Arddangosfa His Dark Materials - Creu Bydoedd yng Nghymru, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

01 Rhagfyr 2022 - 30 April 2023. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, mewn partneriaeth â Bad Wolf, yn cynnal arddangosfa hir-ddisgwyliedig His Dark Materials sy'n dathlu'r gyfres eiconig a sut cafodd byd Philip Pullman ei ail-greu yng Nghymru. Mae'r arddangosfa am ddim ac yn cynnwys gwisgoedd a phropiau allweddol o bob un o'r tri thymor. Mae yna hefyd luniau celf ac effeithiau gweledol cysyniadol.

Gŵyl Gerdded Cas-gwent, Sir Fynwy

11 - 16 Ebrill 2023. Archwiliwch brydferthwch Dyffryn Gwy Isaf yn ystod rhaglen gerdded llawn dop. Bydd modd i gyfranogwyr ymuno ag un o'r teithiau tywys sydd ar gael yn ystod Gŵyl Gerdded Cas-gwent ac archwilio ardal brydferth Dyffryn Gwy Isaf a thu hwnt.

Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr

14 Ebrill. Mae Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr yn dathlu'r danteithfwyd Cymreig ac yn codi ymwybyddiaeth am y cynnyrch maeth anhygoel hwn.  Yn ychwanegiad clasurol i frecwast Cymraeg, gellir defnyddio bara lawr hefyd mewn ffyrdd eraill dirifedi – er enghraifft, fel sesnin, fel cynhwysyn mewn bara neu mewn saws pasta.

Mae dwsinau o fusnesau Cymru'n cefnogi Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr, gyda phopeth o brydau arbennig i gynigion arbennig, ynghyd â digwyddiadau arbennig.

Dewch i goginio rhai o'n ryseitiau blasus sy'n defnyddio bara lawr, gan gynnwys rysáit Rarebit Cymreig gyda bara lawr a chwrw neu beth am fwynhau brecwast Abertawe.

Marathon a 10K Casnewydd Cymru ABP, Gwent

16 Ebrill 2023. Rhedwch mewn un o'r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn Ewrop. Am fwy o fanylion ewch at Marathon a 10K Casnewydd Cymru ABP.

Gŵyl Crime Cymru, Aberystwyth

21 - 23 Ebrill 2023. Gŵyl Crime Cymru yw gŵyl lenyddiaeth drosedd rhyngwladol gyntaf Cymru, ac yn cynnig cyfle i gwrdd â thalentau gorau o bob cwr o'r byd a rhyngweithio â nhw. Mae'r ŵyl yn digwydd yn Aberystwyth ac yn dathlu ysgrifennu trosedd yn ei sawl ffurf.

Dydd y Farn, Stadiwm Principality, Caerdydd

22 Ebrill 2023. Mae Dydd y Farn yn dychwelyd i Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar ôl bwlch o dair blynedd. Dyma'r digwyddiad teuluol mwyaf yn y calendr rygbi, gyda Rygbi Caerdydd v Y Gweilch a Scarlets v Dreigiau RFC yn ystod penwythnos olaf Pencampwriaeth Rygbi BKT United. Bydd enillydd Tarian Cymru yn cael ei goroni'n bencampwyr rhanbarthol gyda chyflwyniad tlws tarian ar ddiwedd y tymor ac yn ennill lle awtomatig yng Nghwpan Pencampwyr Heineken 2023/24.

Gwyrthwlan, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt

22 - 23 Ebrill 2023. Gwrthwlan yw prif ŵyl gwlân a ffibrau naturiol sy'n cymryd lle yn flynyddol ar faes y Sioe Frenhinol ger Llanfair-ym-Muallt.

Gŵyl Gomedi Machynlleth

28 - 30 Ebrill 2023. Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth yn cynnwys perfformwyr comedi fel y gwelir ar y teledu, fel Stewart Lee, Nish Kumar, Josh Widdicombe, WiFi Wars ac mae llu o bethau eraill i'ch difyrru dros y penwythnos.  Mae'r dref yn adnabyddus am ei lleoliadau gwahanol, sy'n helpu i'w gwneud yn boblogaidd gyda'r perfformwyr a'r gynulleidfa.

Dwy babell fawr liwgar wedi eu hamgylchynu gan lawer o bobl yn yfed a chael amser braf
Pobl yn eistedd wrth fyrddau picnic y tu allan i'r Plas, Machynlleth

Gŵyl Gomedi Machynlleth

Gŵyl Gerdded Talgarth, Powys

28 Ebrill - 01 Mai 2023. Mae Gŵyl Gerdded Talgarth yn cynnig golygfeydd a natur gwych, yn ogystal â'r cyfle i ddysgu am hanes, daeareg a llenyddiaeth leol.

Strafagansa Fictoraidd Llandudno, Conwy

29 Ebrill - 01 Mai 2023. Mae Strafagansa Llandudno Fictoraidd yn digwydd bob blwyddyn ar ŵyl y Banc ddechrau mis Mai. Mae yna ffair hwyliog, hen atyniadau ac adloniant am ddim.

Helfa Ysbryd, Castell Gwrych, Abergele

29 Ebrill 2023. Mwynhewch helfa ysbryd yng Nghastell Gwrych, y cofiwch chi efallai o'r sioe deledu I'm A Celebrity ... Get Me Out of Here. Mae 'na un yn digwydd bob mis hefyd trwy gydol y flwyddyn.

Amgueddfa Cymru

Mae wastad digon i'w weld yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol, gydag amrywiaeth o arddangosfeydd parhaol. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ym mhob un o'r saith amgueddfa. I weld rhestr llawn o beth sy 'mlaen, ewch at y dudalen Digwyddiadau.

Ôl troed ffosiledig o ddeinosor ar graig.

Ôl Troed Ffosil Lily, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Straeon cysylltiedig