Dolffiniaid trwyn potel chwareus, gweilch y pysgod mawreddog – mae arfordir Cymru’n denu pob math o greaduriaid diddorol. Yn yr afonydd hefyd, mae bywyd gwyllt yn ei nerth, gan gynnwys un o wir ryfeddodau blynyddol y pysgod: llam yr eogiaid. Dewch i ddarganfod y prosiectau cadwraeth anhygoel sy’n gwarchod creaduriaid Cymru, arhoswch ar ynys ynghanol rhyfeddodau naturiol, ac archwiliwch eich natur wyllt eich hun drwy farchogaeth ar y traeth.  

Gweld dolffiniaid ym Mae Ceredigion

Mae’r criw mwyaf o ddolffiniaid yn y DU yn byw ym Mae Ceredigion, wedi’u denu yno gan yr holl bysgod sydd ar gael yn y dyfroedd maethlon hyn. Ewch draw i Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Ngheinewydd, sy’n cyflwyno gwybodaeth am ddolffiniaid trwyn potel a llamhidyddion yn yr ardal. Gallwch hefyd fynd ar daith dywys mewn cwch i weld y creaduriaid hyn yn agos atoch. Dewch rhwng mis Mehefin a mis Hydref, a byddwch chi’n anlwcus iawn os na welwch chi’r creaduriaid chwareus hyn unrhyw le rhwng Aberystwyth ac Abergwaun. Ond beth yw’r gwahaniaeth rhwng dolffin a llamhidydd? Mae siâp fel cryman ar y cyntaf, tra bo gan yr ail asgell ar ei gefn.

Dolphin & Seal Spotting, Cardigan Bay
Dolphin & Seal Spotting, Cardigan Bay
Trip ar gwch i chwilio am ddolffiniaid ym Mae Ceredigion

Cysgu gydag adar y môr ar Ynys Sgomer

Mae un o adar môr anwylaf byd natur yn byw ar Sgomer am sawl mis bob blwyddyn. Ie, y palod del, rhyw 22,000 ohonynt, sy’n dod yma rhwng mis Mai a mis Gorffennaf. Ewch chwithau yno i weld miloedd o’r creaduriaid bach lliwgar yn hedfan i’r môr ac yn ôl, gan sgrialu wrth lanio ar ben y clogwyni er mwyn bwydo’u cywion diamynedd sy’n disgwyl yn llwglyd yn yr hen dyllau cwningod am bysgod ffres. Yn nes ymlaen yn y flwyddyn, aderyn drycin Manaw yw’r seren - daw’r adar swnllyd yn ôl i’r ynys yn y nos, ac mae’r twrw’n fyddarol - gallwch aros mewn llety hunanarlwyo cyffyrddus ar Ynys Sgomer i brofi’r sioe ar ei hanterth.  

A group of puffins standing on a cliff with the sea and more cliffs in the background
Palod ar Ynys Sgomer, Sir Benfro

Darganfod bywyd gwyllt Ynys Môn ar daith gerdded dywys

Mae ystod o fywyd gwyllt ‘tu hwnt’ o amrywiol ym Môn (yn ôl Anglesey Wildlife Walks – a phwy ydym ni i ddadlau?!). Mae gan y sefydliad arbenigedd go iawn ym materion tywys ymwelwyr i werthfawrogi’r cyfan. Ar gyfres o deithiau cerdded hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn o gwmpas yr ynys, cewch gyfle i weld hebogiaid tramor, mulfrain gwyrdd yn nythu, brain coesgoch prin ac, oddi ar yr arfordir, morloi a llamhidyddion. Mae blodau gwyllt yn garped lliwgar yn y gwanwyn a’r haf, ond yn yr hydref y cewch chi’r gobaith mwyaf o weld morloi bach Iwerydd, gwyn fel yr eira, yn disgyn i’r dŵr i ddysgu nofio. Gellir archebu taith gerdded i unigolion a grwpiau, hyd at uchafswm o 8.

Anglesey from the sea.
Brynsiencyn, Ynys Môn

Gweld fflamingos, gwyddau, dyfrgwn a mwy yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli

Rhowch fwyd o’ch llaw i’r ŵydd brinnaf yn y byd, dotiwch at y fflamingos lliwgar, gwyliwch adar o guddfan ac ewch i hela trychfilod – yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli, fe’ch gwahoddir i ddod wyneb yn wyneb â’r bywyd gwyllt! Mae’r Ganolfan, un o naw sydd gan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir (WWT) ledled y DU, yn glytwaith 450-erw o lynnoedd, pyllau, nentydd a lagwnau ger llaw arfordir Cilfach Tywyn yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r atyniad yn llawer iawn o hwyl i blant – ymysg digwyddiadau a gynhelir gydol y flwyddyn mae saffaris canŵ a dowcio mewn pyllau – ac mae’n lle rhagorol i ddysgu am bwysigrwydd cadwraeth. 

Suddo eich dannedd drwy groen afal prinnaf y byd ar Ynys Enlli

Ddwy filltir oddi ar drwyn eithaf Pen Llŷn, sy’n teimlo fel diwedd y byd ynddo’i hun, mae Ynys Enlli. Ewch dros y Swnt ar gwch o Borth Meudwy i ddarganfod lle sy’n drwm gan hanes (gan gofio fod ugain mil o seintiau wedi’u claddu yma yn ôl y chwedl). Mae hefyd yn gartref i forloi ac adar môr, gan gynnwys 20,000 o barau o adar drycin Manaw, a dyma gartref ‘afal prinnaf y byd’, a gafodd ei feithrin gan fynachod dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl! Gallwch aros dros nos; mae gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli naw llety hunan-arlwyo ar gael i’w llogi. 

