Pryd wedi'i wneud â chaws Cymreig, mwstard a chwrw lleol. Roedd y pryd yn cael ei galw’n ‘caws wedi’i rostio’ yn y canol oesoedd a 'caws pobi' yn ddiweddarach. Mae’n defnyddio caws wedi’i gratio wedi’i gymysgu â llefrith neu gwrw a mwstard i’w roi ar dost neu datws trwy’u crwyn.

Cynhwysion

225g Caws Cymreig Aeddfed

25g Menyn, wedi'i doddi

1 Llwy fwrdd o Worcestershire Sauce

1 Llwy fwrdd o fwstard

1 Llwy fwrdd o flawd plaen

Pupur du wedi'i falu

4 Llwy fwrdd o gwrw Cymreig

1 Llond llwy fwrdd o fara lawr

4 Tafell o fara trwchus

Dull

Gweini: 4 | Amser paratoi: 10 munud | Amser coginio: 10 munud

1.    Gratiwch y caws a'i roi mewn sosban hefo’r menyn, Worcestershire Sauce, mwstard, blawd a phupur. Cymysgwch yn dda dros wres ysgafn. Ychwanegwch y cwrw yn raddol ond peidiwch a gwneud y gymysgedd yn rhy wlyb. Trowch nes ei fod wedi toddi a phan fydd wedi troi’n bast trwchus tynnwch o'r gwres a'i adael i oeri ychydig.

2.    Yn y cyfamser tostiwch y bara ar un ochr yn unig ac yna taenwch y bara lawr dros yr ochr wedi'i dostio cyn rhoi’r cymysgedd caws ar ei ben. Griliwch yn ysgafn nes ei fod wedi'i goginio drwyddo a'i frownio'n dda.

3.   Gellir gwneud y cymysgedd o flaen llawn a'i gadw yn yr oergell am sawl diwrnod os oes angen.

Rarebit Cymreig

Rarebit Cymreig gyda Bara Lawr a Chwrw Cymreig

Straeon cysylltiedig