Mae diwylliant coffi Cymru wedi ffynnu’n ddiweddar, gyda siopau coffi heb eu hail i’w canfod ledled y wlad. Efallai mai coffi llaeth hyfryd mewn dinas brysur fydd yn eich denu, neu gornel fach glyd lle cewch chi fwynhau cacen gyda’ch paned. Neu rywle ar lan y môr, o bosibl, sy’n cynnig coffi tan gamp law yn llaw â golygfeydd gwell fyth. Oes, mae gan Gymru rywbeth at ddant pawb sy’n hoffi coffi. Ac o Fôn i Fynwy, mae gan bob ardal ei chymeriad ei hun yn hyn o beth, a’r cynnyrch lleol wastad yn cael sylw amlwg. Felly hefyd yr awyrgylch croesawgar sy’n gwneud unrhyw stop am baned yn brofiad cwbl werth chweil.
Cymerwch gip fesul ardal, felly, i ganfod y llefydd gorau am goffi yng Nghymru.
https://www.visitwales.com/things-do/food-and-drink/places-eat-and-drink/coffee-break-welsh-independent-cafe#north
Providero, Llandudno
Yn ogystal â rhoi pwyslais ar fasnach foesegol, mae’r Providero Tea & Coffee House yn Llandudno yn gweini coffi arbenigol sy’n cael ei rostio yno’n ffres. A dweud y gwir, mae dau o gaffis Provideros yn y cyffiniau. Y ‘Prov Mawr’ maen nhw’n galw’r un yn 112 Stryd Mostyn Uchaf, a’r ‘Prov Bach’ sydd yn 138 Stryd Conwy yng Nghyffordd Llandudno. Ac ar ôl mwynhau holl awyr iach y môr, fe fyddwch chi’n haeddu stopio ddwywaith! Yn Llandudno, cofiwch fwynhau’r awyrgylch glan môr Fictoraidd cyn mynd am dro drwy brydferthwch Dyffryn Conwy.
Pantri, Llanberis
Hen ffefryn ar stryd fawr Llanberis ydy Pantri, lle mae’r coffi wastad yn dda a’r awyrgylch bob tro’n hamddenol braf. Mae yma ddewis gwych hefyd o frecwastau, cacennau hyfryd a phrydau cartref o’r iawn ryw, ac mae’r croeso yma’n ei wneud yn lle perffaith i gael hoe cyn neu ar ôl diwrnod caled o fynydda.
Ewch am dro bach ar hyd glannau Llyn Padarn a mwynhau’r golygfeydd wedyn, neu neidiwch ar Drên Bach yr Wyddfa i ddringo’r mynydd mewn steil. Os byddwch chi’n teimlo’n fwy egnïol, llwybr Llanberis ydy un o’r rhai hawsaf i’r copa. Yn nes at ganol y pentref, mae Castell Dolbadarn yn lle da i fynd am dro a mwynhau’r olygfa o’r llyn.
L's Coffee & Book Shop, Conwy
Yng nghanol harddwch y stryd fawr yng Nghonwy, mae L's Coffee & Book Shop yn gaffi bach annibynnol clyd, dafliad carreg o’r harbwr a muriau hynafol y dref.
Caffi sy’n cael ei redeg gan deulu ydy hwn, a’r croeso wastad yn gynnes. Mae L’s yn gweini coffi ffres ynghyd â bwydlen frecwast a chinio a chacennau cartref. Maen nhw’n darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion dietegol hefyd. Mae’r silffoedd yn orlawn o lyfrau, a hynny’n ychwanegu at y naws. Yn wir, mae’n golygu bod hwn yn lle hyfryd i gael hoe fach. Yn ogystal â muriau tref Conwy, fe fyddwch chi’n llymeitian eich paned yng nghysgod Castell Conwy. Ac mae’r dref ei hun yn llawn dop o siopau annibynnol, difyr.
Llanbenwch Café & Shop, Rhuthun
Nepell o Ruthun, mae Caffi a Siop Llanbenwch yn lle braf tu hwnt ym mherfeddion Dyffryn Clwyd yn y gogledd-ddwyrain.
Y tu mewn, fe gewch chi goffi ffres a bwydlen syml yn cynnig brecwast, cinio ysgafn, byrbrydau a chacennau cartref, a’r rheini’n cael eu gweini drwy’r dydd. Mae yno hefyd siop fechan ar y safle yn llawn cynnyrch Cymreig, o fwydydd bob dydd i ddanteithion y fro. Mae’n lle cyfleus dros ben felly i stopio am goffi.
Yn nhref farchnad hanesyddol Rhuthun, cofiwch gael cip ar y castell, yr adeiladau o fframiau pren, a’r siopau bach annibynnol rif y gwlith. Hefyd gerllaw mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd – lle campus i grwydro yn yr awyr agored, gyda’r llethrau a’r coedwigoedd yn llefydd perffaith i gerdded, seiclo a marchogaeth ynddyn nhw.
Narrative Coffee, Rhaeadr
Caffi cymunedol ydy Narrative Coffee sy’n gweini rhai o goffis gorau’r byd gan rai o gwmnïau rhostio amlycaf Prydain. Cyrhaeddodd Sam, y perchennog, rownd derfynol y London Coffee Masters yn 2025. Os nad ydy coffi at eich dant, mae yma hefyd de dail rhydd, cacennau cartref ac ysgytlaethau ffres. Mae’r caffi ar agor drwy’r wythnos gron ac yn lle sy’n denu connoisseurs coffi o bob cwr o’r wlad.
Ar ôl mwynhau’ch paned, ewch i grwydro’r canolbarth neu am dro o amgylch siopau annibynnol Rhaeadr Gwy. A honno’n dref gyfleus ar y briffordd, ac o fewn tafliad carreg i Gwm Elan, mae’n lle delfrydol am hoe cyn neu ar ôl diwrnod yn anturio yn yr awyr agored.
Crwst, Aberteifi
Ym myd coffi’r gorllewin, mae Crwst yn Aberteifi yn enwog am ei goffi gwych, ei frecwastau hwyr creadigol, ac fel mae’r enw’n awgrymu, am ei basteiod a’i deisennau! Mae popeth yn cael ei greu ar y safle gan ddefnyddio cynhwysion lleol, sy’n rhoi gwir ymdeimlad o le yma, tra bo’r ansawdd wastad yn rhagorol. Dafliad carreg o’r afon, mae’n lle gwych i gael hoe cyn crwydro’r castell neu anelu am yr arfordir.
Mae Castell Aberteifi ei hun yn sefyll mewn llecyn hynod uwchben afon Teifi, tra bo’r siopau bach, yr orielau a’r strydoedd marchnad yn rhoi tipyn o gymeriad i’r dref enwog hon. Os ydy byd natur yn mynd â’ch bryd, tro bach ar Draeth Poppit amdani, tra bo Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhoi golygfeydd hyfryd o’r môr a chyfleoedd i weld bywyd gwyllt, gan gynnwys morloi a dolffiniaid. O ddilyn glannau’r afon wedyn, mae Gwarchodfa Natur Cors Teifi yn lle hyfryd i fynd am dro drwy un o wlyptiroedd pwysicaf Cymru.
Coaltown Coffee, Rhydaman
Maen nhw’n rhostio coffi hynod ffres yn Coaltown Coffee yn Rhydaman. Yn wir, mae’r dref a arferai fod yn enwog am ei haur du – glo – bellach yn adnabyddus am aur du go wahanol – coffi! Mae’r caffi hwn wedi ennill gwobrau am ei goffi arbenigol, ac fe allwch chi brynu cyflenwad i fynd gartref gyda chi. Os byddwch chi ar fymryn mwy o frys, mae modd cael coffi i fynd o’r Roastery Espresso Bar hefyd.
Moth Coffi, Llanelli
Yng nghanol tref Llanelli, mae Moth Coffi yn lle bach annibynnol sy’n rhoi pwys mawr ar ansawdd a chreadigrwydd. Mae naws gyfoes dros ben i’r adeilad, a dyma le sy’n prysur wneud enw iddo’i hun ymhlith y rheini sy’n chwilio am goffi da yn y gorllewin.
Mae’r coffi arbenigol yn cael ei baratoi gyda gofal yma, tra bo ganddyn nhw fwydlen fechan o ddiodydd a phethau da o’r popty. Mae’r holl bwyslais fan hyn ar wneud pethau’n iawn ac ar y blas, a’r arlwy’n newid yn gyson er mwyn bodloni’r cwsmeriaid cyson a’r ymwelwyr sy’n galw yma y tro cyntaf.
