'Come to Sunny Rhyl!' meddai posteri y cyfnod wedi’r rhyfel, gan ddenu ymwelwyr i Ogledd Cymru â delweddau delfrydol o draethau eang, euraidd, a theuluoedd hapus yn chwarae ar lan y môr.

Mae llawer mwy y gall ymwelwyr ei wneud yng Ngogledd Cymru erbyn heddiw, ac un o’r ffyrdd gorau o fynd o gwmpas yw ar y trên. Dim gofidiau am draffig na gwaith ffordd; dim ond ymlacio, gwylio’r golygfeydd trawiadol yn pasio heibio, a gadael i rywun arall yrru. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer dyddiau allan gan ddefnyddio Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.

Trên yn cael ei dynnu gan loco ger yr arfordir.

'Y Gerallt Gymro', gwasanaeth dosbarth busnes dyddiau’r wythnos Trafnidiaeth Cymru rhwng Caergybi a Chaerdydd ger Dwygyfylchi

Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru

Adeiladwyd y rheilffordd yn wreiddiol er mwyn darparu llwybr allweddol i deithwyr, nwyddau a gwasanaeth Post Iwerddon oedd yn mynd o brif drefi Lloegr i Iwerddon drwy Gaergybi, ac yn ôl. Roedd y ffyrdd yn bur wael ac yn beryglus ar y pryd, felly cynigiai’r rheilffordd ddull amgen saffach a chyflymach. Erbyn 1848 roedd y lein wedi agor yn llawn a byddai trenau rheolaidd yn cysylltu’r prif drefi a phorthladdoedd.

Buan y daeth y lein yn boblogaidd gyda phobl yn mynd ar eu gwyliau a allai ddarganfod arfordir a mynyddoedd Gogledd Cymru dipyn haws bellach. Tyfodd trefi’r glannau’n enfawr i fanteisio ar y cynnydd mewn ymwelwyr. Gallwch fwynhau promenadau, piers a gerddi hardd cyfnod Fictoria ac Edward hyd heddiw, yn ogystal â gwneud pethau mwy cyffrous fel mynd i’r arcêds, y ffair a llethr sgïo sych.

Gall gymryd rhyw ddwy awr i deithio ar hyd holl Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru rhwng Shotton (y stesion gyntaf yng Nghymru) neu Gaer, i Gaergybi. Mae’r lein yn dilyn yr arfordir yn bennaf, gan redeg yn gyfochrog â Ffordd y Gogledd ar hyd yr A55.

Yng Nghyffordd Llandudno, mae rheilffordd ddeniadol Llinell Dyffryn Conwy’n cysylltu â’r rheilffordd arfordirol i Ddeganwy a Llandudno i’r gogledd, ac i lawr am Flaenau Ffestiniog i’r de.

Trên yn gadael gorsaf reilffordd.

Gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno

Beth i’w wneud a’i weld

O’r trên, ymlaciwch i fwynhau golygfeydd o draethau bendigedig, trefi glan môr, cestyll ysblennydd a mynyddoedd mawr Gogledd Cymru. Wrth i chi fynd tuag at Afon Menai, daw Pont Britannia eiconig i’r golwg, yn disgwyl i gario’r trên drosodd i Ynys Môn. Cadwch lygad am yr awyrennau rhyfel yn taranu uwchlaw o RAF Fali gerllaw – dyma un o ysgolion hyfforddi hedfan jetiau cyflym y DU ac mae’n ganolfan Chwilio ac Achub hefyd. Os ydych chi chwant mwy na thaith ar drên, daliwch ati i ddarllen i gael mwy o gynghorion am y lleoedd gwahanol y gallwch chi ymweld â nhw.

Gellir cerdded i gestyll y Fflint a Chonwy o orsafoedd rheilffyrdd y trefi hynny – gwych ar gyfer antur gyda’r teulu. Neu gallech adeiladu eich cadarnle ysblennydd eich hun ar un o’n traethau tywodlyd. Does ond angen croesi’r trac o’r orsaf i gyrraedd traethau Pensarn, Bae Colwyn a Phenmaenmawr.

