Attraction

Llwybr Arfordirol y Mileniwm

View Point
Beth am gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sy'n mynd o Lanelli i Barc Dŵr y Sandy, Porth Tywyn a Choedwig Pen-bre? Mae golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr i'w cael ar y promenâd ysblennydd. Mae digon

Attraction Information

Facilities

  • Croesewir plant
  • Croeso i Anifeiliaid Anwes
  • Cyfleusterau Hygyrchedd
  • Cyfleusterau Symudedd
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

Take a look around

About Llwybr Arfordirol y Mileniwm

Beth am gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sy'n mynd o Lanelli i Barc Dŵr y Sandy, Porth Tywyn a Choedwig Pen-bre? Mae golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr i'w cael ar y promenâd ysblennydd. Mae digonedd o lefydd parcio a maes chwarae antur heb ei ail yn ogystal. Gellir llogi beiciau o Barc Sglefyrddio Ramps, sy'n llecyn annisgwyl braidd ar gyrion y dref ond sydd wedi denu sylw sglefyrddwyr o bell ac agos.
Yng nghanol Parc Arfordirol y Mileniwm mae'r Ganolfan Ddarganfod a Chaffi Flanagan, sy'n dod ag elfen o'r Riviera i'r Parc. Mae bwydlen y caffi'n cynnig amrywiaeth o giniawau ysgafn, byrbrydau, a diodydd eraill, ac mae rhywbeth addas i bawb sy'n ymweld â'r lle. Mae'n fan delfrydol i ymwelwyr â'r parc ymlacio a mwynhau'r golygfeydd hyfryd o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr. Mae yno giosg hufen iâ a maes chwarae antur hefyd, felly mae'n lle perffaith i gadw'r plant yn brysur.

View Point
View Point

Lleoliad

51.78704, -3.99343

Like what you see at Llwybr Arfordirol y Mileniwm
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Llwybr Arfordirol y Mileniwm. © Llwybr Arfordirol y Mileniwm 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig