Mae coedwigoedd glaw mwyaf y byd – y rhai enwog – wedi’u clystyru yn y trofannau. Ond oeddech chi'n gwybod bod coedwigoedd glaw i’w cael mewn lleoedd oerach hefyd? Hyd yn oed yng Nghymru. Yma, rydyn ni'n eu galw'n Fforestydd Glaw Celtaidd. Maen nhw’n brin, yn ddirgel ac yn swynol, dyma drysorau di-glod ein tirwedd wledig.

Yn eu ffordd eu hunain, mae coedwigoedd glaw tymherus yr un mor gymhleth ac egsotig â'u cefndryd trofannol. Mae cerdded trwy Goedwig Law Geltaidd fel crwydro yn ôl mewn amser. Mae coed derw, bedw, cyll ac ynn brodorol yn cynnig cysgod. Mae cennau a mwsoglau hardd sy'n tyfu'n araf yn gorchuddio eu boncyffion a'u canghennau, a ffyngau'n sbecian drwy'r planhigion wrth eu traed. Mae llawer i’w ddarganfod, felly mae’n werth cerdded yn araf, ac edrych yn ofalus.

Nid dim ond y cyfoeth o bethau i’w gweld sy’n gwneud y mannau gwyrdd hyn yn arbennig. Cofiwch am yr hyn rydych chi'n ei arogli, ei glywed a'i deimlo hefyd. Arogl priddlyd rhedyn gwlith, er enghraifft. Bwrlwm rhaeadrau. Syndod a chwibanau adar y coetir. Crensian meddal dail llaith a brigau dan draed. A'r ymdeimlad bod yr amgylchoedd heddychlon hyn wedi bod yn cael eu creu ers canrifoedd.

Mae Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru wedi'u lleoli'n bennaf mewn dyffrynnoedd afonydd serth yng nghefn gwlad Gwynedd, Ceredigion a Phowys. Wrth ymweld, rydyn ni’n eu trin gyda'r parch mwyaf, er mwyn osgoi tarfu ar y bywyd gwyllt neu niweidio planhigion bregus. Barod i fynd amdani? Dyma rai i roi cynnig arnynt.

Coed Llechwedd Einion

Bwlch Corog, i'r de o Laspwll, Powys

Mae coetir hynafol Llechwedd Einion yn eiddo i Goed Cadw (Ymddiriedolaeth Coetiroedd Cymru) ac yn cael ei reoli gan Coetir Anian, elusen gadwraeth leol. Yn awyddus i ddenu ymwelwyr nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â byd natur, maent yn annog gwersylla heb olion, gwylio bywyd gwyllt a cherdded, ac yn trefnu gweithgareddau awyr agored hwyliog i blant. 'Mae pob Coedwig Law Geltaidd yn werthfawr', meddai Joe Hope, ymddiriedolwr Coetir Anian, ffermwr, ecolegydd a thywysydd natur gyda Celtic Rainforest Experience, 'ond mae hon yn arbennig iawn.'

Arhoswch yn: Llechwedd Einion Cottages, Cefn Coch Farm

Coeden wedi’i gorchuddio â chen gwyrdd.
Coeden wedi’i gorchuddio â mwsogl.

Safle Coedwig Law Geltaidd yng Nghoetir Anian, Bwlch Corog, Machynlleth

Coed Cwm Einion

I’r dwyrain o Ffwrnais, Ceredigion

Mae coetir Coed Cwm Einion yn Ardal Cadwraeth Arbennig o fewn Biosffer Dyfi (Gwarchodfa UNESCO). Mae’n cael ei dyfrio gan afon fyrlymus Einion, ac mae’n fan problemus o ran bioamrywiaeth. ‘Mae’n gartref i 177 o rywogaethau o gen (gan gynnwys y Parmotrema robustum prin, sy’n edrych fel croes rhwng gwymon a letys sydd wedi’i adael yn rhy hir yng ngwaelod yr oergell) a mwy na 150 o rywogaethau o fwsogl a llysiau’r afu,’ meddai Matthew Yeomans, awdur Return to My Trees: Notes from the Welsh Woodlands.

Arhoswch yn: Ynys Hir, Tynrhelyg Holiday Cottages neu The Wynnstay ym Machynlleth.

Darllen mwy: Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt lleoliad UNESCO Biosffer Dyfi

Coed Felenrhyd a Llennyrch

I’r de-orllewin o Faentwrog, Eryri

‘Coetir hynafol yw un o’n cynefinoedd mwyaf bioamrywiol, ac eto mae’n brin iawn: dim ond 2% o’r DU’, meddai Rheolwr Ystâd Coed Cadw, Kylie Jones Mattock. Mae Coed Felenrhyd a Llennyrch, fel yr holl goedwigoedd sydd yng ngofal Coed Cadw, ar agor i'r cyhoedd am ddim. Mae’n gyfoethog mewn rhywogaethau coedwig law tymherus, ac mae'n fan hyfryd. Mae cennau a llysiau'r afu yn ffynnu yma, yn enwedig yng Ngheunant Llennyrch, ceunant serth Afon gyflym Prysor.