 Adfeilion castell ar ymyl glaswellt
Trên ger castell.

Castell y Fflint a Chastell Conwy

Am brofiad traddodiadol mewn cyrchfan Fictoraidd ewch i'r Rhyl neu Landudno (newid yng Nghyffordd Llandudno). Yn ogystal â physgod a sglodion blasus ger y môr, mae yma amgueddfeydd, orielau, sw môr, tramffyrdd, rheilffyrdd bach ac arcêds i fodloni pob oedran. Mae gan Ddeganwy a Chonwy cyfagos farinas ble gallwch grwydro, cyrsiau golff arfordirol pencampwriaethol i’w chwarae ac eiddo yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’w darganfod.

Mae digonedd ar gyfer y rhai sy’n caru natur hefyd. Mae Gwarchodfa Natur RSPB Conwy’n agos at orsaf Conwy neu gallwch ddringo i entrychion Parc Gwledig y Gogarth yn Llandudno, gweld y geifr enwog, a mwynhau golygfeydd ysblennydd i bob cyfeiriad.

Golwg o lan môr y Rhyl oddi fry.
An aerial view of Llandudno Pier and coastline.

Profiad traddodiadol glan y môr – y Rhyl a Llandudno

Ewch ymhellach i’r gorllewin i fwynhau diwrnod yn llawn diwylliant yn ninas prifysgol Bangor. Dysgwch am hanes yr ardal yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Storiel wedyn mwynhewch ddiwrnod yn crwydro’r orielau, siopau annibynnol a’r caffis. Mae Cadeirlan Bangor yn drawiadol iawn.

Os hoffech anturio ymhellach, daliwch y bws i Borthaethwy i weld Canolfan Dreftadaeth Porthaethwy, coedwigoedd a rhaeadrau Gerddi Cudd Plas Cadnant, neu archebwch Daith RIB gyffrous ar hyd afon Menai. Gall taith arall ar fws fynd â chi i Gastell Penrhyn, ble gallwch ddysgu am hanes y castell neo-Normanaidd ysblennydd hwn sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pont y Borth oddi fry

Pont y Borth gyda Phont Britannia yn y cefndir

Ar ôl croesi i Ynys Môn, rhaid stopio yn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (neu Llanfair PG yn gryno) i gael hunlun ger enw enwog yr orsaf!

Mae Rhosneigr yn bentref glan-môr hyfryd sy’n adnabyddus am draethau euraidd sydd wedi ennill gwobrau, a chwaraeon dŵr. Mae’n ganolbwynt gwych ar gyfer darganfod yr ardal, ac efallai gerdded darnau o Lwybr Arfordir Cymru o gwmpas yr ynys. Mae Clwb Golff Môn gerllaw, a dim ond tafliad carreg sydd i RAF Fali i wylio’r awyrennau. Mae Llyn Maelog yn llecyn gwych i wylio adar a cherdded ymysg bywyd gwyllt.

Trên mewn gorsaf reilffordd.
Arwydd Llanfair PG ar blatfform mewn gorsaf reilffordd.

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch

Pen draw’r lein yw Caergybi ym mhen eithaf gorllewinol Môn. Yn ogystal â bod yn borthladd prysur, Caergybi hefyd yw cartref yr Amgueddfa Forwrol wych a leolir yn hen orsaf y bad achub. Os hoffech ddarganfod mwy, edrychwch ar amserlen y bysiau ac ewch draw i Warchodfa RSPB Clogwyni Ynys Lawd â’i goleudy enwog.

Trên a dynnir gan loco mewn gorsaf gyda’r nos.

