Yng Nghymru ers talwm, byddai pobl yn sôn am lygad afon – ei tharddiad. Mae llygad afon Gwy ynghudd yng ngodreon mynydd uchaf y canolbarth, Pumlumon. Mae’n rhaid teithio 134 o filltiroedd i gyrraedd yno o geg yr afon yng Nghas-gwent, lle mae’r lli’n ymuno â Môr Hafren. Dychmygwch antur wythnos o hyd yn crwydro’r llwybr hwnnw. Nawr, dewch i ni ddilyn yr union lwybr.

Yn wreiddiol, mae’r llwybr yn dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr, drwy rywfaint o’n cefn gwlad mwyaf gogoneddus ni. Mae’r trywydd wedyn yn anelu am berfeddion canolbarth Cymru. Fe basiwch chi sawl tref fendigedig ar y glannau, fel Cas-gwent, Trefynwy, y Gelli Gandryll, Llanfair-ym-Muallt a Rhaeadr. Rhwng y rheini, fe gewch chi le i enaid gael llonydd ar hyd ail afon hiraf Cymru. Mae naws y genedl yn y dŵr.

Diwrnod 1

Pontydd yng Nghas-gwent a dilyn y dŵr yn Nhyndyrn a Llandogo

Bore

Mae taith i mewn i’r tir yn gyfle i werthfawrogi dechreuadau pethau, ac mae Cas-gwent yn fan cychwyn gwych yn hyn o beth. Dechreuwch yn Hen Bont Gwy, neu Bont y Dref i’r bobl leol, yng Nghas-gwent. A honno wedi’i chodi yn 1816, mae ganddi bum bwa rhyfeddol o haearn bwrw crwm, hardd, sy’n golygu mai dyma’r bont fwyaf o’i math yn y byd. Mae’n croesi un o’r darnau o afonydd lle ceir y llanw mwyaf yn y byd hefyd, gan gyrraedd Sir Gaerloyw yr ochr draw. Cerddwch i’w chanol, a sylwch pryd fydd y patrwm yn dweud wrthych chi eich bod chi ar fin camu i Loegr.

Golygfa o Gas-gwent yn dangos y bont a'r castell.

Hen Bont Gwy, Cas-gwent, ar lannau Afon Gwy, De Cymru

I fyny’r afon amdani wedyn. Stopiwch yn Nyth yr Eryr ger Llanarfan i gael golygfa anhygoel o’r afon droellog, a chael safbwynt go wahanol ohoni. Mae dau lwybr yn arwain i’r fan honno, y naill yn gofyn am ddringo 365 o risiau serth, a’r llall yn ddringfa fwy hamddenol. Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyfarwyddiadau clir.

Os byddwch chi’n teimlo fymryn yn fwy diog, trowch eich trwynau am Dyndyrn, lle mae’r abaty hynod yn eich aros, ynghyd â chanolfan grefftau Spirit of the Green Man Studio a thafarndai ar lan yr afon. Lle hyfryd i dreulio awr neu ddwy dros ginio. Os oes gennych chi blant, mae caffi’r Old Station Tea Room yn lle arbennig o dda i stopio rhwng mis Ebrill a mis Hydref, gan fod yno le chwarae penigamp. Mae deg erw o goetir yma ar lan yr afon.

Prynhawn

Ar ôl cinio, ewch am dro drwy Dyndyrn, neu anelu ddwy filltir i’r gogledd i Landogo, pentref sydd wedi dod yn fwy enwog fel lleoliad y gyfres Netflix, Sex Education. Mae Rhaeadr Cleddon, sy’n arllwys i’r afon, yn hynod o hardd, ac yn enwedig felly ar ôl tywydd glawog. A chofiwch eich côt law – ond gyda’r golygfeydd hyn, mae’n werth gwlychu ryw fymryn.

