Mae Sir Ddinbych yn cynnig nifer fawr o brofiadau ac atyniadau mewn ardal amrywiol. Ceir pum tref wledig - Corwen, Dinbych, Llangollen, Rhuddlan a Rhuthun, dwy dref arfordirol - Y Rhyl a Prestatyn, ac un ddinas - Llanelwy. Mae pum castell yn y sir, yn ogystal â safle UNESCO Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Ar ben hyn i gyd mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn andros o le braf i fynd am dro neu i feicio, ac mae rhan helaeth ohono yn Sir Ddinbych.

Mae bwyd yn bwysig i bobl Clwyd. Mae sawl gŵyl fwyd - yng Nghorwen, Rhuddlan a Llangollen, ac mae Dinbych, Rhuthun a Llangollen hefyd yn cynnal marchnadoedd bwyd yn gyson. Mae Dyffryn Clwyd yn cynhyrchu rhai o fwydydd gorau’r wlad, gyda chwmnïau’n cynhyrchu iogwrt, caws, hufen iâ, seidr, a chig oen Cymreig. Efallai mai’r bwyd fwyaf unigryw sy’n dod o’r ardal yw Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd

Mae bwytai, chaffis a thafarndai’r sir yn lwcus dros ben o gael y cynnyrch yma ar eu stepen drws, ac o ganlyniad, mae nhw’n gallu cynnig gwledd o fwyd wedi ei wneud o gynnyrch lleol i gwsmeriaid. Beth am alw am ddiod neu damaid i’w fwyta yn un o’r llefydd isod tra’n yr ardal?

Chilly Cow, Llanychan

Mae’r hufen iâ lleol poblogaidd ar gael mewn sawl siop a bwyty, ond am brofiad gwahanol ewch draw i’w blwch gonestrwydd yn Llanychan. Mae modd prynu tybiau hufen iâ Chilly Cow yn ogystal â chynnyrch lleol gan gynnwys jam Ffynnon Beuno a mêl Black Mountain Honey.

Te yn y Grug, Dinbych

Deli a chaffi sy’n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig lleol yw Te yn y Grug, sy’n amlwg yn dathlu cysylltiadau’r ardal gyda’r awdures enwog Kate Roberts, fu’n byw yn Ninbych am y rhan fwyaf o’i bywyd. Mae’r cacennau sydd ar gael yn y caffi yn werth eu gweld! Mae’r deli yn gwerthu caws, mêl a choffi lleol Owen and EdwardsMae modd prynu gwin o Winllan Conwy, Gin Pant y Foel a chwrw o Fragdy Mona yno hefyd.

Caffi Y Shed, Meliden

Am sawl blwyddyn bu adeilad rhestredig Gradd II Y Shed yn wag. Nawr, diolch i Grŵp Cynefin, a Meliden Residents Action Group, mae dyfodol disglair i’r Shed. Mae’n ganolfan gymunedol gyda chaffi, siopau crefft ac arddangosfeydd hanesyddol. Mae’r caffi yn croesawu cŵn, ac yn gweini amrywiaeth o brydau sy’n addas i blant.

The Cabin, Rhuthun

Yn edrych dros Sgwâr St Pedr, mae siop goffi Cabin â’i awyrgylch hamddenol a chynnes. Yma, cewch suddo mewn i’r seti cyfforddus i fwynhau paned dda a chacen flasus, darllen llyfr oddi ar eu siffloedd neu chwarae gêm fwrdd wrth edrych ar adeiladau canol oesol y sgwâr.

Caffeina, Prestatyn

Caffi eco-gyfeillgar sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy a’n ceisio lleihau gwastraff bwyd. Mae dewis da o opsiynau figan ar gael yma. Cadwch lygaid am y sesiynau yoga achlysurol yn y caffi.

Dinorben Arms, Bodfari

Mae’r Dinorben Arms, yng nghanol pentref bychan Bodfari, yn swatio yng nghysgod eglwys Sant Steffan. Mae'r adeilad yn frith o hanes ond gydag elfennau modern. Mae’r fwydlen yn newid yn ddyddiol ac yn llawn opsiynau pysgod, chig a llysieuol.

Nant y Felin, Llanrhaeadr

Bwyty teuluol sy’n tyfu eu cynnyrch eu hunain lle bo modd. Mae bwydlen blant dda a chinio Sul poblogaidd.

Llanbenwch, Rhuthun

Os am baned a chacen flasus, lleoliad anhygoel a’r croeso cynhesaf yn y byd,  ewch draw i weld Sara a Gwion a’r criw yn Llanbenwch. Mae Llanbenwch tua thair milltir o Ruthun i gyfeiriad Wrecsam a'n nythu yng nghanol bryniau Clwyd. Flwyddyn yn ôl, fe adeiladwyd caban bach pren yn gaffi a siop sy’n gwerthu cynnyrch lleol ar y safle a buan iawn y trodd y caban bach pren yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd yr ardal i gyfarfod ffrindiau dros baned. Gwerthir cacennau cartref a brownis ffres yn ddyddiol ac mae’r siop yn gwerthu cynnyrch lleol fel Wyau Llain Wen, hufen iâ Chilly Cow a chig a phrydau parod ynghyd â chelf leol. Yn ddiweddar, mae ail gaban wedi ei godi a fanno ydy cartref Arogli sef cwmni lleol sy’n creu a gwerthu canhwyllau a thoddion cwyr bendigedig.  

Straeon cysylltiedig