Does dim dianc rhag y ffaith y bu’n aeaf maith – yn wir, yn flwyddyn faith ers dechrau’r pandemig. A bu bwyd a diod yn ganolog i’n bywydau bob dydd, wrth gynnal ein hunain a’n caredigion. Rhwng y coginio di-ddiwedd, pobi cacenau a chyfnewid ryseitiau (heb sôn am yr helfa barhaus am fyrbrydau) roedd ceginau ledled Cymru yn beiriau o greadigrwydd, yn labordai arbrofi a ffatrioedd gweithgarwch. Ond wedi pedwar tymor cyfan o ystyried y geiriau ‘beth sydd i swper?’ pwy all feio neb am fod yn hesb o ysbrydoliaeth?

Gyfeillion, mae’n hen bryd i ni gael dawns yn y gegin a chanu’r anthem wanwynaidd ‘Moliannwn!’ Felly cliriwch y cypyrddau ac agorwch y ffenestri led y pen i groesawu chwa o awyr iach. Â ninnau ar drothwy’r gwanwyn mae’n bryd ail-danio’r ffwrnes awen; dyma lu o syniadau i ddeffro’r synhwyrau, ac ymserchu unwaith eto â bwyd a diod.

Ffa Coffi Pawb

Pwy feddylie y gallai’r syniad o gwrdd â ffrind am goffi fod yn reswm i ogoneddu? A tybed ble fydd y cyfarfod cyntaf hwnnw dros baned o de neu goffi? Dyw hi ddim yn anodd dewis caffi sy’n gweini’r gorau o Gymru, diolch i’r cynydd mewn rhostai cynhenid ac angerdd arbenigwyr te. Rhwng enwau amlwg fel Heartland (Llandudno) a Poblado (Dyffryn Nantlle) yn y Gogledd, Coaltown (Rhydaman), a Gower Coffee (Abertawe) yn y De, mae degau o rostai anibynnol Cymreig i’w canfod ar hyd y lle. Yn bersonol, dwi’n edrych mlaen i gael paned têc-awê o dŷ te Waterloo yng Nghaerdydd, cyn crwydro ymhellach – am unwaith! – na Pharc y Rhath. Cofiwch hefyd fod pob un o’r cwmniau hyn, ac eraill - gan gynwys cwmni te Cymreig Peterstone Tea o Lanbedr y Fro - yn gwerthu cynnyrch o asnawdd i weini yn eich cartref, neu tra’n teithio ar hyd y lle. Dwi ’di bod yn ysu i ddefnyddio fy fflasg thermos newydd ges i’n anrheg Nadolig; ‘te tramp’ Glengettie amdani felly neu Paned Gymreig Morrough’s Welsh Brew, tra ar dramp ar hyd fy mro.

‘Gwisg Genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon’

Yna sawra’r cennin yn dy gaws a chracyr neu selsigen! ‘Gwnewch y pethau bychain’ oedd neges Dewi Sant wedi’r cyfan, felly beth am ymrwymo i gefnogi’n busnesau o Gymru ar hyd y gwanwyn? Archebwch gracyrs cennin Cradoc’s, caws cennin Cenarth neu cheddar aeddfed Dragon, a selsig cennin Myrddin Heritage neu Edwards o Gonwy ar-lein?  Neu beth am ddechrau sawrus i’r diwrnod gyda chacennau cri blas caws a chennin gan gwmni MamGu Welshcakes o Solfach, Sir Benfro?  Ychydig i’r gogledd ym mhentre Cwm yr Eglwys, mae cwmni Pembrokeshire Sea Salt yn cynnig halen môr blas gwanwynaidd garlleg gwyllt. Dwi’n hoffi fforio’n lleol am y deiliach sawrus hyn ar hyd tymor y gwanwyn, ac mae’r crisalau halen gwyrdd llachar yn berffaith gyda brecwast Cymreig, neu â swper tymhorol o gig oen a thatws Sir Benfro. Am flas bach melysach, archebwch fisgedi addurniedig Sweet Snowdonia o Gonwy – neu Bocs Dydd Gŵyl Dewi gan Crwst, Aberteifi. Neu beth am efelychu Richard Burton (seren arddangosfa wych Bywyd Richard Burton ar wefan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar hyd y gwanwyn) oedd yn caru bara lawr? ‘Welshman’s Caviar’ oedd yr enw a fathodd ef ar y byrbryd brecwast â blas yr heli. Dyna hefyd yw enw’r ‘creision’ moethus y gellir eu taenu dros frechdan gig moch neu wyau wedi’u sgramblo. Archebwch o wefan The Pembrokeshire Beach Food Company, neu o’r ‘archfarchnad’ ddigidol ragorol Blas ar Fwyd, am chwa o flas umami ben bore.