Gyda’r nos

Beth am aros yn Nhyndyrn, lle mae dewis da o lety, gan gynnwys bythynnod a gwestai? Mwynhewch y bwyd, y golygfeydd o’r afon, a’r tân clyd yn y Rose & Crown, sy’n croesawu plant a chŵn, neu ewch i’r Boat Inn ym Mhenallt, sy’n edrych dros hen bont reilffordd sy’n croesi afon Gwy.

Y tu mewn i adfeilion abaty gyda bwâu ysblennydd a fframiau ffenestri bwaog.
Yn edrych dros adfeilion abaty gyda dail a niwl yr hydref.

Abaty Tyndyrn, ar lannau afon Gwy, De Cymru

Diwrnod 2

Yn cyfarfod â’r Afon Mynwy yn Nhrefynwy, a’r dolydd gwyrdd yn y Gelli Gandryll

Bore

Pe baech chi’n dilyn llwybr afon Gwy yn gyfan gwbl o fan hyn, byddech chi’n croesi i Loegr am blwc, cyn dod yn ôl i’r gorllewin am Drefynwy. Bydd taith gerdded gynnar o un o feysydd parcio deheuol y dref yn eich arwain i ble mae afon Gwy yn uno, yn go ddramatig, â’r afon leol, sef afon Mynwy. O fan hyn, mae Pont Gwy, a godwyd o dywodfaen yn oes Fictoria, hefyd i’w gweld. Mae honno bellach yn cludo traffig draw i Fforest y Ddena.

Piciwch i fewn i Drefynwy wedyn, hen dref farchnad ogoneddus, am damaid o ginio. Mae caffi’r Marches’ Deli yn gwerthu coffi campus a chinio ysgafn, neu gwnewch fel y bobl leol a bwyta yn yr Whole Earth Café (tudalen Facebook). Mae’r bwyd Thai cartref, gan gynnwys y Pad Thai, yn amheuthun. Mae afon Gwy wedyn yn dolennu yn ôl i Loegr eto, gan ddilyn llwybr hir o amgylch Rhosan ar Wy a Henffordd, cyn anelu i’r gorllewin yn ôl i Gymru. Bydden ni’n argymell mynd yn syth o A i B drwy ddilyn y B4347 a’r B4348 rhwng Trefynwy a’r Gelli Gandryll. Dyma daith wledig gwbl hyfryd sy’n cymryd ryw awr mewn car.

Prynhawn

Dyma gyrraedd y Gelli Gandryll, y dref sy’n enwog yn y pedwar ban am ei siopau llyfrau gwefreiddiol (mae dau ddwsin o’r rheini yma o hyd, a dylai llyfrbryfaid yn sicr neilltuo prynhawn i grwydro). Ond os oes gennych chi fwy o ddiddordeb yn yr afon, mae hon i’w chanfod yng ngogledd y dref, gerllaw dôl ysblennydd o’r enw’r Warren. A honno wedi’i phrynu gan drigolion a phobl fusnes yn y 1970au er budd y gymuned leol, mae’n lle hudolus, ac efallai y gwelwch chi leision y dorlan, cwningod a dyfrgwn yma.

Gyda’r nos

Gwta bum munud o’r afon, fe gewch chi swpera mewn steil yn un o dafarndai niferus y Gelli. Mae’r Swan at Hay, hen dafarn lle byddai’r goetsh fawr yn stopio, bellach yn westy moethus ac yn ddewis da am bryd o fwyd. Drwy ymestyn eich gwddf ryw fymryn yn yr ystafelloedd cefn, fe welwch chi afon Gwy yn llifo heibio islaw.

Pont gerrig hanesyddol yn croesi afon, gyda thai a siopau ar hyd glannau’r afon a chored yn y blaendir.
Afon fas yn troelli drwy goetir gwyrdd trwchus, gyda llwyni a cherrig i’w gweld yn y dŵr o dan awyr gymylog.
Tri o bobl yn pori mewn ffenestr siop lyfrau yn y Gelli Gandryll.

Pont a Phorth Mynwy yn Nhrefynwy, afon Gwy, a phori mewn siop lyfrau yn y Gelli Gandryll

Diwrnod 3

Crwydro afon Gwy ar y dŵr

Drwy’r dydd

Rydyn ni wedi bod ger y dŵr, ond ddim ynddo: mae hynny’n newid heddiw. Yn Aberllynfi, fe ddewch chi ar draws y Black Mountains Activity Centre, lle gallwch chi fentro i ddyfroedd afon Gwy ar daith dywys hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn mewn canŵ yn ystod yr haf. Os bydd hi’n aeaf, beth am roi cynnig ar rafftio dŵr gwyn ar yr afon yn lle hynny?!

Gan gychwyn o’r Clas-ar-wy, mae Way2Go Adventures yn cynnig teithiau tywys hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn mewn caiacau neu ganŵs Canada, neu ar badlfyrddau, i bawb o bob gallu, a’r rheini’n dilyn yr afon am y Gelli Gandryll.  Mae Wye Valley Canoes yn cynnig teithiau hanner diwrnod a diwrnod llawn mewn canŵs, ynghyd â theithiau canŵio sydd wedi’u creu’n unigryw ar eich cyfer chi ac sy’n para sawl diwrnod.

Mae’r darn hwn o’r afon mewn cyflwr dilychwin, wrth i gribau’r Mynydd Du ymestyn o’ch blaen. Mae enwau difyr ar y copaon lleol hefyd, fel Penybegwn a Twmpa (Hay Bluff a Lord Hereford’s Knob yn Saesneg). O fan hyn, mae’n rhaid i chi deithio i lawr yr afon, felly mae’n gyfle i fwynhau’r Gelli o safbwynt gwahanol. Dewis arall ydy taith am y diwrnod i Whitney-on-Wye os oes digon o egni ar ôl yn y coesau.

Gyda’r nos

Rhowch gynnig ar yr Harp Inn, tafarn o’r ddeunawfed ganrif, sydd ag ystafelloedd yn edrych dros yr afon.

Dyn mewn canŵ ar afon lydan, dawel, gyda choed o’i chwmpas.

Canŵio ar Afon Gwy, De Cymru

Diwrnod 4

Celf a cherdded, diwylliant a bwyd yn Llanfair-ym-Muallt

Bore

Ymhellach i fyny’r afon, mae afon Gwy yn cael cwmni mwy swnllyd yr A470. Mae’r afon yn dal yn llydan fan hyn wrth iddi droelli drwy goetir.

Beth am damaid o ginio yn y Cwtch Café? Dyma gaffi teuluol yn Llanfair-ym-Muallt sydd ag ardal i blant ac sy’n enwog am ei gacennau. Dewis arall ydy caffi cymunedol yr Herb Garden yn Llandrindod, sy’n cynnig amrywiaeth dda o brydau gan gynnwys opsiynau figan.

Prynhawn

Treuliwch y prynhawn wedyn yn cerdded. Mae llwybr hyfryd drwy’r coetir yn gadael Erwyd ac yn dringo’n uchel uwchben yr afon. Ychydig filltiroedd i’r dwyrain mae Llyn Llanbwchllyn. Dyma le gwych i weld hwyaid llygaid aur prin, gleision y dorlan a phibyddion, ac i ymgolli ym myd natur ar lannau’r dŵr.  

Gyda’r nos

Ewch draw i Lanfair-ym-Muallt i fwynhau pleserau tref fechan ar ôl ychydig o ddiwrnodau yng nghefn gwlad. Os byddwch chi’n ffodus, efallai y bydd gìg, sioe gomedi neu ffilm boblogaidd ymlaen yng Nghanolfan Gelfyddydau Wyeside, hen fart gwartheg sydd wedi’i droi’n drawiadol yn theatr ac yn sinema. Mae’r enw’n addas tu hwnt hefyd: mae’n sefyll mewn llecyn bendigedig ar lan y dŵr. Mae’r opsiynau llety yn cynnwys gwesty bach Bronwye yn y dref, sy’n westy pedair seren Fictoraidd cwbl hyfryd.

Golygfa o’r awyr o dref gyda phont gerrig fwaog dros afon lydan yn y blaendir.
Adeilad carreg mawr gyda ffenestri addurnedig a thŵr cloc.

Llanfair-ym-Muallt, Powys, Canolbarth Cymru

Diwrnod 5

Brecwast ar y lan, a chreadigrwydd a byd natur yn y Bontnewydd-ar-Wy

Bore

Mae angen trefnu ymlaen llaw ar gyfer rhywfaint o anturiaethau heddiw. Ond yn gyntaf, brecwast o’r iawn ryw yn Llanfair-ym-Muallt. Mae caffi’r Strand ger yr afon yn cynnig plateidiau anferth – i bobl sy’n hoffi cig a llysieuwyr fel ei gilydd.

I fyny’r afon amdani wedyn. Ewch heibio i’r troad am orsaf Builth Road, sydd ar linell Calon Cymru – llwybr trên hyfryd o hir a throellog o Abertawe i’r Amwythig. Stopiwch wedyn yn y Bontnewydd-ar-Wy, lle bydd yr afon yn dechrau dangos ei hochr gelfyddydol go iawn. Fan hyn, mae’r Alex Allpress Pottery, lle cewch chi fwynhau creu eich serameg eich hun, dan lygad craff artist a hyfforddodd yn y Camberwell School of Art – ysgol gelf o fri. Fe gewch chi ginio yma hefyd, ond cofiwch drefnu ymlaen llaw.

Prynhawn

Os ydych chi’n fwy hoff o flodau a choed, trefnwch daith ymlaen llaw drwy Erddi Llysdinam, fymryn i’r gorllewin o afon Gwy. Mae pob math o bethau hyfryd yma: gardd gegin furiog erw o faint, borderi blodau anferth, coeden oren gant a hanner oed, a thai gwydr prydferth. Mae math anarferol o ddaffodil hefyd yn tyfu yma, sef daffodil ‘Coch Penllergaer’ (wedi’i enwi ar ôl y pentref ger Abertawe o lle tarddai’r teulu Llewellyn, teulu gwreiddiol yr ystad). Mae’r lle ar agor ddwywaith y flwyddyn, neu ffoniwch i drefnu apwyntiad a bydd y prif arddwr yn barod iawn i’ch tywys o gwmpas.

Gyda’r nos

Am lety gyda’r nos, mae gan Little Welsh Getaways yn Llanwrthwl fythynnod bach hyfryd y mae modd trefnu i aros ynddyn nhw fesul un, neu gyda’i gilydd pan fyddwch chi mewn grŵp mawr. Mae’r beics hybrid sydd ar gael i’w llogi yma hefyd yn gyfle i fwynhau crwydro ar ddwy olwyn wrth ddynesu at lygad afon Gwy.

Diwrnod 6

Barcutiaid coch ger yr afon, Rhaeadr, a noson olaf ar lan yr afon

Bore

Mae afon Gwy’n culhau erbyn hyn, wrth i ni agosáu at ei tharddiad. Fan hyn, mae’r canolbarth yn dechrau ehangu. Beth am stopio ar fferm deuluol, 200 erw Gigrin, sy’n enwog am ei chanolfan fwydo barcutiaid coch? Mae cannoedd o’r adar yn bwydo yma bob dydd, ac mae cuddfannau yma i’w gwylio, gan gynnwys rhai arbennig i ffotograffwyr. Mae lle picnic braf yma hefyd, yn ogystal â lle coffi a siop anrhegion.