Mae’r caffi’n fan cychwyn perffaith i grwydro’r ardal yn ehangach. Ym Mharc Arfordir y Mileniwm, fe gewch chi filltiroedd o lwybrau cerdded a seiclo ar lan y môr, ynghyd â golygfeydd hyfryd dros Aber Llwchwr, tra bo Parc Gwledig Pen-bre gerllaw yn cyfuno llwybrau coediog â thraeth braf. Yn ôl yn y dref ei hun, ewch i Farchnad Llanelli a Pharc Howard i gael blas o sut mae’r bobl leol yn byw.
The Café at Ridgeway, Casnewydd
Peidiwch â dychryn, ond toiled cyhoeddus oedd hwn ar un adeg! Diolch i’r drefn, mae The Café at Ridgeway ar Heol Allt-yr-Ynn, Casnewydd, yn lle crandiach o dipyn erbyn heddiw, ac yn enwog am y golygfeydd hyfryd oddi yno o Warchodfa Natur Allt-yr-Ynn. Ond nid arbenigwyr ar rostio ffa coffi yn unig ydyn nhw fan hyn. Cadwch lygad am y te prynhawn prosecco, y bwyd stryd achlysurol, a’r dyddiau Iau pan fydd aroglau’r tapas yn llenwi’r lle.
Mae nifer o lwybrau drwy’r goedwig yng Ngwarchodfa Natur Allt-yr-Ynn. Neu beth am fynd am dro i Dŷ Tredegar lle mae’r gerddi’n werth eu gweld, neu ddilyn afon Wysg a mwynhau’r celf stryd ar y glannau?
Dugout Coffee, Y Fenni
A hwnnw i’w ganfod ar Lion Street yn y Fenni, mae’r awyrgylch yng nghaffi annibynnol Dugout Coffee yn ymlaciol braf, a dyma le delfrydol i gael hoe wrth grwydro. Dafliad carreg yn unig o neuadd y farchnad a siopau bach y dref, mae’n lle penigamp am baned wrth bori yn y ffenestri neu wrth fynd am dro tuag at y castell neu lan yr afon.
Ac mae’r coffi’n rhagorol hefyd. Mae’r coffi llaeth a’r americanos yn cael eu creu gan wir arbenigwyr, tra bydd paneidiau tymhorol arbennig hefyd ar gael, yn ogystal â detholiad danteithiol o gacennau a phethau melys. Maen nhw’n gyfeillgar ac yn ddi-ffws iawn yma, sy’n golygu bod paned i fynd yn opsiwn gwych hefyd os nad oes gennych chi amser i hamddena y tro hwn.
Mae’r Fenni’n enwog am ei bwyd, a chaffi Dugout a’i goffi’n ddibynadwy tu hwnt boed chi’n dechrau’ch dydd neu’n gorffwyso ar ôl diwrnod o grwydro’r cefn gwlad cyfagos.
Baffle Haus, Y Bont-faen a’r Fenni
Ar gyrion y Bont-faen ac o fewn pellter agos i’r Fenni, mae Baffle Haus wedi hen ennill ei blwyf yn y rhan wledig hon o’r de. Gyda golygfeydd braf a theimlad cartrefol iawn yno, mae’n boblogaidd ymhlith beicwyr modur ac unrhyw un sy’n chwilio am goffi da neu damaid bach i’w fwyta ar ganol taith. Mae yma siop a lle i gymdeithasu hefyd, sy’n gwneud i fan hyn deimlo’n llawer mwy na dim ond caffi.
Oddi yma, rydych chi mewn lle gwych i fynd yn eich blaenau i grwydro Bro Morgannwwg a Threfynwy. Ewch am dro i’r Bont-faen ei hun – tref fach hyfryd yn llawn o siopau annibynnol – neu i’r Fenni ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, tref sy’n enwog am ei sîn fwyd.
Coffi Caerdydd
Mae’r byd coffi’n ffynnu yng Nghaerdydd hefyd– ac mae yno ormod o lawer o lefydd rhagorol i’w henwi nhw i gyd. O gaffis annibynnol sy’n rhostio’u ffa eu hunain i lefydd llawn steil yng nghanol y ddinas, mae paned dda wastad o fewn cyrraedd yn y brifddinas. Rydyn ni wedi creu rhestr fach o rai o’n ffefrynnau yn ein canllaw i’r llefydd coffi gorau yng Nghaerdydd .