Wythnos llawn cyffro a digwyddiadau yn ystod yr Ŵyl Para Chwaraeon, Abertawe. 

Mae’r bêl gan y canolwr. Mae’n pasio i’r asgellwr. Mae’r asgellwr yn plymio i lawr y cae, yn osgoi un, dwy, tair tacl, ac yna crash! Mae metel yn taro yn erbyn metel wrth i’r chwaraewr gael ei hyrddio i’r llawr.

Yn llawn egni ac o bosibl yn hyd yn oed fwy ffyrnig na’r gêm ar y glaswellt, mae rygbi cadair olwyn yn ddim ond un o’r danteithion sydd ar gynnig i wylwyr yn ystod Gŵyl Para Chwaraeon wythnos o hyd Abertawe, lle daw athletwyr o Gymru a thu hwnt i frwydro yn erbyn ei gilydd ar drac, cae a chwrt.

Ond ar ben hynny, mae amcan yr ŵyl i ysbrydoli pobl ifanc a meithrin cymryd rhan yr un mor bwysig. Ac felly mae nifer o gyfleoedd i bob ymwelydd ymroi i’r ŵyl, a chyfle i gyfarfod nifer o bara-athletwyr sy’n gallu tystio i bŵer chwaraeon fel ffordd o drawsnewid bywydau.

Gwledd o chwaraeon

Bellach yn ddyddiad newydd i’r calendr chwaraeon yng Nghymru, mae’r digwyddiad blynyddol yn cael ei gynnal dros wythnos yn gynnar yn yr haf. Mae’n cynnig cymysgedd o ornestau cystadleuol a gwersi i ddechreuwyr, i gyd yn digwydd o amgylch dinas Abertawe, o’r cae criced hanesyddol i’r iard longau o’r 19eg ganrif. 

Mae diwrnodau cyntaf yr ŵyl, a gynhaliwyd yn llwyddiannus am y tro cyntaf yn ystod haf 2022, yn ymroi i sesiynau blasu ar dros 20 math o chwaraeon. Yn amrywio o golff i griced i karate, mae hyfforddwyr proffesiynol wrth law i ddarparu cymorth ac anogaeth i unrhyw newydd-ddyfodiaid nerfus. Mae’r hyfforddwyr hyn hefyd yn cadw golwg am sêr y dyfodol – fel Beth Munro, a aeth o fynychu dosbarth dechreuwyr taekwondo mewn digwyddiad tebyg yng ngogledd Cymru i fod yn enillydd medal Para-olympaidd yn y gamp o fewn 18 mis!

Dyn hŷn yn dal hwla hŵp.
Dynes mewn cadair olwyn yn dal pêl.
Dyn ifanc mewn cadair olwyn yn chwarae tenis.

Sesiynau blasu yn Ngŵyl Para Chwaraeon 2022, Abertawe

Yna mae’n bryd i’r athletwyr proffesiynol gael llwyfan, â thwrnamentau bach yn cael eu cynnal mewn chwaraeon fel rygbi saith bob ochr i bobl fyddar, a rhwyfo tu mewn, ochr yn ochr â nifer o rasys dygnwch addas i’r mynychwyr sydd yno i wylio. Yn 2022, roedd hyn yn cynnwys cymal o Gyfres Para Triathlon y Byd, a ddaeth â chystadleuwyr elît o bob cwr o’r byd i ail ddinas Cymru.

Grŵp o bobl mewn ras nofio dŵr agored.
Tri dyn a bachgen bach â medalau ar bodiwm.

Cyfres Para Triathlon y Byd 2022, Abertawe

Sesiynau blasu all newid eich bywyd

Er mwyn gweld cymaint o effaith y gall sesiynau i ddechreuwyr ei gael – yn union fel y rhai hynny sy’n cael eu cynnal yn ystod Gŵyl Para Chwaraeon Abertawe – does dim ond rhaid edrych ar rywun fel Kyran Bishop, seren rygbi cadair olwyn Cymru.

Yn fachgen ifanc anfodlon, gwylio’r teledu a bwyta oedd prif ddiddordebau Kyran. Ond wrth fynychu un sesiwn blasu chwaraeon, fe newidiodd cyfeiriad ei fywyd.

‘Doeddwn i erioed yn meddwl fod chwaraeon yn rhywbeth i mi, ond â disgwyliadau isel fe es i i ddigwyddiad blasu, ac fe newidiodd fy mywyd i’n llwyr,’ meddai Kyran. ‘Rydw i wedi mynd o fod heb unrhyw amcanion mewn bywyd i fod eisiau bod y chwaraewr Rygbi Cadair Olwyn gorau y galla’ i fod.’

Ac i gau’r cylch yn daclus, roedd Kyran yn un o’r athletwyr proffesiynol oedd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn Ngŵyl gyntaf Para Chwaraeon 2022, lle cafodd ei ddewis i chwarae i’w dîm, Y Gweilch, yn Mhencampwriaeth Agored Rygbi Cadair Olwyn Cymru.