Barcudiaid coch yn hedfan yn yr awyr llwyd o gwmpas coed gwyrdd
Dau farcud coch yn hedfan

Canolfan fwydo barcutiaid coch, Fferm Gigrin, Rhaeadr, Canolbarth Cymru

Prynhawn

Anelwch am Ystad Cwm Elan gerllaw, a rhyfeddu at y cronfeydd dŵr anhygoel, neu ewch am dro o amgylch Rhaeadr. Mae’r celfyddydau’n ffynnu yma, mewn llefydd fel TimeScape, yr amgueddfa a’r oriel, sy’n cynnal arddangosfeydd uchelgeisiol ac yn adrodd hanes y dref yn rhyngweithiol.

Gyda’r nos, paratowch yn hamddenol at eich diwrnod olaf. Beth am swpera yn y Triangle Inn, tafarn o’r unfed ganrif ar bymtheg, fymryn y tu allan i bentref bach Cwmdauddwr? Maen nhw’n croesawu cŵn hefyd. Pan fydd y tywydd yn braf, fe allwch chi eistedd y tu allan gyda’ch pysgod a’ch sglodion, yn edrych ar y dŵr yn llifo’n droellog braf. Mewn hin oerach, swatiwch o flaen y tanllwyth o dân.

Ymhlith y llety da ger yr afon mae bythynnod Nannerth Country Holidays, filltir i fyny’r afon yn Nannerth Fawr. Rydych chi wedi dod yn go bell. Rydych chi bron iawn â chyrraedd. Yfory, mae’n bryd dod o hyd i lygad afon Gwy.

Argae addurnedig gyda bwa mewn cronfa ddŵr.
llun o'r afon yn cael ei dal yn ôl gan yr argae gyda choedwig a mynyddoedd yn y cefndir

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Diwrnod 7

Llangurig

Mae llygad afon Gwy yn eich aros – a hynny’n galw am dipyn o gerdded. Wedi’r cyfan, rhwng Rhaeadr a Llangurig, y pentref uchaf yng Nghymru, mae’r dirwedd yn troi’n gwbl odidog. Bydd copaon anferth yn eich amgylchynu bob ochr wrth i’r afon droelli’n dawel islaw.

Os nad ydych chi’n cerdded at y tarddiad ei hun, ewch am dro bach o gwmpas Gwarchodfa Natur Gilfach. Yn ei milltiroedd olaf, mae afon Gwy yn cwrdd ag afon Marteg. Neu, os oes gennych chi feic ym mŵt y car, rhowch gynnig ar ddarn o Lwybr Beicio Cenedlaethol 81 sy’n rhedeg gerllaw’r dŵr. Dyma un o lwybrau beicio hyfrytaf Cymru.

Ond os byddwch chi eisoes wedi gwisgo’ch esgidiau, mae’n bryd mentro am lethrau Pumlumon, sef gwahanfa ddŵr uchaf Cymru. Fan hyn mae tarddiad afon Hafren, gwta ddwy filltir o darddiad ei chyfnither. Wrth gwrs, byddan nhw’n cwrdd eto maes o law yng Nghas-gwent, wrth iddyn nhw lifo i’r môr yng nghwmni’i gilydd.

 Mae sawl llwybr ar gael at lygad yr afon. Mae un o’r goreuon yn dechrau mewn maes parcio sydd yng ngofal fferm yn Eisteddfa Gurig (chwiliwch am yr arwydd ffordd ar y chwith wrth i chi gyrraedd o Langurig). Mae’r llwybr cerdded pum milltir hwn yn dringo 350 o fetrau o’i fan cychwyn, ac mae’r holl fanylion ar gael ar wefan Wye Explorer.  Ym mhen y daith, chwiliwch am bant yn y ddaear sy’n ddim mwy na maint het gron, yn ôl y wefan. Dyma lygad yr afon ysblennydd sydd wedi’ch tywys drwy gydol yr wythnos. Dyma chi wedi cyrraedd ei tharddiad, filltiroedd lawer o’i cheg llydan, byrlymus.

 Mae’n ffordd arbennig iawn o brofi byd natur. Ac os oes gennych chi wythnos arall yn sbâr, beth am ymlwybro yn ôl yr holl ffordd at y môr?

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig