Sioe Frenhinol Cymru yw un o brif ddigwyddiadau Cymru ac mae’n denu dros 200,000 o ymwelwyr i ganolbarth Cymru o bob cwr o'r byd. Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau dangos da byw, â chystadleuwyr yn teithio o fannau pell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb, diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous.
Digon o Sioe!
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig ffenestr wych ar gyfer ffermio yng Nghymru, a dyma un o uchafbwynt calendr digwyddiadau amaethyddol Prydain.
Mae miloedd o gystadlaethau’n cael eu cynnal dros y pedwar diwrnod, gyda chystadleuwyr yn teithio o bell ac agos i arddangos anifeiliaid. Mae 7,000 o dda byw’n cael eu dangos yn y Prif Gylch, yn ogystal â'r Cylchoedd Gwartheg, Defaid, Moch a Geifr, heb anghofio Cylch y Ceffylau.
Mae cystadlaethau eraill yn amrywio o dorri coed i wneud mêl, ac o bobi bara brith i dynnu rhaff. Mae'r arddangosfeydd cneifio defaid a'r treialon cŵn defaid yn hynod boblogaidd gydag ymwelwyr... bron mor boblogaidd â'r ffrwythau a'r llysiau anferthol sy’n cael eu tyfu ar gyfer y cystadlaethau garddio.
Sioe o fewn sioe
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig digon i ddidanu'r teulu cyfan, gyda llond gwlad o sioeau o fewn y sioe.
Ymhlith uchafbwyntiau'r Prif Gylch eleni roedd Sioe Campau Beic Cwad Paul Hannam, Arddangosfa Parasiwt yr Awyrlu Brenhinol Falcons, arddangosiadau cŵn defaid a hwyaid a Band Catrodol y Cymry Brenhinol - un o'r ychydig iawn o fandiau pres o fewn Cerddoriaeth Fyddin Prydain, gan ddenu chwaraewyr offerynnau o dreftadaeth a diwylliant band pres cyfoethog Cymru i'w rhengoedd.
Gwledd Gymreig
Mae'r Neuadd Fwyd yn atyniad y mae'n rhaid ymweld â hi i gael blas ar uchafbwyntiau bwyd Cymru. Gall ymwelwyr samplu a phrynu amrywiaeth enfawr o gynnyrch bwyd a diod Cymreig, llawer ohono wedi ennill gwobrau. Ymhlith y cwrw, y gwinoedd a'r gwirodydd Cymreig sydd ar gael mae bragdy Bluestone a distyllfa Aberfalls. Am damaid i aros pryd, beth am roi cynnig ar gig eidion Cymreig jerky o Trailhead neu Caws Teifi.
Mae masnachwyr bwyd stryd hefyd wedi’u gwasgaru yma ac acw o amgylch y safle felly mae'n ddigon hawdd dod o hyd i damaid i'w fwyta a darganfod cornel dawel i gael eich cinio.
Siopa'n y Sioe
Mae stondinau'n gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau yn y Sioe, o beiriannau amaethyddol ac offer garddio i grefftau a dillad. Mae busnesau annibynnol bach sy'n gwerthu cynhyrchion crefftus wedi'u gwneud â llaw yn eistedd ochr yn ochr â sefydliadau rhyngwladol mawr.
Cynllunio eich taith
Bydd y Sioe Fawr yn cael ei gynnal bob blwyddyn ym mis Gorffennaf. Mae'r dyddiadau a'r tocynnau ar gael o wefan Sioe Frenhinol Cymru. Mae tocynnau cynnar ar gael tan fis Mehefin ac mae tocynnau i blant dan 5 oed am ddim.
Mae maes y sioe wedi'i leoli lle mae'r A470 a'r A483 yn croesi yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt ac mae arwyddion da i'r digwyddiad o bob cyfeiriad. Mae bysiau parcio a theithio am ddim yn rhedeg i ac o faes y sioe o 7.30am tan 9.30pm bob dydd.
Yr orsaf drên agosaf yw Heol Llanfair-ym-Muallt, ychydig dros filltir i ffwrdd o faes y sioe. Neu neidiwch ar lwybr bws rheolaidd T4 rhwng y Drenewydd a Chaerdydd gan ei fod yn aros yn Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd, dim ond taith gerdded fer i faes y sioe.
Llefydd i aros
Meddwl aros am yr wythnos? Mae gan Lanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau rai lletyau gwely a brecwast, gwestai, bythynnod, tai llety a gwersylloedd gwych yn rhai o ardaloedd cefn gwlad mwyaf godidog a thrawiadol Cymru.
Lawrlwythwch ap Sioe Frenhinol Cymru am yr holl wybodaeth ddiweddaraf ac i greu eich amserlen bersonol eich hun.
Sioeau llai y Sioe Fawr
Os na allwch gyrraedd Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf peidiwch â phoeni, mae maes sioe Llanelwedd a'r tîm sydd y tu ôl i drefnu'r prif sioe hefyd yn cynnal dwy ffair amaethyddol arall yn ystod y flwyddyn - yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad a'r Ffair Aeaf.
Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ym mis Mai yn ddathliad o fywyd gwledig ac yn arddangos gwir amrywiaeth cefn gwlad Cymru, a'r Ffair Aeaf ym mis Tachwedd yw un o'r sioeau stoc gorau yn Ewrop, ac mae’n gyfle gwych i wneud ychydig o siopa Nadolig.
Sioeau gwledig rhanbarthol
Gydag 80% o dir Cymru yn cael ei reoli ar gyfer ffermio mewn rhyw ffordd, nid yw'n syndod bod sioeau amaethyddol yn chwarae rhan fawr yng nghalendr digwyddiadau Cymru. Gellir gweld y gorau o ffermio rhanbarthol mewn sioeau gwledig lleol ym mhob cwr o’r wlad.