad lleol.
Abermaw / Y Bermo
Porthladd i adeiladu llongau ac allforio llechi oedd y Bermo tan i ymwelwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddechrau dotio ar harddwch môr-a-mynydd y lle. Heddiw, dyma gyrchfan gwyliau mwyaf poblogaidd de Eryri, gyda thraethau eang a golygfeydd ysblennydd i fyny Aber Mawddach. Fe gewch chi'r holl atyniadau traddodiadol glan y môr yma, gan gynnwys difyrion fel peiriant hwpo ceiniog, ac asynnod i fynd am dro ar eu cefnau ar y tywod.

Aberteifi
Mae Aberteifi yn dref fyw sy'n esblygu'n gyflym. Hen borthladd pysgota ydyw, â lle pwysig yn nhreftadaeth Cymru: yn 1176, yng Nghastell Aberteifi y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf, ac mae’r dref yn dal i feddu ar naws Gymreig a Chymraeg. Mae yma elfen fodern, flaengar iawn. Cynhelir eisteddfod flynyddol fawr o hyd, ynghyd â gŵyl syniadau DO Lectures - digwyddiad bychan a ddarlledir arlein dros y byd, ac a redir gan y bobl sy’n gwneud dillad denim byd-enwog Hiut. Mae teulu Fforest hefyd yn trefnu bob math o wyliau a digwyddiadau cofiadwy, ac yn gwneud pizza rhagorol mewn ffwrn tân coed ar y cei yn Pizzatipi.


Castell Cricieth
Mae Castell Cricieth yn sefyll ar safle perffaith i adeiladu castell: ar benrhyn creigiog rhwng dau draeth. Llywelyn Fawr oedd yn gyfrifol am godi’r castell gwreiddiol, ac ychwanegwyd at yr adeilad gan Edward I, cyn i’r lle gael ei losgi’n ulw gan Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel 1404. Gerllaw, yn Llanystumdwy, mae amgueddfa sy’n dathlu bywyd mab enwocaf y pentref, sef y gwladweinydd a’r unig brif weinidog o Gymro, Amgueddfa David Lloyd George. Dyma hefyd leoliad cangen Gogledd Cymru o Academi Oroesi Bear Grylls... neu chwiliwch am siop hufen iâ Cadwaladers neu fwyty Dylan's - os yw hynny'n fwy at eich dant.
Castell Harlech
Ciliodd y môr ers adeiladu Castell Harlech tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, sy’n peri fod y cadarnle’n edrych ychydig fel llong ar dir sych ar ben y graig heddiw - ond dyma un o’r cestyll canoloesol gorau yn unman. Mae codi pont newydd wedi’i gwneud hi’n llawer haws cael mynediad i’r lle, gan gysylltu’r castell â chanolfan ymwelwyr, sy’n cynnwys pum fflat hunanarlwyo moethus y gellir eu llogi. Mae cân enwog Gwŷr Harlech yn coffáu gwarchae enwog ar y lle yn y 1460au, pan lwyddodd y castell i ddal heb ildio am saith mlynedd, y gwarchae hiraf yn hanes Prydain.

Plas Glyn-y-Weddw
Adeiladwyd y plas Gothig Oes Fictoria hwn yn ystod y 1850au yn gartref i’r wraig weddw, y Fonesig Elizabeth Love Jones Parry, a’i chasgliad o waith celf. Cafodd ei achub yn ystod y 1970/80au, a’i adfer yn oriel heb ei hail, sy’n arddangos llawer o waith celf gyfoes o safon. Ym Mhlas Glyn y Weddw mae yna gaffi, theatr awyr agored, llwybrau drwy’r goedwig - a gallwch aros mewn cryn foethusrwydd yn adain gefn y plas.
Portmeirion
Mae Portmeirion yn hudol - dyma leoliad addas o swreal ar gyfer y gyfres deledu unigryw o’r 1960au, The Prisoner. Mae pentref Eidalaidd unigryw Syr Clough Williams-Ellis, sy'n llechu mewn cilfach ar benrhyn uwchlaw aber Afon Dwyryd, yn eithriadol o boblogaidd o hyd. Ond os arhoswch yma dros nos, gorau oll, oherwydd fe gewch chi’r lle i chi eich hun bron yn y bore bach.

Tyddewi
Ym mhen gorllewinol eithaf Cymru, Tyddewi yw’r ddinas leiaf ym Mhrydain (poblogaeth: 1,600). Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol ein nawddsant ar safle mynachlog a sefydlwyd ganddo yn y chweched ganrif, ac mae’n sefyll mewn pant cysgodol wrth ochr adfeilion Llys yr Esgob. Amgylchynir y ddinas gan arfordir o’r radd flaenaf, ac ymysg yr uchafbwyntiau mae Porth Mawr, sy'n fendigedig ar gyfer syrffio a theuluoedd, Porthclais - harbwr bach Rhufeinig - ac Ynys Dewi. Gallwch fwynhau teithiau cwch i’r hafan byd natur hwn ac o gwmpas yr ynys ei hun.
Gwylio bywyd gwyllt
Mae’r darn hwn o arfordir yn arbennig o gyfoethog o ran bywyd gwyllt o un pen i’r llall. Bydd pod mwyaf Prydain o ddolffiniaid yn treulio’u hafau ym Mae Ceredigion, yn yr ardal o gwmpas Ceinewydd. Mae arfordiroedd mwy creigiog Llŷn a Sir Benfro’n arbennig o dda ar gyfer gweld morloi. Bydd gweilch y pysgod yn dod i Laslyn a Chors Dyfi, a gallwch gerdded ymysg y palod ar Ynys Sgomer. Dwy warchodfa natur wych ar hyd y ffordd yw RSPB Ynys-hir a Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru.

