Teimlo’n llwglyd wrth ichi grwydro Ffordd y Gogledd? Ewch ar daith i ddarganfod cynhyrchwyr bwyd a diod a bwytai lleol. 

Bragdy Conwy, Llysfaen

Mae Bradgy Conwy yn casgennu a photelu cwrw gan ddefnyddio dŵr o fynyddoedd Eryri. Mae’r tîm yn angerddol ynghylch cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd. Ewch ar daith o gwmpas y bragdy i gael dysgu mwy am y cwrw ac yna cewch flasu rhywfaint (neu brynu peth i fynd gartref gyda chi os ydych chi’n gyrru.)

Darllen mwy: Cwrw Cymru

Porth Eirias, Bae Colwyn

Bistro glan môr y cogydd Bryn Williams yw Porth Eirias. Mae’n lle i ymlacio â digon o ofod yno lle mae tîm Bryn yn creu prydau bwyd bistro gwych o gynhwysion tymhorol lleol ffres. Bwyd môr yw’r prif beth ar y fwydlen ond mae digon ar gynnig yno i lysieuwyr ac i rai sy’n well ganddynt gig hefyd.

Gwinllan Conwy, Llangystennin

Wedi ei lleoli yn edrych dros Barc Cenedlaethol Eryri, gellid camgymryd y tair acer o dir yng Ngwinllan Conwy am ran hynafol o’r Eidal ar ddiwrnod braf! Ar daith dywys o’r winllan, gallwch chi weld yr amryw fathau o rawnwin sy’n tyfu ar y gwinwydd ar yr adeg iawn o’r flwyddyn, dysgu am y broses o docio a chynaeafu ac yna flasu ffrwyth y gwaith o’r botel. Maent hefyd yn cynnig byrddau pigo anhygoel sy’n cynnwys cawsiau a charcuterie lleol.

Darllen mwy: Teithiau gwinllan yng Nghymru

Distyllfa Penderyn, Llandudno

Wedi llwyddiant eu distyllfa gyntaf ym Mannau Brycheiniog, penderfynodd y tîm ym Mhenderyn agor un arall yn y gogledd. Mae Distyllfa Penderyn Llandudno wedi ei lleoli mewn hen ysgol wedi ei adnewyddu’n hyfryd a gallwch chi fynd ar daith i weld sut maen nhw’n mynd ati i ddistyllu’r wisgi brag sengl ynghyd â rym a jin amrywiol. Fe gewch chi flasu peth hefyd, wrth gwrs. Mae dosbarthiadau meistr wisgi ar gael – maen nhw’n argymell i chi beidio â gyrru os ydych chi’n bwcio un o’r dosbarthiadau hyn.

 

View of interior of modern whiskey distillery
Golwg agos o boteli gwirodydd ar silff

Y ddistyllfa a photeli gwirodydd ym Mhenderyn, Llandudno

Siocled Baravelli’s, Conwy

Mae Emma a Mark Baravelli wedi bod yn creu siocledi anhygoel o greadigol am dros ddegawd. Maen nhw wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu ac wedi ennill pob math o wobrau. Tarwch i mewn i’w siop yng Nghonwy a phrofwch rai o’r danteithion melys anhygoel yno. Maen nhw’n gwneud anrhegion perffaith – os allwch chi fynd a nhw adref gan osgoi’r demtasiwn i’w bwyta nhw eich hun!

Sosban and the Old Butchers, Porthaethwy

Nid oes bwydlen ym mwyty seren Michelin y cogydd Stephen Stevens, Sosban and the Old Butchers ym Mhorthaethwy. Mae’n creu cyfres arbennig o seigiau wedi’u cydbwyso’n berffaith o sgratsh bob dydd, gan ddefnyddio’r cynnyrch gorau wedi ei gael yn lleol ac mewn awyrgylch agored braf. Rydych chi hyd yn oed yn gallu ei weld yn coginio’r prydau! Mae’n rhaid archebu bwrdd ymhell ymlaen llaw. Gan fod y fwydlen yn cael ei pharatoi’n arbennig, ni ellir darparu ar gyfer anghenion dietegol.

Darllen mwy: Bwytai seren Michelin Cymru

Cogydd yn paratoi bwyd mewn cegin y tu mewn i fwyty.
Pelen o sorbet ar ben llysiau.

Y cogydd Stephen Stevens ac un o'i brydau arbennig yn Sosban and the Old Butchers

Hooton's Homegrown, Ynys Môn

Yn Hooton's Homegrown, mae teulu’r Hootons wedi bod yn tyfu ffrwythau a llysiau hyfryd ac yn cadw eu da byw eu hunain am dros 50 mlynedd. Mae eu siop fferm yn llawn o basteiod, siytnis, ffrwythau a llysiau tymhorol a chig eidion, cig oen, porc a chyw iâr Cymreig wedi eu cadw yno ar y fferm, ynghyd â phethau blasus eraill gan gynhyrchwyr cyfagos – edrychwch am gawsiau gan Caws Rhyd y Delyn ac Y Cwt Caws. 

Darllen mwy: Môn Mam Cymru: blas o’r ynys

Halen Môn, Ynys Môn

Wedi ei greu’n llwyr o ddyfroedd gwyllt Ynys Môn, mae Halen Môn yn cynhyrchu halen eithriadol o flasus mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yng Nghanolfan Ymweld Halen Môn ar lan Afon Menai, gallwch chi fynd ar daith drwy hanes halen yn yr ardal cyn cymryd rhan mewn sesiwn blasu halen wedi ei arwain gan diwtor. Yna, gallwch chi fynd â pheth gartref gyda chi o’r siop anrhegion.

 

Halen Môn - Cynnyrch halen ar y traeth
tu allan i bencadlys Halen Môn.
Llun o’r tu mewn i siop Halen Môn.

Halen Môn

Distyllfa Llanfairpwll, Ynys Môn

Mae’r tîm yn Nistyllfa Llanfairpwll yn cymysgu pob math o wirodydd anhygoel. Mae yna jin â blas rhiwbob lleol, afal cynhenid i Ynys Môn o’r enw Trwyn Mochyn, a mwyar duon wedi eu casglu o leoliadau cyfrinachol ar hyd yr ynys. Maen nhw hefyd yn distyllu rym tywyll hyfryd. Gallwch chi alw i mewn i’r ddistyllfa a’r siop y rhan fwyaf o ddyddiau, ond mae’n well i chi ffonio ymlaen llaw rhag ofn.

 

Melin Llynon, Llanddeusant, Ynys Môn

Mae Richard Holt a’i dîm yn creu eu Mônuts (fersiwn Ynys Môn o doughnut!) arbennig â llaw bob dydd gan eu llenwi â ffondant melys a hufenau lliwgar. Ewch â’ch bocs eich hun ac fel gewch chi ddisgownt! Mae'r pobydd mentrus hefyd yn gwerthu jin a siocled yno. Fe ddewch chi o hyd i bob math o atyniadau eraill ym Melin Llynon hefyd gan gynnwys saffari modelau i gadw’r plant yn ddiddan ac adeiladau hanesyddol amrywiol gan gynnwys y felin wynt ei hun wrth gwrs. Mae'r oriau agor ar gael ar y wefan a chyfrifon cymdeithasol Melin Llynon

 

Straeon cysylltiedig