Gorsaf reilffordd Caergybi, Ynys Môn

Cerdded a beicio

Mae Llwybr Arfordir Cymru’n dilyn lein y rheilffordd bron yr holl ffordd i Fangor. Gallwch gwblhau sawl darn o’r llwybr gan ddefnyddio’r gwasanaeth trên a / neu fysiau. Mae mynd o Rhyl i Bensarn yn 5 milltir (8km) gwastad ar hyd y glannau sy’n addas i deuluoedd. Gallwch gynnwys mynd o gwmpas Pen y Gogarth wrth fynd o Fae Colwyn i Landudno (5.5 milltir / 9km) a mwynhau golygfeydd godidog ar hyd yr arfordir. Mae mynd o Gonwy i Lanfairfechan yn cynnig dau lwybr – ar hyd yr arfordir (7.5m/12km) neu lwybr hirach, anoddach dros dir uchel i fyny i’r Penmaen Mawr, sy’n eich gwobrwyo â golygfeydd ysgubol dros Ogledd Cymru.

Mae gan wefan Llwybr Arfordir Cymru restr gyfleus o lwybrau cerdded ar hyd arfordir Gogledd Cymru i’ch ysbrydoli. Cyn i chi ddechrau cerdded, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod. Mae gan Adventure Smart UK ddigon o gyngor ar sut i wneud ‘diwrnod da yn well’ ac rydyn ni’n argymell ei ddarllen cyn cynllunio eich diwrnod allan.

 

Trên ar reilffordd ger traeth.

Pensarn

Yn ogystal ceir Llwybr Arfordir Gogledd Cymru gan Sustrans ar gyfer beicwyr – llwybr penodol rhwng Caergybi a Chaer. Mae’n rhannu llwybr â Llwybr Arfordir Cymru ar hyd y rhan fwyaf o’r ffordd. Gallwch fynd â’ch beic ar y trên, ond ein cyngor fyddai archebu ymlaen llaw i sicrhau fod lle iddo. Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i gael gwybodaeth am fynd â beic ar drên.

Mae llwyth o lwybrau beicio i’w darganfod o gwmpas Ynys Môn gan gynnwys Lôn Las Cefni a’r Lôn Las Copr. Llwybrau cylchol yw’r rhain y gallwch ymuno â nhw drwy ddilyn llwybr 5 neu 8 o orsafoedd trên Llanfairpwll, y Fali neu Gaergybi.

Mwy o wybodaeth

Dysgwch am amserlen y trenau, prisiau a gostyngiadau ar gyfer atyniadau ar wefan Trafnidiaeth Cymru. I gael amserlenni bysiau mae Traveline Cymru’n offeryn defnyddiol iawn ar gyfer cynllunio teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gallwch hefyd fynd ar daith gylchol o gwmpas lein y Cambrian a lein Arfordir Gogledd Cymru drwy ddilyn rheilffordd Amwythig i Gaer, lein Dyffryn Conwy a Rheilffordd Ffestiniog. Mae tocyn crwydro Tocyn Cylch Ffestiniog yn eich galluogi i wneud y cyfan mewn un diwrnod. Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch amser y trenau’n ofalus cyn cychwyn, am mai dim ond yn ystod amserlen yr haf y mae’n bosib fel arfer.

Mae sawl dewis tocyn crwydro arall ar gael i ddarganfod y rheilffordd dros ddiwrnod neu fwy. Bydd rhai’n cynnwys teithio ar fws yn ogystal, er mwyn eich helpu i ddarganfod Gogledd Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Trên mewn gorsaf adeg y machlud.

Gorsaf reilffordd Llandudno

Straeon cysylltiedig

Llun o'r pier yn Llandudno

Archwilio Llandudno a Bae Colwyn

Gyda'u traethau, pierau, bywyd gwyllt, celf a chestyll, mae gan Fae Colwyn a Llandudno ddigonedd i’w gynnig i ddiddanu ymwelwyr. Darllenwch yn eich blaen i ddarganfod rhai o’r pethau gorau i’w gwneud yn Llandudno a Bae Colwyn.

Pynciau: