Ynglŷn â rheilffordd Calon Cymru

Ers mwy na 150 o flynyddoedd, mae’r lein wedi ymdroelli trwy gefn gwlad gwyrddlas Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n cysylltu Swydd Amwythig â De Cymru, gan fynd trwy drefi sba, pentrefi gwledig anghysbell ac ardaloedd llawn bywyd gwyllt.

Ar hyn o bryd, mae’r trenau’n teithio hyd at bedair gwaith y dydd ar hyd rheilffordd un trac. Peidiwch â disgwyl taith gyflym. Mae’r siwrnai rhwng Tref-y-clawdd (yr orsaf gyntaf yng Nghymru) ac Abertawe yn cymryd oddeutu tair awr, felly cewch ddigon o amser i eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau’r golygfeydd. Ceir 29 o orsafoedd ar hyd y llwybr ac mae nifer ohonynt wedi cael eu ‘mabwysiadu’ gan wirfoddolwyr brwd sy’n byw yn y cymunedau lleol. Maen nhw’n ymfalchïo yn eu rheilffordd ‘nhw’, ac mae’r balchder hwn i’w weld yn amlwg yn yr arddangosfeydd blodau lliwgar a’r gorsafoedd taclus.

Pethau i’w gweld a’u gwneud

Mae’r lein yn dilyn llwybr troellog trwy fryniau gwyrdd a hardd Powys, cyn mynd i Sir Gaerfyrddin i gyfeiriad yr arfordir. Mae’r rheilffordd yn mynd trwy dwnnel dan fynydd Pen-y-fâl, gan groesi’r dyffryn dros draphont ysblennydd Cynghordy, cyn cyrraedd Llanymddyfri a Llandeilo yn Nyffryn Tywi. O’r fan honno, mae’n mynd i gyfeiriad Rhydaman a Phontarddulais, ac yna ar hyd aber llydan Afon Llwchwr i Lanelli ac Abertawe.

O’r gorsafoedd, gellir ymweld yn rhwydd â safleoedd treftadaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, yn ogystal â mynd am dro i drefi marchnad unigryw a lliwgar. Ers talwm, roedd y Fictoriaid yn dotio ar fynd i drefi sba hardd i gael gwyliau ymlaciol. Cewch ddewis o blith pedair tref o’r fath ar hyd Lein Calon Cymru, gyda phob un yn meddu ar ei chymeriad a’i hatyniadau ei hun.

Trên un cerbyd yn teithio ar draphont hir wedi’i gwneud o gerrig.

Trên yn mynd dros Draphont Cynghordy gyda gorllewin Bannau Brycheiniog yn y pellter

Diwrnodau allan yn crwydro trefi a phentrefi

Mae Trefyclawdd, sef tref farchnad draddodiadol, yn fan lle mae nifer o lwybrau cerdded yn cyfarfod – Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Glyndŵr a Llwybr Lein Calon Cymru. Beth am ddarganfod hanes yr ardal yn Amgueddfa Tref-y-clawdd, neu ddilyn llwybr hanes y dref. Yng Nghanolfan Clawdd Offa cewch wybodaeth am darddiad Clawdd Offa a’r Llwybr. Neu beth am ddysgu rhywfaint am y gofod yng Nghanolfan Spaceguard, sydd wedi’i lleoli rhyw ddwy filltir o’r dref.

Tŵr cloc yn sgwâr y dref.
Trên mewn gorsaf reilffordd anghysbell.
Stryd yn llawn o siopau gyda baneri Cymru yn cyhwfan.

Tref-y-clawdd, Powys

Beth am bicio i Landrindod i gael profiad o dref sba Fictoraidd. Mwynhewch ddiwrnod yn troedio llwybr hanes y dref, yn ymweld ag Amgueddfa Sir Faesyfed a’r Amgueddfa Feicio, ac yn padlfyrddio ar y llyn. Yna, beth am ymlacio yn Sba gwesty Fictoraidd y Metropole. Mae Canolfan Chwarae Quackers yn y Bontnewydd ar Wy yn berffaith i ddiddanu’r plant.

Os ydych chi’n teimlo’n egnïol, beth am gerdded Llwybr Lein Calon Cymru i Ben-y-bont. Yno, fe ddewch o hyd i Siop Thomas – sef siop wlân ac amgueddfa’n ymwneud â’r oes a fu.

Arwyddbost llwybr cerdded wrth ymyl bysedd-y-cŵn porffor gyda cherddwyr yn y pellter.
Criw o gerddwyr ar lwybr llechwedd glaswelltog gydag eglwys wedi’i gwneud o gerrig llwyd yn y pellter.

Llwybr Lein Calon Cymru rhwng Llandrindod a Phen-y-bont, ac Eglwys Sant Mihangel, Cefnllys

Rywfaint ymhellach i lawr y lein ceir gorsaf Ffordd Llanfair-ym-Muallt – ond mae hi filltir neu ddwy o Lanfair-ym-Muallt ei hun, felly efallai y bydd yn rhaid ichi gael tacsi i fynd i’r dref. Mae Llanfair-ym-Muallt yn enwog am y Sioe Amaethyddol Frenhinol a gynhelir yno bob Gorffennaf, ond mae yna ddigonedd o bethau i’w gwneud yno drwy gydol y flwyddyn. Tref sba fechan yw Llangamarch, ac erbyn hyn mae hi’n boblogaidd ar gyfer pysgota a gweithgareddau awyr agored. O’r fan hon, gall cerddwyr, marchogion a beicwyr deithio ar hyd Llwybr Epynt.

Llanfair-ym-Muallt o'r awyr. Hen bont garreg yn croesi'r afon sydd a choed gwyrdd pob ochr iddi.
Dau o bobl yn eistedd mewn cadeiriau picnic o flaen pont gerrig sy’n croesi afon lydan.
Tŷ gyda murlun wedi’i baentio ar ei ochr.

Llanfair-ym-Muallt, Powys

Mae tref Llanwrtyd yn enwog am y chwaraeon anarferol a gynhelir yno drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys Pencampwriaeth Cors-snorclo’r Byd. Mae yna restr enfawr o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, ond byddai’n werth ichi ymweld â’r dref dim ond er mwyn mynd i fragdy’r Neuadd Arms ac i Ganolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Cyffiniau.

Dyn yn cors-snorclo.
Tu allan Ganolfan Dreftadaeth Llanwrtyd.

Cors-snorclo a Chanolfan Dreftadaeth Llanwrtyd, Powys

Ar ôl ichi gyrraedd canol tref Llanymddyfri, fe ddewch o hyd i dai tafarnau croesawgar a siopau annibynnol sy’n llawn o gynnyrch lleol. Mae Amgueddfa Llanymddyfri a Phorth Ymwelwyr yn lle gwych i ymweld ag ef, ac mae Castell Llanymddyfri o fewn pellter cerdded byr hefyd.

Mae Llandeilo yn baradwys i bawb sy’n hoff o siopa. Mae canol y dref o fewn pellter cerdded byr i’r orsaf. Treuliwch rai oriau braf yn mynd o amgylch siopau annibynnol gan ddarganfod crefftau a wnaed â llaw, orielau, hen greiriau a dillad a wnaed gan gynllunwyr enwog. Beth am brynu cynnyrch lleol yn y siopau bwydydd a’r siopau cig bendigedig – ac yna, mynd am bicnic i Barc a Chastell Dinefwr.

Rhes o dai wedi’u paentio â lliwiau llachar
Stryd gul yn llawn o siopau lliwgar.
Sgwâr y dref lle gwelir adeiladau lliwgar, fflagiau a rhubanau, a ffownten farmor.

Tai a siopau lliwgar yng nghanol Llandeilo a Llanymddyfri

Mae rhai o’r golygfeydd gorau ar y lein i’w gweld ar hyd aber Afon Llwchwr, sy’n llawn o fywyd gwyllt. Gallwch adael y trên yng ngorsafoedd Pontarddulais neu Bynie a cherdded ar hyd Llwybr Lein Calon Cymru – naill ai ar hyd llwybr y distyll neu lwybr y llanw mawr, gan ddibynnu ar y llanw.

Mae’r lein yn gwyro i’r gorllewin i gyfeiriad Llanelli, lle mae’r trên yn stopio. Ac yna, mae’n mynd am yn ôl tua’r dwyrain ar hyd y cledrau i gyfeiriad Abertawe.

Ar ôl ichi gyrraedd Llanelli, ewch i Ganolfan Gwlyptiroedd Llanelli – mae yna ddigonedd o bethau y gall yr holl deulu eu mwynhau. Os yw’n well gennych roi gorffwys i’ch coesau, mae plasty Sioraidd adferedig Plas Llanelly House yn cynnig teithiau, ynghyd â bwydydd blasus yn y Bistro. Nid nepell o’r fan honno, mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Howard yn cynnwys toreth o wybodaeth am hanes diwydiannol Llanelli, ynghyd ag arddangosfa wych o gelfyddydau cain a chrochenwaith Llanelli.

Mae Lein Calon Cymru a Llwybr Arfordir Cymru yn cyfarfod yn y fan hon. Mae Parc Arfordir y Mileniwm yn barc arbennig sy’n addas i deuluoedd, ac mae’n berffaith ar gyfer beicio a cherdded i archwilio mwy ar yr arfordir ysblennydd.

Mae’r stop olaf yn Abertawe, ac yno gallwch gael trenau eraill i Gaerdydd neu i Orllewin Cymru. A chofiwch grwydro traeth bendigedig Abertawe, ynghyd â llu o amgueddfeydd ac orielau yn y ddinas brifysgol. 

Awyrlun o lein a llwybr troed ar hyd afon.

Llwybr Arfordir y Mileniwm i’r gorllewin o Lanelli

Gwyliau cerdded

Os ydych chi’n gwirioni ar gerdded, mae yna wledd o’ch blaen. Mae llwybr pellter hir Lein Calon Cymru yn dilyn y lein yn fras. Mae modd ichi gyrraedd y llwybr o’r rhan fwyaf o’r gorsafoedd. Mae rhannau o’r llwybr yn dilyn llwybrau troed a thraciau mynydd, felly cewch olygfeydd godidog o Ddyffryn Tywi, Bannau Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog. Bydd y llwybr yn eich tywys trwy bentrefi hynafol, yn cynnwys Myddfai, a hefyd trwy safleoedd treftadaeth yn cynnwys castell anhygoel Carreg Cennen. Os penderfynwch gerdded ar hyd y llwybr i gyd, byddwch angen tua 10 diwrnod.

Llun oddi fry o adfail castell yng nghanol cefn gwlad gwyrdd.
Afon gul yn llifo trwy goed.

Castell Carreg Cennen ac Afon Tywi yn Nolauhirion

Am ran helaeth o’r siwrne, bydd y llwybr yn eich tywys trwy gefn gwlad anghysbell. Felly, os nad ydych chi awydd cerdded ar eich pen eich hun, ystyriwch ymuno â grwpiau cerdded lleol er mwyn mynd ar daith wedi’i threfnu. Mae yna restr ‘Ramble and Scramble’ ddefnyddiol ar gael sy’n cynnwys teithiau cerdded hunandywysedig ar gyfer y teulu.

Hefyd, mae’r llwybr yn cysylltu â llwybrau pellter hir eraill: Llwybr Swydd Amwythig, Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Glyndŵr, Llwybr Dyffryn Gwy, Llwybr Cambria, Llwybr y Bannau a Llwybr Arfordir Cymru.

Criw o gerddwyr ar fryn yn edrych i lawr i gyfeiriad aber.

Cerddwyr ar Lwybr Lein Calon Cymru ar y Graig Fawr gyda Phontarddulais a Gŵyr yn y pellter

Grwpiau cerdded

Mae yna nifer o grwpiau Cerddwyr yn Sir Gaerfyrddin a Phowys. Maen nhw’n cyfarfod yn rheolaidd i fynd ar deithiau tywysedig ar hyd Llwybr Lein Calon Cymru. Mae grŵp Cerddwyr y Rheilffordd yn cynnig teithiau tywysedig sy’n cychwyn o orsafoedd rheilffyrdd yng Nghanolbarth Cymru a’r Gororau fwy neu lai bob dydd Sadwrn.

Gwyliau beicio

Ar wefan Sustrans, cewch fanylion am lwybrau ffyrdd sy’n cysylltu â gorsafoedd, yn cynnwys Llwybr 8 (llwybr pellter hir) a Llwybr Cylchol enfawr Maesyfed sy’n mynd trwy Landrindod.

Mae Sir Gaerfyrddin yn ddewis gwych ar gyfer gwyliau beicio. Beth am aros yn Llanymddyfri neu yn Llanelli a defnyddio’r trên i gyrraedd llwybrau arfordirol sy’n addas i deuluoedd a llwybrau cylchol trawiadol sy’n archwilio cestyll a diwylliant.

Gallwch fynd â beiciau ar y trên, ond byddai’n syniad da ichi wneud trefniadau ymlaen llaw ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Mae gan Adventure Smart UK ddigonedd o gyngor ynglŷn â ‘sut i wneud diwrnod da yn well’, ac rydym yn argymell eich bod yn pori trwy’r wefan cyn cynllunio eich diwrnod allan.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gallwch ddod o hyd i amseroedd trenau, ynghyd â phrynu tocynnau, ar wefan Trafnidiaeth Cymru. Mae Traveline Cymru yn wefan hwylus i’w defnyddio i gynllunio eich teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Rhaid ichi ofyn yn benodol am gael stopio yn nifer o’r gorsafoedd. Os byddwch eisiau gadael y trên yn un o’r gorsafoedd hyn, gofynnwch i’r Archwiliwr Tocynnau ar ôl ichi fynd ar y trên, er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y trên yn stopio ichi.

Os dewiswch deithio ar hyd yr holl lein dros ddiwrnod neu ddau, bydd tocyn Cylch Calon Cymru yn caniatáu ichi deithio ar lwybr cylchol rhwng Amwythig, Abertawe, Caerdydd ac i fyny lein y gororau. Dim ond ar drenau Trafnidiaeth Cymru y bydd y tocyn hwn yn ddilys, felly edrychwch yn ofalus ar amseroedd y trenau.

Criw o gerddwyr ar fryn gyda thyrbinau gwynt yn y cefndir.

Cerddwyr ar Lwybr Rheilffordd Calon Cymru yn croesi’r Graig Fawr, Abertawe

Straeon cysylltiedig