Mae Sarah Perry yn sŵolegydd a swyddog gwyddoniaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Natur a Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion, sy'n gwneud gwaith ymchwil ar y dolffiniaid a'r llamhidyddion sy'n byw yn yr ardal. 

Beth ddenodd chi i Geinewydd?

Y dolffiniaid trwynbwl a'r llamhidyddion yw'r rhywogaethau amlycaf ym Mae Ceredigion, ynghyd â heidiau o forloi llwydion. Wrth fentro i ddyfnderoedd Môr Iwerddon gallwn ddod o hyd i fathau eraill o ddolffiniaid, morfilod pigfain a morfilod asgellog, sef y creaduriaid mwyaf yn y byd ar ôl y morfil glas. O bryd i'w gilydd cawn gip ar heulforgwn, ambell i forfil ffyrnig a môr-grwbanod lledraidd, sy'n dod yma ddiwedd yr haf i ddal slefrod. Felly mae digonedd o fywyd gwyllt i ddiddori rhywun yma.

Ble fyddwn ni fwyaf tebygol o weld dolffin?

Ceinewydd.  Rydym yn gwneud arolygon ar fur yr harbwr, ac fel arfer byddwn yn gweld rhywbeth bob dydd o fis Mehefin tan fis Hydref, felly mae bron yn sicr y byddwch chi'n gweld rhai.  Y lle gorau i ddechrau yw Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion, sydd â llu o wybodaeth am yr anifeiliaid sy'n byw yma a sut allwn ni ofalu amdanynt, i gyd yn rhad ac am ddim. Serch hynny, fe allwch chi weld dolffiniaid unrhyw le rhwng Aberystwyth ac Abergwaun, ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond maent yn dod i'r golwg yn amlach rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd.

Pam bod y dolffiniaid yn dewis dod i Fae Ceredigion?

Bwyd sy'n denu bywyd gwyllt yn bennaf, a phan welwn ni'r dolffiniaid yng Ngheinewydd fel arfer maent yn chwilio am bysgod. Daw'r dolffiniaid yma am fod dyfroedd Bae Ceredigion mor iach. Pe bai'r dŵr yn fudr byddai hynny'n cael effaith ar y creaduriaid ar waelod y gadwyn fwyd, byddai'r pysgod yn diflannu, ac ni fyddai'r dolffiniaid yn medru byw yma. Fe wnaiff dolffin fwyta bron unrhyw beth, ond yma maent yn hoff o ddraenogiaid, hyrddiaid, eogiaid, gleisiaid, careiau môr a mecryll, a beth bynnag y gallant ddod o hyd iddo ar waelod y môr. Fe'u gwelwch yn ymdroi o gwmpas aber Afon Teifi pan fydd yr eogiaid yn mudo o'r môr.

Ydyn nhw'n greaduriaid mor chwareus ag y byddwn yn ei ddychmygu?

Wrth inni wneud arolygon ar y môr maen nhw'n chwarae yn y tonnau mae'r cwch yn eu gwneud, maent i weld yn cael hwyl ar hynny. Efallai nad yw pawb yn gwybod eu bod nhw'n gallu bod yn ddigon garw gyda'i gilydd – fe'u gwelwn ni nhw'n llamu o'r dŵr ac yn neidio ar bennau'i gilydd – a thuag at anifeiliaid eraill. 

People on a rib boat out at sea
Gwylio dolffiniaid ym Mae Ceredigion

Sut mae dweud y gwahaniaeth rhwng y ddwy rywogaeth?

Edrych ar y maint, yn bennaf. Gall dolffiniaid trwynbwl fod hyd at 4 metr o hyd yn eu llawn dwf, ond ni fydd y llamhidyddion yn tyfu'n fwy na 1.5 metr. Mae asgell y cefn yn wahanol hefyd. Rhai bach trionglog sydd gan lamhidyddion, ond mae rhai dolffiniaid yn fwy fel cryman.

Ydych chi'n dod i adnabod pob un ohonynt yn bersonol?

Wrth wneud arolygon ar y môr byddwn ni'n tynnu lluniau o esgyll cefn pob dolffin, a gan fod llawer ohonynt â rhicynnau unigryw ar ymylon ôl eu hesgyll, gallwn adnabod gwahanol unigolion. Rydym ni'n cadw catalog yma yn y Ganolfan o bob anifail a welwn, a bob blwyddyn byddwn ni'n gweld dolffiniaid yn dychwelyd a gallwn gael syniad o ble maen nhw'n mynd, beth maen nhw'n ei wneud a phwy sy'n cadw cwmni iddynt.

Ydych chi'n rhoi enwau arnynt, ynteu ydy gwyddonwyr uwchlaw pethau felly?

Rhai ohonyn nhw! Fyddwn ni ddim yn rhoi enwau arnynt yn syth - mae llysenwau yn dod i feddwl wrth ichi ddod i'w hadnabod. Ond mae'n ffordd dda o ennyn diddordeb pobl. Rydym ni'n rhoi rhif i bob anifail yn y catalog, ond pe byddai rhywbeth yn digwydd i 'ddolffin 21' fyddai hynny ddim yn golygu cymaint ag enw go iawn. Mae gennym ni gynllun mabwysiadu dolffiniaid hefyd, ac mae pob un o'r rheiny'n cael enw.

Close up of dolphin coming out of water
Dolffin oddi ar arfordir Sir Benfro

Ydych chi'n hoffi rhai yn fwy na'i gilydd?

Ddylwn i ddim, ond mae'n anodd peidio weithiau. Rwy'n hoff iawn o un o'r enw Topnotch sydd wedi bod yn dod yma ers dros ugain mlynedd. Mae un arall o'r enw Sue sy'n ffefryn i gapten un o'r cychod yn yr harbwr. Os daw hi i'r fei, byddwn yn siŵr o roi gwybod iddo fe! Roedd un yn dod yma rai blynyddoedd yn ôl ac fe alwon ni e'n Gimpy, doedd e'n methu symud ei gynffon cystal â'r lleill, ond roedd yn ymdopi'n iawn yn ôl pob golwg. 

Related stories