Mae Alis Gwyther yn ddylunydd a gwneuthurwr dillad wedi eu gwau o Lanbedr Pont Steffan. Mae hi’n creu tecstilau lliwgar, cyfoes ac unigryw o dan yr enw Alis Knits. Mae Alis yn angerddol am siopa’n lleol a chefnogi busnesau annibynnol, ac yn hyrwyddo gwneuthurwyr o Gymru ar ei chyfrif Instagram.
Mae cefnogi busnesau bach yn bwysicach nag erioed, a dyma gasgliad o hoff fusnesau annibynnol Alis i roi ysbrydoliaeth i siopa’n lleol. Mae pob un o’i dewis yn gwerthu eu cynnyrch ar-lein, ac felly gall pawb brynu nwyddau o bob cwr o Gymru, yn ddiogel o gartref.

Lotti & Wren
Siop fendigedig a chroesawgar yng nghanol Caernarfon, sydd hefyd newydd agor siop ar-lein. Mae gan Lotti & Wren amrywiaeth o waith artistiaid a dylunwyr ar silffoedd lliwgar ei siop. Siop hyfryd os ydych chi'n chwilio am eitemau llawn hwyl.
Hannah Megan Jewellery
Yn ddiweddar mae Hannah, dylunydd a gwneuthurwr gemwaith hynod o dalentog, wedi agor ei stiwdio ei hun yn Llanelli. Mae Hannah yn gweithio gydag arian yn bennaf, yn ogystal â rhywfaint o gopr, gan ddefnyddio technegau traddodiadol a chyfoes. Mae hi hefyd yn cynnal gweithdai gemwaith.
Dilynwch Hannah Megan Jewellery ar Instagram: @hannahmeganjewellery



ANNI
Mae'r galw am siopa ar lein wedi cynyddu'n gyflym ac yn sgil hyn sefydlwyd Anni – marchnad ar-lein lle gallwch brynu’n uniongyrchol gan fusnesau bach, cyffrous, ac artistiaid a gwneuthurwyr annibynnol o Gymru. Ymysg y gwerthwyr sy’n torri tir newydd mae Matico, Canton Studio a Clai.
Ophelia Dos Santos
Mae Ophelia Dos Santos, cynllunydd tecstilau o Gymru sy’n byw yng Nghaerdydd, yn canolbwyntio ar ffasiwn cynaliadwy. Mae’n gobeithio ysbrydoli newid amgylcheddol a chymdeithasol trwy annog pobl i feddwl am y ffordd rydyn ni'n prynu, ail-ddefnyddio a chael gwared ar ddillad. Ei nod yw annog cwsmeriaid i addasu eu dillad eu hunain yn hytrach na’u taflu. Er enghraifft, gallwch brynu pecyn brodwaith ganddi a'i ddefnyddio i adnewyddu yr hyn sydd yn eich cwpwrdd dillad yn barod, heb fod angen prynu dilledyn newydd.

Studio ND
Mae Nia Denman yn gweithio gyda phob math o ledr. Mae hi'n cynnal gweithdai ledled Cymru lle gallwch roi cynnig ar wneud esgidiau lledr eich hun i ffitio'ch traed yn berffaith, a chyfres o bethau hyfryd eraill. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio ar becynnau crefft i chi allu gwneud eich nwyddau lledr eich hunain o’ch cartref.
Llio Davies
Mae Llio, artist ceramig wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yn arbenigo mewn nwyddau cartref a gemwaith wedi'u gwneud â llaw. Daw ysbrydoliaeth Llio o’i phlentyndod heddychlon yn Eryri, sy’n cael ei adlewyrchu yn ei gwaith syml a di-lol.

Lowri P-D
Mae Lowri Pugh Davies o ardal Llanbedr Pont Steffan yn ysgythru eitemau pren a llechi hyfryd. Mae Lowri yn derbyn ceisiadau personol, gan ysgythru darnau unigryw gyda negeseuon o’ch dewis. Anrheg Nadolig perffaith a phersonol.
Temeka – Noble Sol


MYTHSNTiTS
Mae Mari Catrin Phillips, sy’n wreiddiol o Sir Benfro, yn creu gwaith lliwgar a chynhwysol ac yn cael ysbrydoliaeth gan ‘dduwiau a duwiesau LGBTQ’. Ei nod yw i roi llais i'r gymuned mewn ffordd hwyliog a lliwgar. Mae’n dechrau pob darlun trwy beintio â llaw, ac yna’n datblygu’r darnau yn gelf ddigidol i'w gwerthu fel printiau, sticeri a llawer o nwyddau amrywiol.
NATUR
Cwmni gofal croen naturiol yn Llangeitho yng ngorllewin Cymru. Os ydych yn awyddus i newid eich gofal croen ac arbrofi gyda chynnyrch naturiol a chynaliadwy, fe fyddwn i’n bendant yn argymell cynnyrch NATUR. Mae setiau anrheg ar gael ar eu gwefan hefyd, sy’n berffaith fel anrheg Nadolig.

Siop y Pethe
Siop wedi'i llenwi â chynnyrch Cymraeg a Chymreig. Wedi'i lleoli yng nghanol Aberystwyth, mae Siop y Pethe yn gwerthu pob math o bethau, o lyfrau i eitemau harddwch, i grefft sydd wedi'i wneud yn lleol. Siop annibynnol wych sy’n gwerthu ar-lein ac anfon archebion i bobl ledled Cymru.
Lora Wyn
Mae Lora Wyn, dylunydd gemwaith o Gaernarfon, yn creu gemwaith enamel hyfryd. Mae'r holl ddyluniadau yn dod mewn nifer o wahanol liwiau, ac un o’r peth hyfrytach am emwaith Lora yw ei bod hi'n creu ei gwifrau clust, hŵps a chlasbiau ei hun i gwblhau'r gemwaith hollol unigryw.


HIWTI
Woolly Wales
Cafodd Sara ei magu yng nghanolbarth Cymru, ond mae hi bellach yn byw ar Benrhyn Gŵyr ac yn briod â ffermwr. Mae hi wedi dechrau cynhyrchu gwlân, ac yn lliwio a throelli edafedd unigryw o'i gwlân ei hun, yn ogystal â gwlân wedi'i gyrchu gan ffermwyr a thyddynwyr eraill o amgylch Cymru. Mae hi hefyd yn gwehyddu siolau a sgarffiau.

Madog Millinary
Daw Erin, dylunydd a gwneuthurwr penwisgoedd, yn wreiddiol o Ffestiniog ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gwneud ei holl waith â llaw, ac mae llawer o'i dyluniadau wedi'u hysbrydoli gan ei chyfnod yn byw dramor; y tirweddau a'r mynyddoedd, y coetiroedd a’r traethau. Mae ei bandiau pen a'i sgrunchies yn anrhegion Nadolig perffaith!
Cofiwch ddilyn Alis ar Instagram am fwy o wybodaeth ac ysbrydoliaeth am gwmnïau o Gymru i’w cefnogi dros y misoedd nesaf.