Mynach oedd Dewi Sant a anwyd yn y 6ed ganrif, oedd yn lledaenu neges Cristnogaeth ac yn annog ei ddilynwyr i ofalu am fyd natur. Yn ôl y sôn, cyflawnodd sawl gwyrth, a’r enwocaf ohonynt oedd pan gododd bryncyn o dan ei draed fel bod y tyrfaoedd yn gallu ei glywed yn pregethu. Erbyn y 12fed ganrif, roedd mwy na 60 o eglwysi yng Nghymru wedi cael eu cysegru iddo.

Rydym yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi trwy gymryd rhan mewn gorymdeithiau, cyngherddau a dathliadau eraill, gan wisgo cennin neu gennin Pedr yn falch. Mae ein plant yn mynd i’r ysgol mewn gwisg draddodiadol, Gymreig ac mae eisteddfodau yn cael eu cynnal ym mhob cornel o’r wlad, a thros y byd. 

Hiraeth am gyfaill neu aelod o'r teulu nad ydych wedi'i weld ers stalwm? Beth am anfon anrheg Gŵyl Dewi a dechrau traddodiad newydd? Dyma restr i’ch ysbrydoli i gefnogi cwmniau Cymreig i ddathlu ein nawddsant. 

Blas o Gymru wedi'i ddanfon i'r drws

Un o’r ffyrdd mwyaf traddodiadol o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yw gyda sleisen o fara brith neu bice ar y maen. Mae nifer o gwmnïau ledled Cymru yn pobi ac anfon y danteithion blasus i bobl ar hyd a lled y wlad – a thu hwnt – felly gallwch eu mwynhau heb fod angen codi bys (neu lwy) yn y gegin. 

Pice ar y maen MamGu

Wedi'i sefydlu gan Thea a Becky, mae MamGu Welshcakes yn cynnig 14 blas gwahanol o bice ar y maen, yn amrywio o’r melys i’r sawrus. Maent yn defnyddio cynnyrch lleol, a gellir eu prynu ar-lein a byddant yn cael eu hanfon mewn pecynnau y gellir eu hail-gylchu at eich drws. Mae pob cacen yn cael ei gwneud â llaw, ei choginio ar radell a’i haddurno’n unigol. Mae opsiynau figan a heb glwten hefyd ar gael. 

Cacennau Calon Lân

Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, mae Calon Lân yn defnyddio’r cynhwysion gorau a dulliau pobi traddodiadol i greu pice ar y maen a bara brith cartref o’r safon uchaf i gwsmeriaid. Gellir prynu amrywiaeth o roddion ar-lein, gan gynnwys bocs o bice ar y maen parod, neu becynnau ar gyfer gwneud eich pice neu fara brith eich hunain.

Hathren Brownies a Bakes

Wedi'u pobi gartref mewn ffermdy yng ngorllewin Cymru, a'u pobi â llaw yn ffres, mae Meinir Evans, yr athrawes ran-amser a'r fam i dri o blant sydd y tu ôl i'r busnes, bob amser yn defnyddio cynhwysion o safon uchel. Mae'r ryseitiau y mae Meinir yn eu defnyddio wedi eu trosglwyddo dros genedlaethau, ac mae’r bocs o 24 o bice ar y maen Hathren yn edrych yn anhygoel!

Fabulous

Mae siopau Fabulous, Caerdydd yn un o gwmnïau pice ar y maen mwyaf adnabyddus Cymru. Gellir prynu eu pice poblogaidd ar-lein a threfnu i’w cael wedi eu danfon at eich drws. Gan ddefnyddio rysáit draddodiadol a'r cynhwysion gorau, gan gynnwys menyn a wyau buarth Cymreig, mae'r cacennau wedi'u grilio fesul ychydig ar y tro i sicrhau eu bod yn ffres ac yn flasus.

Mae yna lawer o gwmnïau eraill ledled Cymru yn cynnig gwasanaeth tebyg, gan gynnwys Tan y Castell a mwy - edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i gwmni lleol yn agos atoch chi.

Anrhegion amrywiol i ddathlu

Os nad yw’r bara brith yn tynnu dŵr i’r dannedd, a’r gacen gri yn apelio dim yna beth am anfon anrheg ychydig yn llai traddodiadol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi? Dyma rai awgrymiadau i rheiny sydd am osgoi’r danteithion melys a’r gegin:

Adra

Mae Adra yn arbenigo mewn anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes. Mae popeth wedi'u dylunio gan ddylunwyr o Gymru, neu yn amlygu geiriau a sloganau Cymraeg. Mae'r siop wedi'u lleoli ym mhrydferthwch Parc Glynllifon ger Caernarfon, neu mae modd prynu ar-lein hefyd. Mae casgliad arbennig o anrhegion Dydd Gŵyl Dewi ar y wefan.

Pecyn Bara

Mae gan becynnau bara Melin Talgarth bopeth sydd arnoch ei angen i bobi torth flasus o fara. Gwell byth, wrth archebu un o’u pecynnau, yn ogystal â chael gafael ar gynhwysion i bobi bara gwerth chweil eich hun sydd wedi ennill sawl gwobr ‘Blas o Gymru’, rydych hefyd yn cefnogi’r felin flawd arbennig hon sy’n cael ei phweru gan ddŵr, wedi ei lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae pecynnau amrywiol ar gael, gan gynnwys bara soda neu dorth draddodiadol y Mynydd Du, ac mae cyfarwyddiadau ar gyfer eu pobi yn cael eu darparu. Ffordd wych o roi cynnig ar wneud bara, neu anrheg arbennig i gyfaill sy’n mwynhau pobi.

Fferm Lafant

Mae’r fferm lafant hon sydd wedi ei lleoli yn uchel ym mryniau canolbarth Cymru ger Llanelwedd, yn gartref i lafant sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu hufenau croen a balmau unigryw. Nancy Durham, cyn newyddiadurwr a chyflwynydd radio, sydd erbyn hyn wedi arall-gyfeirio fel ffermwr lafant ers 2002, yw’r perchennog, ac o’r siop fach ar y safle mae Nancy a’r tîm yn anfon rhoddion hyfryd o bob math, wedi eu cynhyrchu o’r lafant sy’n tyfu yno.

Cynyrch Ffarmers' ar ben stol bren wrth y llyn

Fferm Lafant

Atgofion o Gymru

Mae Katherine Jones yn arlunydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn cynnwys blychau cof hardd – sef casgliadau o wrthrychau y mae wedi eu darganfod a'u trysori. Cafodd gwaith Katherine, 'Mamgu's Boxes', sylw ar BBC Radio 4. Mae hi hefyd yn gwneud lluniau trawiadol, manwl iawn o ddinasoedd, anifeiliaid ac adeiladau Cymreig, gan ddefnyddio pen ac inc. Mae hi wedi cwblhau comisiynau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Darlun o Ddinbych-y-Pysgod
Celf natur

Gwaith celf Katherine Jones

Siopau Llyfrau

Mae llyfr yn anrheg arbennig unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae yna gyfoeth o lyfrau sy’n cynnig blas ar hanes, diwylliant a golygfeydd godidog Cymru. O ffuglen a ffeithiol i farddoniaeth a chyfrolau plant, mae gwledd o lyfrau ar gael yn eich siop lyfrau lleol. Cofiwch bod nifer o gyhoeddwyr a siopau annibynnol Cymru yn cynnig gwasanaeth drwy’r post neu gallwch brynu drwy wefan gwales.com ac enwebu siop leol o’ch dewis chi.

Darllen mwyRhai o'r llyfrau gorau am Gymru

Straeon cysylltiedig