Arhoswch yn: The Oakeley Arms.

Cen a mwsogl yn tyfu ar graig.
 Arwydd pren yn y fynedfa i goetir brodorol.

Cen a mwsogl yn tyfu yng Nghoed Felenrhyd a Llennyrch, Maentwrog

Coetir hynafol yw un o’n cynefinoedd mwyaf bioamrywiol, ac eto mae’n brin iawn: dim ond 2% o’r DU”

Coed Cymerau Isaf

I’r gogledd-orllewin o Lan Ffestiniog, Eryri

Chwilio am goedwig law Gymreig wirioneddol ffrwythlon, gyda choed anferth a charpedi o fwsogl? Eryri yw'r lle. Yn ôl data’r Swyddfa Dywydd a gasglwyd gan yr ecolegydd Dr Chris Ellis ac a gyflwynwyd yn llyfr Guy Shrubsole The Lost Rainforests of Britain, mae ganddi hinsawdd ddelfrydol ar gyfer llystyfiant coediog toreithiog. Yng Nghoed Cymerau Isaf, mae llwybr cylchol milltir (1.6km) ag arwyddbyst yn eich gwahodd i grwydro. Mae blodau'r gwynt yn ffynnu yma, a thelor y coed yn canu yn y coed. Ym mis Mai, tymor clychau'r gog, mae'n hyfryd.

Arhoswch yn: Treks Bunkhouse.

Llwybr trwy goetiroedd yn llawn clychau’r gog
Blodyn coetir â phetalau pinc
Llwybr wedi'i leinio â rhedyn trwy goetiroedd.

Clychau’r gog, Blodau’r Gwynt a llwybrau coetir yng Nghoed Cymerau Isaf, Rhyd y Sarn, Blaenau Ffestiniog

Coed Ganllwyd

Ystâd Dolmelynllyn, Eryri

Yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae Coed Ganllwyd wedi bod yn goedwig ers canrifoedd. Mae bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gyda chennau prin fel llabed yr ysgyfaint yn tyfu ar ei goed derw mes digoes. Mae llwybr cylchol dwy filltir (3.2km) yn arwain ar hyd afon fach fywiog Ganllwyd, Afon Gamlan, at raeadr, Rhaeadr Ddu. Unwaith y byddwch wedi llenwi eich ysgyfaint ag aer llawn osôn, cerddwch yn ddyfnach i'r cysgod. Os ydych chi’n lwcus, efallai y gwelwch draciau bele'r coed neu weld sgrech y coed yn gwibio heibio.

Arhoswch yn: Mostyn Cottage.

Coed Cadair

I’r de o Ddolgellau, Eryri

Wrth gerdded ar hyd Lwybr Minffordd i gopa Cader Idris, mae amgylchoedd godidog i'w mwynhau, o'r cychwyn cyntaf. Mae’r trac o faes parcio Dôl Idris i ganolfan ymwelwyr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris yn mynd â chi’n syth i goedwig law fach dwt. Am yr hanner milltir nesaf (0.8km) neu fwy, byddwch yn dringo ceunant serth, creigiog, gyda choed mwsoglyd o’ch cwmpas a sŵn cerddorol rhaeadrau Nant Cadair yn eich clustiau. Eisiau ei weld ymlaen llaw? Gallwch ddilyn y llwybr ar Google Street View.

Arhoswch yn: Gwesty Minffordd Hotel.

Coetir brodorol ar lethr bryn.

Coetir Anian, Bwlch Corog, Machynlleth

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Os yw'r coetiroedd yn eich ysbrydoli a'ch bod eisiau helpu i'w cadw, mae gan Coed Cadw a Choedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru gyfleoedd i wirfoddoli.
  • Darganfyddwch fwy am ein cennau coedwigoedd glaw rhyfeddol trwy wefan Plantlife.
  • Mae gan Adventure Smart Cymru ddigon o gyngor ar sut i ‘wneud diwrnod da yn well’, ac rydym yn argymell eich bod yn ei ddarllen cyn cynllunio eich diwrnodau allan.
  • Mae Traveline Cymru yn gynllunydd taith trafnidiaeth gyhoeddus defnyddiol.
  • Mae nifer o apiau a mapiau ar-lein lle gallwch ddod o hyd i leoliad pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru. Mae gan sawl eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled Cymru bwyntiau gwefru cerbydau trydan.
  • Helpwch Cymru i fod y Genedl Ail-lenwi gyntaf trwy ddefnyddio Pwyntiau Ail-lenwi cyfagos i lenwi'ch potel ddŵr cyn i chi gychwyn ar eich taith. Dysgwch fwy, gan gynnwys sut i lawrlwytho’r ap Refill am ddim i ddod o hyd i’ch man ail-lenwi agosaf ar wefan Refill Cymru.

 

Straeon cysylltiedig