Dyn mewn cadair olwyn yn gafael mewn pêl.
Tîm o chwaraewyr rygbi cadair olwyn mewn neuadd chwaraeon.

Chwaraewr rygbi cadair olwyn, Kyran Bishop, a’r tîm yng Ngŵyl Para Chwaraeon Abertawe 2022

Doeddwn i erioed yn meddwl fod chwaraeon yn rhywbeth i mi, ond â disgwyliadau isel fe es i i ddigwyddiad blasu, ac fe newidiodd fy mywyd i’n llwyr. Rydw i wedi mynd o fod heb unrhyw amcanion mewn bywyd i fod eisiau bod y chwaraewr Rygbi Cadair Olwyn gorau y galla’ i fod."

Stori debyg sydd gan athletwr arall o Abertawe, David Smith OBE, sy’n credu bod cael ei gyflwyno i boccia (yn debyg i’r gêm Ffrengig, boules) o oedran ifanc wedi agor drysau i brofiadau a chyfleoedd na fyddai wedi cael y cyfle i’w profi fel arall.

‘Yn yr ysgol, roedd rhai yn dweud wrtha’ i na fyddwn i o reidrwydd yn dda ar unrhyw chwaraeon gan fy mod i’n rhy anabl,’ meddai David. ‘Ond fe es i i ddigwyddiad Gemau Ieuenctid Cenedlaethol a rhoi cynnig ar boccia. I ddechrau, doeddwn i’n da i ddim. Ond fe wnaeth pethau wella!’

A dweud y gwir, fe wnaeth pethau wella yn sylweddol. O fewn rhai blynyddoedd roedd David y pencampwr cenedlaethol ieuengaf erioed yn y gamp. Bedair blynedd yn ddiweddarach, roedd yn bencampwr byd. Yna, yn 2008, fe gymhwysodd ar gyfer y Gemau Para-olympaidd yn Beijing, Tseina, ac ennill y fedal aur yn y gystadleuaeth tîm.

‘Rhoddodd boccia gyfleoedd, hyder a’r gallu i edrych tuag allan i mi. Hebddo, gallai fy myd i fod wedi bod mor gyfyng ag ychydig filltiroedd tu draw i fy nrws ffrynt,’ ychwanega David.

Dyn mewn cadair olwyn yn siarad gyda phobl.

David Smith yng Ngŵyl Para Chwaraeon 2022, Abertawe

Atyniadau hygyrch yn Abertawe a thu hwnt

Tu hwnt i’r Ŵyl Para Chwaraeon, mae Abertawe yn ymfalchïo yn eu hatyniadau hygyrch niferus i ymwelwyr, o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sydd â mynediad am ddim ac sy’n lleoliad addas i gadeiriau olwyn wrth iddo adrodd hanes treftadaeth ddiwydiannol Cymru drwy arddangosfeydd lle mae braille ar gael, i Theatr y Grand, gofod perfformio hardd o oes Fictoria sy’n cynnal sioeau â sain ddisgrifio, iaith arwyddion a chapsiynau.

Ond i David Smith, un o atyniadau awyr agored Abertawe sydd ar frig ei restr ef o bethau i’w gwneud yn y ddinas.

‘Rydw i’n hoffi llwybr arfordir Bae Abertawe oherwydd mae fel petai’n ddiderfyn,’ meddai David. ‘Gallaf i gyrraedd yr holl ffordd i lawr i’r Mwmbwls, er mae batri fy nghadair yn para tua 16 milltir ac felly cael a chael fyddai gallu dod yn ôl adre!’

Mae Kyran, ar y llaw arall, yn cael ei dynnu at atyniadau bwyd y brifddinas, y mae modd ei chyrraedd â trên uniongyrchol o Abertawe.

‘Mae Caerdydd yn ddinas anhygoel. Mae’r bwytai yn wych ac mae wedi ei addasu’n dda ar gyfer ymwelwyr sydd â phroblemau hygyrchedd,’ meddai Kyran, ‘ac yn y canol mae un o fy hoff lefydd yn y byd, Stadiwm y Principality.’

Caiff Stadiwm y Principality ei adnabod fel cartref rygbi Cymru a bydd yn gartref hefyd i Bencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Ewrop am y tro cyntaf ym mis Mai 2023, digwyddiad y mae Kyran yn mynd i fod yn cymryd rhan ynddo. Ddim yn rhy ddrwg am rywun oedd yn meddwl nad oedd chwaraeon yn rhywbeth iddo ef!

‘Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon wir yn ddigwyddiad gwych a hwyliog,’ meddai Kyran, ‘Mae hefyd yn gyfle arbennig i bobl sydd erioed wedi rhoi cynnig ar chwaraeon o’r blaen i ddod i roi tro arni – os gallaf i wneud, fe allwch chithau hefyd.’

Straeon cysylltiedig