Boathouse Dylan Thomas

Arferai tref ddeniadol Talacharn ger aber Afon Taf, fod yn gartref i un o’n llenorion enwocaf, Dylan Thomas. Tybir mai Talacharn oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei ddrama enwocaf, Dan y Wenallt / Under Milk Wood. Mae llawer o safleoedd a gysylltir ag ef yma.

Ysgrifennodd ei waith Portrait of the Artist as a Young Dog yn nhŷ haf y castell, gyda golygfeydd ysgubol ar draws aber Taf. Ac mae’r Boathouse, ble bu’n byw gyda’i wraig Caitlin a’u plant wedi’i adael bron heb ei gyffwrdd – mae gan ei sied gyfansoddi yn yr ardd ei nodiadau o gwmpas y lle ar y ddesg hyd heddiw. Cewch y teimlad cryf ei fod ond newydd ddianc am ddiod i Westy Brown’s, ei hoff dafarn, herc cam a naid i ffwrdd yn y pentref.

Outside Brown's Hotel, with a group of people.
White cottage and garden near the sea.

Gwesty Brown's a’r Boathouse yn Nhalacharn

Plas Llanelly House

Lleolir Plas Llanelly House ynghanol tref Llanelli ac mae'n enghraifft ddeniadol o blasty o’r oes Sioraidd. Plymiwch i’r gorffennol ar daith dywys; cafodd sawl ystafell eu dodrefnu fel pe bydden nhw wedi edrych ganrifoedd yn ôl. Cewch ddysgu am fywydau Syr Thomas a’r Fonesig Stepney fu’n byw yma yn y ddeunawfed ganrif, ac yna barhau i gyfnod Oes Fictoria. Mae digonedd o hanesion am sgandal ac ysbrydion!

Ar ôl i chi ystyried y bensaernïaeth, cynnwys yr ystafelloedd a’r naws, byddwch yn haeddu rhywbeth bach blasus neu baned o’r caffi. Am rywbeth mwy sylweddol, mae’r bwyty’n gweini seigiau a ffynonellir yn lleol a’u hysbrydoli gan Gymru.

Amgueddfa Wlân Genedlaethol Cymru

Yn hanesyddol, gwlân oedd diwydiant pwysicaf ac ehangaf Cymru ac mae’r grefft a gysylltir â siolau, blancedi a charthenni a wnaed yng Nghymru’n wybyddus ledled y byd. Lleolir Amgueddfa Wlân Genedlaethol Cymru yn hen felin Cambrian a arferai wneud dillad a dodrefn gwlân a allforiwyd i bedwar ban byd.

Drwy ymweld â’r amgueddfa gallwch olrhain taith gwlân o’r cnu i’r defnydd rhwng muriau rhestredig y felin hon a adnewyddwyd mor ddeniadol. Mae’r amgueddfa’n gartref i bob math o offer hanesyddol a ddefnyddid yn y melinau gwlân, a gallwch weld golygfa wych o’r tecstilau a gynhyrchir hyd heddiw ym Melin Teifi, melin wlân fasnachol y safle, o’r rhodfa.

Dyn yn defnyddio peiriant gwlân mawr
Bachgen a merch yn dal gwlân i fyny gyda llawer o wlân o’u blaenau
Dyn yn defnyddio peiriant gwehyddu

Dysgu am wehyddu yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol

Mwyngloddiau Aur Dolaucothi

Darganfu’r Rhufeiniaid fod aur yn y creigiau fan hyn ryw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, a bu pobl yn cloddio am y metel mwyaf gwerthfawr hwn yma hyd at y 1930au. Mae taith Mwyngloddiau Aur Dolaucothi’n olrhain esblygiad mwyngloddio yn Sir Gaerfyrddin ar hyd y canrifoedd, o’r cloddfeydd Rhufeinig syml hynny drwy byllau tanddaearol ar y ffordd. Byddwch yn gwisgo het galed ac mae ambell ddarn yn cynnwys grisiau go serth. Ar ôl gorffen gallwch roi cynnig ar banio am aur drosoch eich hun. Er nad oes caffi yma, mae ardal bicnic braf, felly beth am ddod â phecyn bwyd gyda chi?

 

Parc, Tŷ a Chastell Dinefwr

Gallwch deithio’n ôl drwy amser bellach i 1912 yn safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr. Mae’r adeilad rhestredig Gradd II* Tŷ Newton yn wledd ysblennydd o ffenestri a phileri Gothig bwaog, gyda thyrrau pigfain ar bob cornel. Mae’r arddangosfeydd a welir y tu mewn yn adrodd hanes Dinefwr, a gallwch ymuno â thaith dywys os hoffech ddysgu mwy.

Gallwch hefyd archwilio cynefinoedd amrywiol ar draws yr ystâd 800 erw, gyda bywyd gwyllt sy’n cynnwys gwartheg Parc Gwyn prin y parc, y bwchadanas, ieir bach yr haf a choed – rhai ohonynt yn tyfu ers 700 mlynedd! Gerllaw, ar fryn yn edrych dros Afon Tywi mae adfeilion atgofus Castell Dinefwr. Naddwyd ei ffosydd o wyneb y graig i ffurfio ffos ddŵr, tŵr crwn a rhodfeydd ar hyd copaon darnau byrion o fur.

Maenordy mawr a’i dyrrau wedi’u gorchuddio ag iorwg sy’n dringo, wedi’i weld o fainc eistedd

Tŷ Newton ar Ystâd Dinefwr

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae’r lleoliad deniadol hwn yn Nyffryn Tywi’n gartref i’r tŷ gwydr un-bwa mwyaf yn y byd, lle eithriadol, fel cadeirlan, yn llawn goleuni pefriog. Llanwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru â phob math o blanhigion unigryw a blodau o bob lliw, ac mae’n lle gwych ble gall plant archwilio ac oedolion grwydro.

Mae llawer mwy o ardd y tu fas i’r tŷ gwydr hefyd, gyda llwybrau thematig yn rhoi cyfle i chi ddysgu am yr uchafbwyntiau naturiol gwahanol drwy gydol y flwyddyn. Ynghyd â’r gerddi, mae’r Aqualab ble gallwch edrych ar fywyd pyllau dŵr yn fanwl, y gerddi apothecari sy’n cynnwys perlysiau iachusol a blodau persawrus, a Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, cartref i ysglyfwyr o bob math. Mae yma hefyd ardal chwarae i blant, caffi blasus a siop grefft ac oriel.

Darllen mwy: Ymgollwch yn un o’n gerddi

Llun o'r tu fewn i'r Tŷ Gwydr Mawr a phlanhigion
Pobl o gwmpas bwrdd mewn ystafell fotanegol yn gwneud jin.

Y Tŷ Gwydr Mawr a’r Ystafell Fotanegol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Cestyll yn Sir Gaerfyrddin

Mae gan Gymru fwy o gestyll i bob milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall – dros 400 i gyd! Does fawr o ryfedd felly fod gan Sir Gâr ei siâr o adfeilion.

Carreg Cennen

Dyma gasgliad ysblennydd arall o adfeilion ar frig lwmp enfawr o wenithfaen; gwelir lluniau’n aml o Garreg Cennen o bellter, gyda niwlen yn glynu wrth y cymoedd o gwmpas. Yn ogystal â gweld yr hen adfeilion yma, ceir ogof danddaearol eithriadol yn nyfnder y graig islaw’r castell. Cofiwch fynd â thortsh a byddwch yn ofalus ar y grisiau llithrig!

Plant yn archwilio waliau mewn castell hynafol
Bachgen a merch yn cerdded drwy ddrws bwaog i archwilio adfeilion castell.

Darganfod waliau a choridorau Carreg Cennen

Castell Cydweli

Castell Cydweli, yn y dref bert sy’n rhannu’r un enw, yw un o’r cestyll a gadwyd orau yn holl Sir Gâr. Mae’r castell Normanaidd gwreiddiol a adeiladwyd o bridd a phren yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif, tra bo’r strwythur carreg trawiadol sy’n dal i sefyll ond yn dyddio’n ôl ryw 600 mlynedd! Efallai y bydd caredigion y byd ffilm yn adnabod Cydweli ar ôl iddo ymddangos am eiliadau ar ddechrau Monty Python & The Holy Grail.

Castell Llansteffan

Mae lleoliad Castell Llansteffan yn berffaith. Cewch eich syfrdanu gan y golygfeydd anhygoel ar draws Bae Caerfyrddin ac aber Afon Tywi, yn ogystal â’r tir fferm cyfoethog o boptu. Bydd angen dilyn llwybr troellog i fyny’r bryn i gyrraedd y porth a’i fwa sylweddol, tyrrau nerthol ac olion sylweddol y muriau garw. Dringwch i fyny y tu fewn i gael y golygfeydd gorau.

Castell Llansteffan oddi fry, Sir Gaerfyrddin

Mae gan Gastell Llansteffan olygfa ddelfrydol

Castell Caerfyrddin

Arferai hwn fod yn un o gestyll mwyaf Cymru, adeg ei adeiladu gan y Brenin Harri I Normanaidd. Erbyn hyn dim ond y porth mwsoglyd a rhannau o’r ddau dŵr sy’n dal i sefyll. Crwydrwch o gwmpas y waliau a dringwch i mewn i gael golygfeydd ar draws y dref ac afon Tywi.

Castell Dryslwyn

Saif adfeilion hudol Castell Dryslwyn ar gopa creigiog â golygfeydd dros ddyffryn Tywi. Mae’r cadarnle hwn yma diolch i un o dywysogion Cymreig Deheubarth, hen deyrnas yn ne-orllewin Cymru. Erbyn heddiw, saif darn bach o’r waliau canol ac allanol, ond y peth gwerth chweil ar ôl dringo i fyny yma yw’r golygfeydd ysgubol.

 

Golwg o bell o adfeilion castell ar ben bryn ynghanol cymylau isel

Castell Dryslwyn yn niwl y wawr

Straeon cysylltiedig