Sul y Mamau  

A sôn am ŵ-mami... peidiwch anghofio Sul y Mamau! Diwrnod sanctaidd pob Mam Gymreig ar ddechrau’r gwanwyn! Wedi blwyddyn o bandemic, tybed beth fyddai ‘Mam’ yn ei ddymuno fwyaf? Mymryn o lonydd, neu dusw o flodau, a neb (ie, NEB) i ffraeo! Ac os yw yw hynny’n gofyn gormod, wel yn naturiol, ceir opsiynau di-ri o ddanteision a melysion gwanwynaidd. Roedd hi’n arfer gen i baratoi ceuled lemwn ar gyfer Mam ar Sul y Mamau gan ddilyn rysait gwych y cogydd o Ddinbych, Bryn Williams, yn ei lyfr Bryn’s Kitchen (Gwasg Octopus). Dwi’n dal i lynu at y ddefod dymhorol i rannu â ffrindiau erbyn hyn. Mae’r chwa sitrws ysgafn yn deffro’r daflod ddechrau’r tymor - ac mae’r blas yn gwbl anfarwol ar deisen groes! Gallaf hefyd argymell geuled lemwn Welsh Lady Preserves, o bentre’r Ffôr yn Eifionydd. Neu os am ‘mam-alêd’ moethus trowch at wefan Radnor Preserves o Gaersws; dwi’n dwlu ar eu clasur, sef marmalêd jin pinc, neu beth am flas ysgawen a grawnffrwyth coch? Ces i hefyd fodd i fyw ddechrau’r flwyddyn gyda gwasanaeth bwyd cartref  Y Bwrdd, sy’n danfon pob math o ddanteithion (o’r ‘te prynhawn’ i ‘focs bistro’ swper dau gwrs) yn syth i’ch stepen drws. Hamper ‘Brecwast’ Y Bwrdd archebais i – byddai hwnnw’n gwneud anrheg hyfryd dros ben i unrhyw fam. Mae cyfnod y pandemig wedi sbarduno pob math o fentrau tebyg ledled Cymru, felly holwch hefyd am fusnesau lleol i chi. Yn achos y cwmni hwn yr actores Annes Elwy o Benarth sydd wrth y llyw – seren ffilm fawr Cymru ar gyfer 2021, Gwledd. Neu os mai brownies siocled yw’ch syniad chi (neu’ch Mam) o bleser pur, yna archebwch Gower Cottage Brownies o Lan-y-Tair-Mair, Penrhyn Gŵyr. Ac os mai blodau sy’n debygol o blesio, beth am gynnig tro blasus ar betalau o Gymru? Ystyriwch jin blodau gwylltion Pollination o Ddyfryn Dyfi (Dyfi Distillery), jin blas fioled o lannau’r Fenai gan Aber Falls – neu bersawr tymhorol o Fannau Brycheiniog? Cydweithiodd yr awdures a’r fforwraig o Lanfrynach, Adele Nozedar, â chwmni Jin Gŵyr i greu ei jin newydd hi ar gyfer y gwanwyn; mae blasau hiraethus The Hedgerow Hangbook Gin: Chapter Two yn cynnwys dant y llew a cacamwnci (dandelion and burdock), os hoffech i’ch mam gael blasu gwibdaith ’nol i’w phlentyndod! Neu os am ddanteithion i’r teulu cyfan ystyriwch felysion i godi gwên; mae lolipops blodau bwytadwy Eat My Flowers o Gorwen yn cynnwys blodau coed afal a cheirios a rhosod gwyllt ardal y Berwyn.