Image of seals in the sea and on rocks
Morloi, Ynys Enlli

Dysgu am y creaduriaid lleiaf ar fferm drychfilod Dr Beynon

Yn swatio ynghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, rhyw filltir o Dyddewi, mae Fferm Drychfilod Dr Beynon. Mae’r safle 100-erw’n cynnwys fferm weithredol, canolfan ymchwil ac atyniad i ymwelwyr, sy’n ymwneud yn llwyr â chreaduriaid di-asgwrn-cefn – trychfilod – ac amaethyddiaeth gynaliadwy. Ewch i weld y sw drychfilod drofannol, yr amgueddfa drychfilod a llwybr trychfilod y fferm, yn ogystal â chymryd rhan mewn ‘sesiynau agos-atoch’ a chelf a chrefft. Allwch chi ddim â gadael cyn cael rhywbeth i’w fwyta yn y Grub Kitchen Café, ‘bwyty trychfilod bwytadwy’ cyntaf y DU, sy’n cynnwys seigiau â thrychfilod bwytadwy ynddynt, a rhai di-drychfil! 

Four bowls of edible bugs and grubs
Grub Kitchen, Tyddewi

Rhyfeddu at naid yr eog dros raeadrau yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru

Ymfudo gan bysgod yw un o driciau hud mwyaf annisgwyl byd natur, er ei fod yn beth digon cyffredin mewn afonydd ledled Cymru yn yr hydref, pan fydd eogiaid a sewin ymfudol yn dod o hyd i’w ffordd adref i’w hafonydd genedigol i ddodwy’u hwyau. Rhaeadr Cenarth, ar ffin tair sir Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yw’r rhwystr cyntaf o bwys ar daith y pysgod i fyny Afon Teifi (mae tŷ te ag arno enw hynod addas, The Salmon Leap, gerllaw, i’ch adfer). Yn y cyfamser, mae Gwarchodfa Natur Gilfach yn y Canolbarth yn lle da i weld y campau dyfriog hyn ar hyd Afon Marteg tua mis Tachwedd.

Cael cip ar Walch y Pysgod yn Sir Drefaldwyn

Dafliad carreg i mewn o gyrchfan glan-môr Aberdyfi mae Gwarchodfa Natur Cors Dyfi, cyfuniad cyffrous o gors, mignen, coetir gwlyb a phrysgwydd sy’n denu cyfoeth o anifeiliaid a phlanhigion. Y sêr yma yw gweilch y pysgod, sydd wedi magu cywion yn y warchodfa ers 2011. Heddiw, Prosiect Gweilch Dyfi yw un o lwyddiannau cadwraeth ein hoes, a bydd 40,000 o ymwelwyr yn tyrru yno rhwng mis Ebrill a mis Medi bob blwyddyn i edmygu’r gweilch sy’n byw yma. Mae’r warchodfa hefyd yn cynnal digwyddiadau gydol y flwyddyn i roi sylw i’r amrywiaeth enfawr o drigolion gwyllt a phlanhigion a geir ynddi. 

Carlamu ar hyd traeth hardd

Prin fod gwell ffordd o brofi arfordir trawiadol Cymru nag wrth garlamu ar hyd traeth tywodlyd bendigedig, y gwynt drwy eich gwallt a’r haul yn machlud ar y gorwel. Gallwch gamu i mewn i’r darlun cerdyn post hwn mewn mwy nag un lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr, wrth farchogaeth ar draeth gyda Chanolfan Fferm Clun. Yn Sir Gaerfyrddin, rhowch gyfrwy ar geffyl ar fferm Marros ac anelwch am eangderau 7-milltir o hyd Traeth Pentywyn, i garlamu drwy’r tonnau bach. Dim ond marchogion profiadol sy’n gallu marchogaeth ar y teithiau traeth hyn, er bod y ddau le’n cynnig gwersi i ddechreuwyr.

Horses in sillouette on Llangennith with dunes in the backgound, Gower Peninsula
Marchogaeth ar draeth Llangynydd, Penrhyn Gŵyr

Hanes dau lyn ym Mhowys a Gwynedd

Ehangder heddychlon yw Llyn Efyrnwy ym Mhowys, yng Nghanolbarth Cymru. Amgylchynir y gronfa ddŵr hon o Oes Fictoria gan fryniau glaswelltog a choedwigoedd gwarchodfa natur yr RSPB, ble gallwch gael cip ar y bwncath, y pila gwyrdd a gwyachod a gwrando am gân y gwybedog brith, telor y coed a’r tingoch. Ryw 12 milltir i’r gogledd mae llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid, sy’n honni i gartrefu anghenfil dirgel a enwyd yn ‘Teggie’ gan ymwelwyr! Gallwch hwylio ar y llyn i geisio canfod y creadur drosoch eich hun, neu roi cynnig ar chwaraeon dŵr fel canŵio neu hwylfyrddio. Er y bydd hi’n annhebygol y gwelwch chi’r un Teggie, mae gan Lyn Tegid greadur chwedlonol ac unigryw, sef y gwyniad, pysgodyn o Oes yr Iâ sydd ond yn byw yma ac yn unlle arall. Dyma’r unig le ar dir mawr Prydain ble ceir y falwen ludiog - Myxas glutinosa - hefyd!

Related stories