About Castell Conwy (Cadw)
Caer ganoloesol fawreddog yn dal i sefyll uwchben y dref ar ôl 700 mlynedd.
Diolch i’r grisiau tro a adferwyd yn ei dyrau mawr, gallwch gerdded cylch cyflawn o gwmpas bylchfuriau Castell Conwy. Argymhellwn hynny’n fawr. Hon yw un o’r caerau canoloesol mwyaf mawreddog yn Ewrop.
Yn y pellter cwyd mynyddoedd clegyrog Eryri ac oddi tanoch mae harbwr a strydoedd cul Conwy yn ymestyn o’ch blaenau - wedi’u gwarchod o hyd gan 1,400 o lathenni (1.3km) o gylch di-dor o furiau trefol.
Mae’n ddigon i fynd â’ch gwynt. Yn enwedig o ystyried bod Brenin Edward I a’i bensaer James o San Siŵr wedi adeiladu’r castell a’r waliau mewn pedair blynedd anhygoel rhwng 1283 a 1287.
Cymer Conwy ei le ochr yn ochr â chestyll gwych eraill Edward ym Miwmares, Harlech a Chaernarfon yn Safle Treftadaeth y Byd.
Mae’r gaer enwog hon mewn cyflwr eithriadol o dda. Mae’n cynnwys y gyfres fwyaf cyflawn o randai brenhinol canoloesol yng Nghymru. Cwyd y llenfur uchel ac wyth tŵr urddasol bron mor drawiadol ag adeg eu hadeiladu fwy na 700 mlynedd yn ôl.
Felly peidiwch ag ofni dringo’r grisiau hynny, os gallwch chi, er mwyn llawn brofi Conwy. Nid oes un lle gwell ym Mhrydain i sefyll ar y bylchfuriau a breuddwydio.