Allez Le Rouges!

Mae gêm Cymru a Ffrainc bob amser yn un o uchafbwyntiau twrnament y chwe gwlad. Ac er na fydd modd teithio i Baris ar gyfer yr ornest ei hun, beth am gynllunio gloddest wanwynaidd o gaws a gwin?  Wedi 25 mlynedd yn rhedeg bwytai yng Nghaerdydd, trowch am gyngor  gwin y Ffrancwr Francis Dupuy. Yn ystod yr argyfwng, sefydlodd wasanaeth Broga Wines sy’n darparu gwinoedd o safon i’w mwynhau yn y cartref, a chyngor yn y Ffrangeg, Saesneg a Chymraeg. Ystyriwch hefyd wasanaeth ar-lein y cwmni Tŷ Caws sy’n cynnig detholiad eang o gawsiau Cymreig. Mae’r stondin i’w chanfod ym marchnad ffermwyr Glanyrafon yng nghysgod Stadiwm Principality bob bore Sul. Ymysg y detholiad ar gynnig mae danteithion Caws Teifi o Ffostrasol, sydd hefyd yn cynnig caws a blas gwanwynaidd danadl poethion. Ac os am vin rouge â blas o Gymru, trowch at win coch Rondo o winllan Montgomery – un o’r detholiad o winoedd o Gymru gan Llinos a Dylan Rowlands, Dylanwad Dolgellau. Neu ewch i wefan siop win The Grape to Glass yn Llandrillo-yn-Rhos am winoedd lleol Gwinllan Conwy, Llangwstennin.

Pasg Hapus!

Ac o’r bêl siâp ŵy i wyau Pasg - a gyda’r gorau y mae wyau siocled Baravelli’s. Ers rhai blynyddoedd bellach bu’r cwmni siocled crefft o Gonwy yn gwerthu eu cynnyrch yn rhai o siopau crandiaf Llundain, fel Selfridges a Harrods. Bachwch eich ŵy Pasg Baravelli’s eich hun o’u siop ar-lein. Rhaid hefyd ystyried detholiad y siocledwraig Sarah Bunton o Bontarfynach; byddai bocs o’r ‘boncyffion’ siocled cennin pedr yn fy mhlesio i’r dim y gwanwyn hwn! Neu beth am gynnal helfa botymau dros benwythnos y Pasg? Botymau siocled anferthol Coco Pzazz, hynny yw, o Gaersws? Cofiwch hefyd am siop Heavenly, Llandeilo, sy’n cynnig amrywiaeth o hamperi siocled i’w danfon yn y post. Neu os am flas o’r gorffennol beth am holi Mamgu a Tadcu beth oedd eu hoff losin nhw pan oedden nhw’n blant? Ystyriwch yr hwyl gafodd Charlie a Joe ei daid yn ffatri siocled Willy Wonka - creadigaeth yr awdur Roald Dahl o Gaerdydd. Mae gan siop losin Umpa Lumpa Penarth, a’r groser Wisebuy’s Sir Benfro (yn nhrefi Arberth a Phenfro) wasanaeth archebu fferins hen-ffasiwn ar lein; ceir popeth dan haul o daffi a bon-bons, gwefusau ceirios a riwbob a chwstard i’r clasur o Gymru, Losin Dant. Be well na rhannu atgofion dros lond ceg o ddanteithion? Fel a genir yn y clasur gwanwynaidd, Moliannwn, ‘mae amser gwell i ddyfod, haleliwia!’.

Cofiwch ddilyn Lowri ar Instagram am fwy o wybodaeth ac ysbrydoliaeth am gwmnïau bwyd a diod o Gymru i’w cefnogi.

 

Straeon cysylltiedig